Cyflwynniad
Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ymgyrchu mewn etholiadau yng Nghymru.
O Dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau ynghylch faint y gallant wario ar weithgareddau ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau.
Mae’r canllaw hwn yn egluro sut mae’r rheolau’n gymwys.
Beth yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau?
Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau penodol yn y cyfnod cyn etholiadau.
Y mathau o ymgyrchoedd nad ydynt yn bleidiau
Mae yna fathau gwahanol o ymgyrchoedd nad ydynt yn bleidiau, sef:
| Ymgyrchoedd cyffredinol | Ymgyrchoedd lleol |
|---|---|
|
Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
|
Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
|
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o ymgyrchoedd yn ein canllaw Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Ble i ddechrau.
Nid yw’r rheolau ymgyrchu cyffredinol yn gymwys mewn etholiadau yng Nghymru ym mis 2023. Felly, nid oes angen i chi gofrestru gyda ni na rhoi gwybod i ni am roddion, a bydd gwariant ar weithgareddau ar gyfer eich aelodau yn unig yn dal i gyfrif tuag at eich cyfanswm gwario.
Ymgyrchoedd lleol mewn etholiadau lleol
Os ydych yn ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholiad lleol yng Nghymru, rydych yn dod o dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol.
Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol. Dylid gwneud cwynion ynghylch tor-rheolau posibl i'r heddlu.
O dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol, mae yna derfynau ar faint allwch wario ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr penodol mewn ward, etholaeth neu ardal awdurdod lleol. Mae’r terfynau hyn yn wahanol, yn dibynnu ar faint yr etholaeth yn yr ardal berthnasol.
Mae'r terfynau gwario hyn yn cynnwys gwariant ar y mwyafrif o weithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys taflenni, cyfarfodydd ac ymgyrchu digidol.
Terfynau gwario
Yn ystod cyfnod a reoleiddir, mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn destun terfynau ar eu gwariant ar weithgareddau ymgyrchu.
Y terfyn gwario ar gyfer etholiadau lleol yw:
- £50 yn ogystal â 0.5c am bob etholwr llywodraeth leol yn y ward sydd wedi’i gofrestru i bleidleisio ar ddiwrnod olaf cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad yn y ward
Er enghraifft
Os oes 1,000 o bobl ar gofrestr etholiadol y ward, eich terfyn gwario ar gyfer ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd fyddai:
- £50 + (1000 x 0.5c)
- £50 + (£5) = £55
Bydd eich swyddfa etholiadau lleol yn gallu rhoi nifer yr etholwyr yn y ward i chi.
Mae manylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa etholiadau lleol ar ein tudalen Etholiadau yn eich ardal.
Dylech gadw cofnod o’ch gwariant, i sicrhau nad ydych yn mynd dros y terfyn gwario.
Rhaid i unrhyw wariant dros y trothwyon hyn gael eu hawdurdodi gan asiant yr ymgeisydd perthnasol. Bydd y gwariant awdurdodedig yn cyfri fel gwariant ymgeisydd tuag at derfyn gwario’r ymgeisydd.
Adrodd
Os awdurdodir y gwariant, bydd angen i’r asiant gynnwys eich gwariant yng nghofnod gwariant yr ymgeisydd. Bydd angen i chi roi’r manylion angenrheidiol i’r asiant er mwyn i’r gwariant hwnnw gael ei gynnwys.
Os byddwch yn gwario dros y terfyn, bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen gwariant a datganiad a’u cyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau perthnasol ymhen 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa etholiadau lleol gan ddefnyddio ein chwiliwr cod post.
Yn y ddwy ddogfen rhaid i chi gynnwys:
- enw'r etholaeth
- dyddiad cyhoeddi hysbysiad yr etholiad (gallwch ddod o hyd i hyn gan eich Swyddog Canlyniadau lleol)
- enw'r asiant etholiadol a awdurdododd y gwariant.
- enw'r ymgeisydd y mae ei asiant wedi awdurdodi'r gwariant
- eich enw fel y sefydliad neu'r unigolyn a aeth i wariant
Yn y ffurflen mae'n rhaid i chi gynnwys cyfanswm eich gwariant, a rhaid i chi atodi awdurdodiad ysgrifenedig yr asiant ar gyfer eich gwariant.
Yn y datganiad mae'n rhaid i chi ddatgan bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir, a chynnwys manylion am y gwariant yr aethpwyd iddo, o dan “y materion yr aed i'r gwariant y cyfeiriwyd ato”.
Argraffnodau
O dan y gyfraith, mae’n rhaid i ddeunydd ymgyrchu gynnwys manylion sy’n dangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae'n darparu tryloywder i bleidleiswyr.
Os ydych yn cynhyrchu deunydd sy’n ymwneud a digwyddiad etholiadol neu blaid, ymgeisydd neu ddaliwr swydd etholedig, efallai bydd angen i chi gynnwys argraffnod.
Gall fod angen argraffnodau ar ddeunydd digidol a deunydd argraffedig.