Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau penodol yn y cyfnod cyn etholiadau.
Y mathau o ymgyrchoedd nad ydynt yn bleidiau
Mae yna fathau gwahanol o ymgyrchoedd nad ydynt yn bleidiau, sef:
Ymgyrchoedd cyffredinol
Ymgyrchoedd lleol
Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
pleidiau neu ymgeiswyr sy’n cefnogi, neu sydd ddim yn cefnogi, polisïau penodol
categorïau eraill o ymgeiswyr
Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
un neu fwy o ymgeiswyr
mewn etholaeth, ward neu ardal etholiadol arall benodol
Nid yw’r rheolau ymgyrchu cyffredinol yn gymwys mewn etholiadau yng Nghymru ym mis 2023. Felly, nid oes angen i chi gofrestru gyda ni na rhoi gwybod i ni am roddion, a bydd gwariant ar weithgareddau ar gyfer eich aelodau yn unig yn dal i gyfrif tuag at eich cyfanswm gwario.