Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Elections Act changes
Mae newidiadau i'r trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy. Mae'r newidiadau yn gymwys i'r canlynol:
- Etholiadau cyffredinol Senedd y DU, is-etholiadau a deisebau adalw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Gallwch wneud cais ar-lein am rai mathau o bleidlais drwy ddirprwy ac mae newidiadau i faint o bobl y gall pleidleisiwr fod yn ddirprwy iddynt.
Mae'r newidiadau i nifer y bobl y gallwch chi weithredu fel dirprwy ar eu rhan hefyd yn berthnasol mewn etholiadau yng Ngogledd Iwerddon.
Os gwnaethoch gais am bleidlais drwy ddirprwy cyn 31 Hydref 2023, daeth hyn i ben ar 31 Ionawr 2024 ac mae angen i chi wneud cais am un newydd.
Gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio
Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Dysgwch a ydych yn gymwys i gofrestru a sut i wneud cais
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bleidlais drwy ddirprwy yn barod, cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol i gael gwybod.
Beth yw pleidlais drwy ddirprwy?
Os byddwch yn gwybod na fydd modd i chi gyrraedd eich gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch ofyn i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo fwrw eich pleidlais ar eich rhan . Pleidleisio drwy ddirprwy yw'r enw ar hyn a chyfeirir yn aml at y sawl sy'n bwrw eich pleidlais fel eich dirprwy.
Gall yr unigolyn sy'n pleidleisio ar eich rhan naill ai fynd i'ch gorsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, neu gall wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy'r post.
Rhoi rheswm
Wrth gwblhau'r cais, bydd angen i chi roi rheswm pam na allwch fynd i'ch gorsaf bleidleisio eich hun.
Efallai eich bod i ffwrdd ar wyliau, i ffwrdd gyda'ch gwaith, neu gall fod gennych anabledd sy'n golygu na allwch fynd i'ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Pan fyddwch yn gwneud cais am bleidlais newydd drwy ddirprwy, rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflen gais am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Cwblhau cais
I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer rhai etholiadau o dan amgylchiadau penodol.
Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod ar eich ffurflen gais. Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i chi hefyd ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol.
Bydd angen i chi gwblhau cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy os ydych wedi symud tŷ neu wedi newid eich enw.
Gallwch ddewis gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol, math penodol o etholiad, neu’r holl etholiadau yr ydych yn gymwys i bleidleisio ynddynt.
Pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol
Lawrlwythwch, argraffwch a chwblhewch y ffurflen hon i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol. Gallai hyn fod oherwydd eich bod ar wyliau neu i ffwrdd gyda’ch gwaith ar y diwrnod pleidleisio.
Ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad neu refferendwm penodol (PDF)
Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gallwch hefyd o wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy ddirprwy drwy wefan GOV.uk.
Pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol
Os ydych chi am wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer math penodol o etholiad yn unig (er enghraifft, ar gyfer etholiadau'r cyngor), mae angen i chi gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol.
Pleidlais drwy ddirprwy hir-dymor neu barhaol
Defnyddiwch un o’r ffurflenni hyn os na fyddwch yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio hyd y gellir rhagweld, neu am gyfnod hir.
Mae’r ffurflen sydd angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar eich rheswm dros bleidlais drwy ddirprwy.
- Mae gennych anabledd (PDF)
- Byddwch i ffwrdd ar gwrs addysgol (PDF)
- Byddwch i ffwrdd gyda gwaith (PDF)
- Rydych wedi cofrestru fel pleidleisiwr tramor (PDF)
- Rydych yn gweithio i’r British Council neu fel Gwas y Goron (PDF)
- Rydych yn gwasanaethu dramor yn y Lluoedd Arfog (PDF)
- Rydych wedi cofrestru fel etholwr dienw (PDF)
Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gallwch hefyd wneud cais ar-lein drwy GOV.uk os ydych yn byw dramor neu'n bleidleisiwr yn y lluoedd arfog.
Help gyda’r ffurflen hon
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda’ch cais, os na allwch argraffu’r ffurflen gais, neu os bydd ei hangen arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â’r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol am help.
Ble i anfon eich ffurflen wedi'i chwblhau
Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen a sicrhau eich bod wedi'i llofnodi, bydd angen i chi ei hanfon i dîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol.
Gallwch anfon eich ffurflen drwy'r post. Mae'n bosibl hefyd y bydd y tîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol yn derbyn copi wedi'i sganio o'ch ffurflen drwy e-bost, ond dylech gadarnhau hyn gyntaf.
Pan fyddwch yn newid neu’n canslo pleidlais drwy ddirprwy neu bleidlais ddirprwy drwy'r post bresennol, rhaid i'ch cais gyrraedd tîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Darganfod ble i anfon eich ffurflen
Chwilio am god post
Pleidlais ddirprwy drwy’r post
Os na all yr unigolyn rydych yn ymddiried ynddo gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gall wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy'r post. Pleidlais ddirprwy drwy'r post yw'r enw ar hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais ddirprwy drwy'r post yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Bydd angen iddo gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol i gael rhagor o fanylion a gofyn am ffurflen gais arall.
Sut i ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy
Os byddwch wedi enwebu dirprwy, ond yna'n newid eich meddwl ac yn dymuno pleidleisio eich hun, mae gennych sawl opsiwn.
Un opsiwn yw y gallwch wneud cais i ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy.
- Yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
- Yn yr Alban, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol.
Y dyddiad cau ar gyfer canslo pleidlais drwy ddirprwy yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Os bydd pleidlais ddirprwy drwy'r post eisoes wedi cael ei chwblhau a'i dychwelyd, ni all y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiad hwnnw gael eu canslo.
Un opsiwn arall yw y gallwch bleidleisio eich hun. Gallwch wneud hyn ar yr amod eich bod yn pleidleisio cyn eich dirprwy. Ni allwch wneud hyn os bydd eich dirprwy eisoes wedi pleidleisio drwy'r post ar eich rhan.
Fel arall, gallwch wneud cais am bleidlais bost. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad y byddwch yn pleidleisio ynddo. Bydd y cais hwn am bleidlais bost yna'n canslo eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy.
Pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng
O dan amgylchiadau penodol, pan fydd argyfwng sy'n golygu na allwch bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.