| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau?

Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.  

Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau penodol yn y cyfnod cyn etholiadau.

Y mathau o ymgyrchoedd rhai nad ydynt yn bleidiau

Mae dau fath o ymgyrchoedd rhai nad ydynt yn bleidiau, sef y rhain: 

Ymgyrchoedd cyffredinolYmgyrchoedd lleol

Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:

  • un neu fwy o bleidiau
  • un neu fwy o ymgeiswyr rhestr pleidiau
  • pleidiau neu ymgeiswyr sy’n cefnogi, neu sydd ddim yn cefnogi, polisïau penodol
  • categorïau eraill o ymgeiswyr 

Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:

  • un neu fwy o ymgeiswyr unigol
  • mewn etholaeth benodol 

Gweler Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: etholiadau’r Senedd i gael canllawiau ar ymgyrchoedd cyffredinol.

Os yw eich ymgyrch yn cynnwys ymgyrchu lleol a chyffredinol, gall y rheolaethau sy'n berthnasol yn y senarios hyn fod yn gymhleth. Yn yr achosion hyn, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i gael cyngor sydd wedi'i deilwra. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Awst 2025