Pryd y mae’n rhaid i gymdeithas anghorfforedig gofrestru gyda ni?
Mae’n rhaid i gymdeithasau anghorfforedig gofrestru gyda ni pan fyddant yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 mewn blwyddyn galendr.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw’ch cymdeithas yn gwneud naill ai:
cyfraniad gwleidyddol unigol dros £37,270 neu
nifer o gyfraniadau sydd gyda’i gilydd dros £37,270 mewn blwyddyn galendr
Cyfraniad gwleidyddol yw:
cyfraniad neu fenthyciad i blaid wleidyddol gofrestredig
cyfraniad i ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig
cyfraniad i ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
cyfraniad i ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
cyfraniad neu fenthyciad i dderbynnydd a reoleiddir, sef:
deiliad swydd etholedig
aelod o blaid wleidyddol
grŵp o aelodau plaid (a elwir hefyd yn gymdeithas aelodau)
Mae cyfraniad gwleidyddol dim ond yn cyfrif tuag at eich cyfanswm os yw’r swm dros £500. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 30 diwrnod sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfraniad – hynny yw, y dyddiad y gwnaethoch y cyfraniad a gymerodd eich cyfanswm dros £37,270.
Dylai unrhyw gymdeithas anghorfforedig sy’n bwriadu gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 gadw cofnodion o’r holl anrhegion maent yn eu derbyn sydd werth dros £500.