Os ydych yn ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholiad lleol yng Nghymru, rydych yn dod o dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol.
Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol. Dylid gwneud cwynion ynghylch tor-rheolau posibl i'r heddlu.
O dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol, mae yna derfynau ar faint allwch wario ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr penodol mewn ward, etholaeth neu ardal awdurdod lleol. Mae’r terfynau hyn yn wahanol, yn dibynnu ar faint yr etholaeth yn yr ardal berthnasol.
Mae'r terfynau gwario hyn yn cynnwys gwariant ar y mwyafrif o weithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys taflenni, cyfarfodydd ac ymgyrchu digidol.