Cymdeithasau anghorfforedig

Mae’n rhaid i gymdeithasau anghorfforedig gofrestru gyda ni pan fyddant yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 mewn blwyddyn galendr. Ar ôl cofrestru, mae’n rhaid iddynt roi gwybod i ni am anrhegion penodol maent yn eu derbyn.

Beth yw cymdeithas anghorfforedig?

Yn gyffredinol, cymdeithas o ddau unigolyn neu fwy yw cymdeithas anghorfforedig sydd wedi dod at ei gilydd i gyflawni cydamcan.

Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodau adnabyddadwy sydd wedi’u rhwymo gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae’r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli’r gymdeithas anghorfforedig.

Weithiau gellir ffurfioli’r rheolau, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes angen iddynt gael eu ffurfioli.

Er enghraifft, mae clybiau aelodau weithiau yn gymdeithasau anghorfforedig.