Os awdurdodir y gwariant, bydd angen i’r asiant gynnwys eich gwariant yng nghofnod gwariant yr ymgeisydd. Bydd angen i chi roi’r manylion angenrheidiol i’r asiant er mwyn i’r gwariant hwnnw gael ei gynnwys.
Os byddwch yn gwario dros y terfyn, bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen gwariant a datganiad a’u cyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau perthnasol ymhen 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa etholiadau lleol gan ddefnyddio ein chwiliwr cod post.
dyddiad cyhoeddi hysbysiad yr etholiad (gallwch ddod o hyd i hyn gan eich Swyddog Canlyniadau lleol)
enw'r asiant etholiadol a awdurdododd y gwariant.
enw'r ymgeisydd y mae ei asiant wedi awdurdodi'r gwariant
eich enw fel y sefydliad neu'r unigolyn a aeth i wariant
Yn y ffurflen mae'n rhaid i chi gynnwys cyfanswm eich gwariant, a rhaid i chi atodi awdurdodiad ysgrifenedig yr asiant ar gyfer eich gwariant.
Yn y datganiad mae'n rhaid i chi ddatgan bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir, a chynnwys manylion am y gwariant yr aethpwyd iddo, o dan “y materion yr aed i'r gwariant y cyfeiriwyd ato”.