Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd Cymru, etholiadau Senedd yr Alban, mewn etholiadau lleol yng Nghymru ac mewn etholiadau cynghorau yn yr Alban
Ni ddylai ymgyrchwyr byth cyffwrdd â dogfennau pleidleisio trwy’r post unrhyw un arall na'u trin a'u trafod.
Mae’r term “dogfen pleidleisio trwy’r post” yn cwmpasu papur pleidleisio trwy’r post, datganiad pleidleisio trwy'r post, datganiad hunaniaeth, amlenni ar gyfer dychwelyd dogfennau pleidleisio trwy’r post ac amlen sy’n cynnwys pecyn pleidleisio trwy’r post.
Os bydd rhywun yn gofyn i chi am help i gwblhau papur pleidleisio, dylech bob amser gyfeirio'r pleidleisiwr at staff y Swyddog Canlyniadau yn y swyddfa etholiadau, a fydd o bosibl yn gallu trefnu ymweliad cartref os bydd angen. Bydd cymorth ar gael i etholwyr mewn gorsafoedd pleidleisio hefyd.
Campaigners should never observe voters completing their ballot paper.
Ni ddylai ymgyrchwyr byth arsylwi ar bleidleiswyr yn cwblhau eu papur pleidleisio. Os byddwch gyda phleidleisiwr pan fydd yn cwblhau ei bapur pleidleisio, cofiwch y dylai bob amser ei gwblhau'n gyfrinachol.
Dylech sicrhau bod y pleidleisiwr yn selio'r ddwy amlen yn bersonol ac yn syth ar ôl cwblhau ei bapur pleidleisio a'i ddatganiad pleidleisio trwy'r post. Os gofynnir i chi am gyngor, mae'n dderbyniol ac yn ddefnyddiol yn aml esbonio'r broses bleidleisio, ond peidiwch â chynnig helpu unrhyw un i gwblhau ei bapur pleidleisio.
Lle bynnag y bo'n ymarferol, dylech annog pleidleiswyr i bostio'r pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'u gwblhau neu ei ddosbarthu eu hunain. Os bydd pleidleisiwr yn dod atoch neu'n gofyn am help am nad yw'n gallu postio ei becyn pleidleisio trwy'r post wedi'i gwblhau na gwneud trefniadau eraill i'w ddychwelyd mewn pryd, dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau i ofyn iddo/iddi drefnu i'r pecyn gael ei gasglu.