Mae’n rhaid i unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i gynrychioli’r gymdeithas anghorfforedig wneud datganiad ar yr hysbysiad, a hefyd ar unrhyw adroddiadau a gyflwynir i ni. Bydd y datganiad yn nodi bod popeth yn yr hysbysiad neu’r adroddiad yn gywir, a’i fod yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Troseddau
Dylai cymdeithasau anghorfforedig, a’r unigolion sydd wedi’u hawdurdodi i wneud datganiadau ar ran y cymdeithasau, fod yn ymwybodol y bydd troseddau’n cael eu cyflawni os:
yw’r gymdeithas yn methu â rhoi hysbysiad, neu’n methu ag adrodd i’r Comisiwn, heb esgus rhesymol, o fewn y cyfnod perthnasol
yw’r gymdeithas yn rhoi hysbysiad neu adroddiad nad yw’n bodloni’r gofynion adrodd a nodwyd o dan y gyfraith, heb esgus rhesymol
yw’r unigolyn awdurdodedig yn gwneud datganiad ffug