Return to The Electoral Commission Homepage

Cymdeithasau anghorfforedig

Mae’n rhaid i gymdeithasau anghorfforedig gofrestru gyda ni pan fyddant yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 mewn blwyddyn galendr. Ar ôl cofrestru, mae’n rhaid iddynt roi gwybod i ni am anrhegion penodol maent yn eu derbyn.

Beth yw cymdeithas anghorfforedig?

Yn gyffredinol, cymdeithas o ddau unigolyn neu fwy yw cymdeithas anghorfforedig sydd wedi dod at ei gilydd i gyflawni cydamcan.

Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodau adnabyddadwy sydd wedi’u rhwymo gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae’r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli’r gymdeithas anghorfforedig.

Weithiau gellir ffurfioli’r rheolau, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes angen iddynt gael eu ffurfioli.

Er enghraifft, mae clybiau aelodau weithiau yn gymdeithasau anghorfforedig.

Mae rhai mathau o gymdeithasau anghorfforedig sydd wedi cofrestru gyda ni yn y gorffennol yn cynnwys clybiau ciniawa gwleidyddol a grwpiau o gynghorwyr.

Pryd y mae’n rhaid i gymdeithas anghorfforedig gofrestru gyda ni?

Mae’n rhaid i gymdeithasau anghorfforedig gofrestru gyda ni pan fyddant yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 mewn blwyddyn galendr.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw’ch cymdeithas yn gwneud naill ai:

  • cyfraniad gwleidyddol unigol dros £37,270 neu
  • nifer o gyfraniadau sydd gyda’i gilydd dros £37,270 mewn blwyddyn galendr

Cyfraniad gwleidyddol yw:

  • cyfraniad neu fenthyciad i blaid wleidyddol gofrestredig
  • cyfraniad i ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig
  • cyfraniad i ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
  • cyfraniad i ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
  • cyfraniad neu fenthyciad i dderbynnydd a reoleiddir, sef:
    • deiliad swydd etholedig
    • aelod o blaid wleidyddol
    • grŵp o aelodau plaid (a elwir hefyd yn gymdeithas aelodau)

Mae cyfraniad gwleidyddol dim ond yn cyfrif tuag at eich cyfanswm os yw’r swm dros £500. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 30 diwrnod sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfraniad – hynny yw, y dyddiad y gwnaethoch y cyfraniad a gymerodd eich cyfanswm dros £37,270.

Dylai unrhyw gymdeithas anghorfforedig sy’n bwriadu gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 gadw cofnodion o’r holl anrhegion maent yn eu derbyn sydd werth dros £500.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Chwefror 2024

Ynglŷn â beth y mae’n rhaid i gymdeithas anghorfforedig roi gwybod?

Ar ôl cofrestru gyda ni, mae’n rhaid i chi roi gwybod am anrhegion adroddadwy a dderbyniwyd gan eich cymdeithas yn y canlynol:

  • y flwyddyn galendr cyn i chi wneud y cyfraniad
  • y flwyddyn galendr pan wnaethoch y cyfraniad ac
  • y flwyddyn galendr wedi’r cyfraniad

Anrheg yw unrhyw beth a roddir neu a drosglwyddir i unrhyw swyddog, aelod, ymddiriedolwr neu asiant cymdeithas anghorfforedig, yn rhinwedd swydd y person o fewn y gymdeithas. Mae’n cynnwys:

  • unrhyw gyfraniad ar ffurf arian neu eiddo i’r gymdeithas
  • cymynrodd
  • unrhyw danysgrifiad neu ffi arall a dalwyd am aelodaeth o’r gymdeithas, neu gysylltiad iddi
  • unrhyw arian a wariwyd yn talu treuliau yr aed iddynt gan y gymdeithas; neu
  • y ddarpariaeth o unrhyw eiddo, gwasanaeth neu gyfleuster at ddefnydd neu fudd y gymdeithas (gan gynnwys gwasanaethau person) - os nad yw’r ddarpariaeth ar delerau masnachol

Mae anrhegion adroddadwy yn cynnwys:

  • anrheg unigol dros £11,180
  • dwy neu ragor o anrhegion gan yr un person yn yr un flwyddyn galendr sy’n dod i gyfanswm dros £11,180. Bydd ond rhaid i chi gyfrif anrhegion unigol dros £500 tuag at y cyfanswm hwn
  • unrhyw anrheg ychwanegol gan ffynhonnell rydych eisoes wedi adrodd ei bod wedi cyflwyno anrheg yn y flwyddyn galendr honno, os yw gwerth yr anrheg dros £2,230

 

Anrhegion a dderbyniwyd cyn dyddiad y cyfraniad

Os rhowch wybod i ni eich bod wedi gwneud cyfraniad gwleidyddol dros £37,270, mae’n rhaid i chi adrodd am unrhyw anrhegion adroddadwy rydych wedi’u derbyn:

  • o ddechrau’r un flwyddyn y gwnaed y cyfraniad gwleidyddol hyd nes ac yn cynnwys dyddiad y cyfraniad, ac
  • yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y gwnaed y cyfraniad gwleidyddol

Mae gennych 60 diwrnod o ddyddiad y cyfraniad i roi’r wybodaeth hon i ni. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ffurflen UA2.

 

Anrhegion a dderbyniwyd ar ôl dyddiad y cyfraniad

Pan fyddwch ar y gofrestr, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am bob anrheg adroddadwy, ar sail chwarterol.

Mae’r cyfnod adrodd chwarterol cyntaf yn cynnwys:

  • gweddill y chwarter yr oedd dyddiad y cyfraniad ynddo, gan ddechrau gyda’r diwrnod ar ôl dyddiad y cyfraniad, a’r
  • chwarter llawn nesaf

Mae’r adroddiad chwarterol cyntaf yn ddyledus 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd cyntaf.

Mae adroddiad arall yn ddyledus 30 diwrnod ar ôl diwedd pob chwarter, gan orffen gyda chwarter olaf y flwyddyn galendr wedi dyddiad y cyfraniad.

Gallwch gyflwyno’r adroddiadau hyn i ni gan ddefnyddio ffurflen UA3.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024

Cymdeithasau anghorfforedig sydd hefyd yn gymdeithasau aelodau

Mae’n rhaid i grwpiau o aelodau plaid, neu gymdeithasau aelodau, roi gwybod i ni am gyfraniadau neu fenthyciadau o dan y rheolau ar gyfer derbynwyr a reoleiddir.

Rhaid i gymdeithasau aelodau sydd hefyd yn gymdeithasau anghorfforedig gofrestru gyda ni os byddant yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 yn ystod blwyddyn galendr.

Dylech barhau i adrodd am roddion wrth i chi eu derbyn nhw, o dan y rheolau ar gyfer derbynwyr a reoleiddir. Nid oes angen i chi adrodd eto am anrhegion sy’n rhoddion o dan y rheolau ar gyfer cymdeithasau anghorfforedig.

Os ydych yn cofrestru gyda ni, bydd hefyd raid i chi gwblhau Ffurflen MA1 ar ddiwedd pob chwarter calendr nes bod eich cyfrifoldeb adrodd yn dod i ben. Mae’r ffurflen hon yn rhoi gwybod i ni eich bod naill ai heb gael unrhyw anrhegion adroddadwy yn ystod y chwarter hwnnw, neu’ch bod eisoes wedi’u hadrodd o dan y rheolau ar gyfer cymdeithasau aelodau. Defnyddir y ffurflen hon yn lle ffurflen UA3.

Os cewch wasanaethau gwirfoddolwr fel anrheg, a bod gwerth y gwasanaethau yn ddigon uchel i fod yn adroddadwy, cysylltwch â ni am gyngor.

I gael rhagor o arweiniad ar y rheolau i dderbynwyr a reoleiddir, gweler arweiniad ar gyfer derbynwyr a reoleiddir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Chwefror 2024

Datganiadau a throseddau

Datganiadau

Mae’n rhaid i unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i gynrychioli’r gymdeithas anghorfforedig wneud datganiad ar yr hysbysiad, a hefyd ar unrhyw adroddiadau a gyflwynir i ni. Bydd y datganiad yn nodi bod popeth yn yr hysbysiad neu’r adroddiad yn gywir, a’i fod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Troseddau

Dylai cymdeithasau anghorfforedig, a’r unigolion sydd wedi’u hawdurdodi i wneud datganiadau ar ran y cymdeithasau, fod yn ymwybodol y bydd troseddau’n cael eu cyflawni os:

  • yw’r gymdeithas yn methu â rhoi hysbysiad, neu’n methu ag adrodd i’r Comisiwn, heb esgus rhesymol, o fewn y cyfnod perthnasol
  • yw’r gymdeithas yn rhoi hysbysiad neu adroddiad nad yw’n bodloni’r gofynion adrodd a nodwyd o dan y gyfraith, heb esgus rhesymol
  • yw’r unigolyn awdurdodedig yn gwneud datganiad ffug
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Chwefror 2022

Y gofrestr a ffurflenni

Cofrestru anrhegion cofnodadwy i gymdeithasau anghorfforedig

Cyhoeddir yr wybodaeth hon ar y gofrestr cymdeithasau anghorfforedig a’r gofrestr anrhegion cofnodadwy i gymdeithasau anghorfforedig.

Ni fydd y gofrestr hon yn cynnwys cyfeiriad cartref unrhyw unigolyn.

Os rhowch wybod i ni am anrhegion ond nad yw’r hysbysiad wedi’i wneud, sy’n golygu nad oes gennych gofnod ar y gofrestr, ni fyddwn yn cynnwys manylion adnabod unrhyw unigolyn sy’n rhoi anrhegion oni bai ein bod wedi cael yr hysbysiad unigolyn yn gyntaf. Bydd gan unigolion 45 diwrnod wedyn i gyflwyno achos pam na ddylid cynnwys eu manylion adnabod ar y gofrestr.

 

Ffurflenni

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Chwefror 2022