Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Diweddariadau i'n canllawiau
| Dyddiad y diweddariad | Disgrifiad o'r newid |
|---|---|
| Awst 2025 | Ers etholiad diwethaf y Senedd, mae’r canllawiau wedi’u hailysgrifennu i HTML. Fel rhan o'r ailysgrifennu, gwnaethom y diweddariadau nodedig canlynol:
Mae diweddariadau hefyd sy’n adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol, gan gynnwys:
|
Ynglŷn â’r canllawiau hyn
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae deddfau gwariant, rhoddion ac adrodd sy’n berthnasol yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei wario mewn etholiad y Senedd, gan ddechrau ar wariant uwchlaw £700. Mae’r gyfraith yn nodi faint y gall unigolion a sefydliadau penodol ei wario, a’r gofynion cofrestru ac adrodd a fydd yn berthnasol.
Rydym yn galw unigolion a sefydliadau sy’n meddwl am ymgyrchu cyn etholiad ond nad ydynt yn sefyll fel plaid wleidyddol nac ymgeisydd yn ‘ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau’. Mae pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn hanfodol i ddemocratiaeth iach. Rydym yn annog cyfranogiad gan ymgyrchwyr ac yn anelu at gefnogi ymgyrchwyr i gydymffurfio â’r gyfraith wrth iddynt gymryd rhan.
Mae gan ymgyrchwyr hawl i gynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Fodd bynnag, lle bo gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir, mae deddfau sy’n rhaid eu dilyn i sicrhau bod hyn yn dryloyw. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu manylion at ddeunydd etholiad i ddangos pwy sy’n gyfrifol am ei gyhoeddi (a elwir yn ‘argraffnodau‘), cydymffurfio â therfynau ar wariant, gofynion ynghylch rhoddion, ac adrodd ar ôl yr etholiad.
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi manylion am y deddfau hyn a sut y byddant yn berthnasol i chi os ydych chi’n gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Os ydych chi hefyd yn ymgyrchu yn etholiad Senedd yr Alban yn 2026, byddwch yn ymwybodol bod deddfau tebyg yn berthnasol yn yr Alban. Gweler ein canllawiau i’r rhai nad ydynt yn bleidiau ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban.
Cefndir
Cyflwynodd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 ddyletswydd newydd ar y Comisiwn Etholiadol i gynhyrchu Cod Ymarfer ar y deddfau sy’n ymwneud â gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae’r Cod hwn yn wahanol i fathau eraill o ganllawiau rydym yn eu cyhoeddi oherwydd ei fod wedi’i gymeradwyo gan y Senedd. Mae’r Cod hwn yn berthnasol ar gyfer etholiadau i’r Senedd.
Mae’n rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r Cod wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae’r rhan hon yn nodi’r deddfau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau. Mae’n amddiffyniad statudol i ymgyrchydd nad yw’n blaid ddangos ei fod wedi cydymffurfio â’r Cod wrth benderfynu a oedd ei weithgarwch ymgyrchu yn cael ei reoleiddio.
Mae’r canllawiau anstatudol hyn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau’r Senedd yn seiliedig ar eiriad y Cod ac mae’n darparu gwybodaeth, cyngor ac enghreifftiau ychwanegol i’ch helpu i ddeall y gyfraith. Rydym hefyd wedi darparu astudiaethau achos o ymgyrchoedd go iawn i’ch tywys wrth benderfynu pa derfynau neu pa fath o adrodd sy’n berthnasol i weithgareddau eich ymgyrch.
Dylai hyn eich cefnogi i ddeall eich rhwymedigaethau ac i ymgyrchu’n hyderus. Caiff y termau allweddol eu hesbonio a’u rhoi fel rhestr yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd y canllawiau.
Ar gyfer pwy y mae’r canllawiau hyn?
Mae’r canllawiau hyn i unigolion a sefydliadau sy’n meddwl am ymgyrchu cyn etholiad y Senedd ond nad ydynt yn sefyll fel plaid wleidyddol nac ymgeisydd.
Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn
Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylech/dylid’ ar gyfer eitemau yr ystyriwn i fod yn arfer da, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.
Rydym yn defnyddio ‘chi’ pan fyddwn yn cyfeirio at yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwario neu’n bwriadu gwario arian ar ymgyrchu cyn etholiad.