Cymdeithasau anghorfforedig

Ynglŷn â beth y mae’n rhaid i gymdeithas anghorfforedig roi gwybod?

Ar ôl cofrestru gyda ni, mae’n rhaid i chi roi gwybod am anrhegion adroddadwy a dderbyniwyd gan eich cymdeithas yn y canlynol:

  • y flwyddyn galendr cyn i chi wneud y cyfraniad
  • y flwyddyn galendr pan wnaethoch y cyfraniad ac
  • y flwyddyn galendr wedi’r cyfraniad

Anrheg yw unrhyw beth a roddir neu a drosglwyddir i unrhyw swyddog, aelod, ymddiriedolwr neu asiant cymdeithas anghorfforedig, yn rhinwedd swydd y person o fewn y gymdeithas. Mae’n cynnwys:

  • unrhyw gyfraniad ar ffurf arian neu eiddo i’r gymdeithas
  • cymynrodd
  • unrhyw danysgrifiad neu ffi arall a dalwyd am aelodaeth o’r gymdeithas, neu gysylltiad iddi
  • unrhyw arian a wariwyd yn talu treuliau yr aed iddynt gan y gymdeithas; neu
  • y ddarpariaeth o unrhyw eiddo, gwasanaeth neu gyfleuster at ddefnydd neu fudd y gymdeithas (gan gynnwys gwasanaethau person) - os nad yw’r ddarpariaeth ar delerau masnachol

Mae anrhegion adroddadwy yn cynnwys:

  • anrheg unigol dros £11,180
  • dwy neu ragor o anrhegion gan yr un person yn yr un flwyddyn galendr sy’n dod i gyfanswm dros £11,180. Bydd ond rhaid i chi gyfrif anrhegion unigol dros £500 tuag at y cyfanswm hwn
  • unrhyw anrheg ychwanegol gan ffynhonnell rydych eisoes wedi adrodd ei bod wedi cyflwyno anrheg yn y flwyddyn galendr honno, os yw gwerth yr anrheg dros £2,230

 

Anrhegion a dderbyniwyd cyn dyddiad y cyfraniad

Os rhowch wybod i ni eich bod wedi gwneud cyfraniad gwleidyddol dros £37,270, mae’n rhaid i chi adrodd am unrhyw anrhegion adroddadwy rydych wedi’u derbyn:

  • o ddechrau’r un flwyddyn y gwnaed y cyfraniad gwleidyddol hyd nes ac yn cynnwys dyddiad y cyfraniad, ac
  • yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y gwnaed y cyfraniad gwleidyddol

Mae gennych 60 diwrnod o ddyddiad y cyfraniad i roi’r wybodaeth hon i ni. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ffurflen UA2.

 

Anrhegion a dderbyniwyd ar ôl dyddiad y cyfraniad

Pan fyddwch ar y gofrestr, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am bob anrheg adroddadwy, ar sail chwarterol.

Mae’r cyfnod adrodd chwarterol cyntaf yn cynnwys:

  • gweddill y chwarter yr oedd dyddiad y cyfraniad ynddo, gan ddechrau gyda’r diwrnod ar ôl dyddiad y cyfraniad, a’r
  • chwarter llawn nesaf

Mae’r adroddiad chwarterol cyntaf yn ddyledus 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd cyntaf.

Mae adroddiad arall yn ddyledus 30 diwrnod ar ôl diwedd pob chwarter, gan orffen gyda chwarter olaf y flwyddyn galendr wedi dyddiad y cyfraniad.

Gallwch gyflwyno’r adroddiadau hyn i ni gan ddefnyddio ffurflen UA3.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024