Rhagarweiniad
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ymgyrchu’n lleol yn etholiadau’r Senedd.
O dan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau ynghylch faint y gallant wario ar weithgareddau ymgyrchu yn y cyfnod cyn rhai etholiadau.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut mae’r rheolau’n gymwys.
Beth yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau?
Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau penodol yn y cyfnod cyn etholiadau.
Y mathau o ymgyrchoedd rhai nad ydynt yn bleidiau
Mae dau fath o ymgyrchoedd rhai nad ydynt yn bleidiau, sef y rhain:
| Ymgyrchoedd cyffredinol | Ymgyrchoedd lleol |
|---|---|
Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
| Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
|
Gweler Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: etholiadau’r Senedd i gael canllawiau ar ymgyrchoedd cyffredinol.
Os yw eich ymgyrch yn cynnwys ymgyrchu lleol a chyffredinol, gall y rheolaethau sy'n berthnasol yn y senarios hyn fod yn gymhleth. Yn yr achosion hyn, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i gael cyngor sydd wedi'i deilwra.
Ymgyrchoedd lleol
Os ydych yn ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr unigol yn etholiad y Senedd, rydych yn dod o dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol. Mae hyn yn cynnwys pan fyddwch chi’n ymgyrchu yn erbyn plaid wleidyddol neu ymgeisydd rhestr plaid o blaid ymgeisydd unigol.
O dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol, mae yna derfynau ar faint allwch wario ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr penodol mewn etholaeth.
Mae'r terfynau gwario hyn yn cynnwys gwariant ar y mwyafrif o weithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys taflenni, cyfarfodydd ac ymgyrchu digidol.
Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol. Dylid gwneud cwynion ynghylch tor-rheolau posibl i'r heddlu.
Terfynau gwariant
Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £1,000 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.1 Y swm a ganiateir yw’r enw ar hyn. Mae'n berthnasol yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgeiswyr.
Dylech gadw cofnod o’ch gwariant, i sicrhau nad ydych yn mynd dros y swm a ganiateir.
Dim ond os yw ymgeisydd neu asiant yn yr etholiad wedi awdurdodi hynny yn ysgrifenedig y gallwch wario mwy na'r swm a ganiateir.2 Gwariant ymgeisydd fydd y gwariant awdurdodedig a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.3 Os ydych wedi’ch awdurdodi i ysgwyddo gwariant ymgeisydd, dylech ddarllen ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.
- 1. Erthygl 47 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erth. 47(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erth. 65 ac erth. 48 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Adrodd am wariant awdurdodedig
Os rhoddir awdurdodiad, bydd angen i’r asiant gynnwys eich gwariant yn ffurflen gwariant yr ymgeisydd. Bydd angen i chi roi’r manylion angenrheidiol i’r asiant er mwyn i’r gwariant hwnnw gael ei gynnwys. Bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen gwariant a datganiad a’u cyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau perthnasol ymhen 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.1
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa etholiadau lleol gan ddefnyddio ein chwiliwr cod post.
Yn y ddwy ddogfen mae’n rhaid i chi gynnwys:
- enw’r etholaeth
- dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad (gall eich Swyddog Canlyniadau lleol roi gwybod i chi beth yw’r dyddiad hwn)
- enw’r ymgeisydd a awdurdododd y gwariant, neu y gwnaeth ei asiant awdurdodi’r gwariant
- eich enw fel y sefydliad neu’r unigolyn a ysgwyddodd y gwariant
Yn y ffurflen bydd angen i chi gynnwys cyfanswm eich gwariant, a bydd rhaid i chi atodi awdurdodiad ysgrifenedig yr ymgeisydd neu’r asiant ar gyfer eich gwariant.
Yn y datganiad mae’n rhaid i chi ddatgan bod y ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir, ac yn cynnwys manylion am yr hyn yr oedd y gwariant arno o dan “y materion yr ysgwyddwyd y gwariant ar eu cyfer”.
- 1. Erthygl 47(6) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Argraffnodau
O dan y gyfraith, mae’n rhaid i ddeunydd ymgyrchu gynnwys manylion sy’n dangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae'n darparu tryloywder i bleidleiswyr.
Os ydych yn cynhyrchu deunydd sy’n ymwneud a digwyddiad etholiadol neu blaid, ymgeisydd neu ddaliwr swydd etholedig, efallai bydd angen i chi gynnwys argraffnod.
Gall fod angen argraffnodau ar ddeunydd digidol a deunydd argraffedig.