Yn ystod cyfnod a reoleiddir, mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn destun terfynau ar eu gwariant ar weithgareddau ymgyrchu.
Y terfyn gwario ar gyfer etholiadau lleol yw:
£50 yn ogystal â 0.5c am bob etholwr llywodraeth leol yn y ward sydd wedi’i gofrestru i bleidleisio ar ddiwrnod olaf cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad yn y ward
Er enghraifft
Os oes 1,000 o bobl ar gofrestr etholiadol y ward, eich terfyn gwario ar gyfer ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd fyddai:
£50 + (1000 x 0.5c)
£50 + (£5) = £55
Bydd eich swyddfa etholiadau lleol yn gallu rhoi nifer yr etholwyr yn y ward i chi.
Dylech gadw cofnod o’ch gwariant, i sicrhau nad ydych yn mynd dros y terfyn gwario.
Rhaid i unrhyw wariant dros y trothwyon hyn gael eu hawdurdodi gan asiant yr ymgeisydd perthnasol. Bydd y gwariant awdurdodedig yn cyfri fel gwariant ymgeisydd tuag at derfyn gwario’r ymgeisydd.