| Argraffu'r canllawiau llawn

Terfynau gwariant

Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £1,000 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.1  Y swm a ganiateir yw’r enw ar hyn. Mae'n berthnasol yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgeiswyr.

Dylech gadw cofnod o’ch gwariant, i sicrhau nad ydych yn mynd dros y swm a ganiateir.

Dim ond os yw ymgeisydd neu asiant yn yr etholiad wedi awdurdodi hynny yn ysgrifenedig y gallwch wario mwy na'r swm a ganiateir.2  Gwariant ymgeisydd fydd y gwariant awdurdodedig a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.3  Os ydych wedi’ch awdurdodi i ysgwyddo gwariant ymgeisydd, dylech ddarllen ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Hydref 2025