Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Ymgyrchu yn lleol yn etholiadau’r Senedd (etholiadau o 7 Mai 2026 ymlaen)

| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhagarweiniad

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ymgyrchu’n lleol yn etholiadau’r Senedd.

O dan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau ynghylch faint y gallant wario ar weithgareddau ymgyrchu yn y cyfnod cyn rhai etholiadau.

Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut mae’r rheolau’n gymwys.