Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol - 380
Contents
Contents
Adroddiad ar ID pleidleisiwr yn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2024
Heddiw (dydd Mawrth 10 Medi) rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar weithredu ID Pleidleisiwr yn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2024 . Dyma’r eildro i bleidleiswyr yng Nghymru orfod dangos mathau o ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio yn dilyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai.
Mae ein hadroddiad yn darparu gwybodaeth a thystiolaeth ynghylch sut y gweithredwyd ID Pleidleisiwr a beth oedd barn pleidleiswyr ar y gofyniad newydd. Ceir tystiolaeth o ymchwil a wnaethpwyd ar barn y cyhoedd ar raddfa fawr, yn ogystal â data gorsafoedd pleidleisio gan awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr. Rydym yn ddiolchgar bod y gweinyddwyr wedi dychwelyd y data hwn yn gyflym.
Mae canfyddiadau a amlygir yn yr adroddiad yn cynnwys:
• Dengys data a gasglwyd mewn gorsafoedd pleidleisio bod 0.08% o bobl a geisiodd pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio heb gael papur pleidleisio oherwydd nad oedd ganddynt fath o ID a dderbynnir.
• Mae hyn yn golygu na chafodd 1 o bob 1,200 pleidleisiwr a oedd am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio bapur pleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU oherwydd y gofyniad am ID. Mewn cymhariaeth, yn yr etholiadau cyntaf yn Lloegr gyda ID Pleidleisiwr ym mis Mai 2023, y ffigwr cyfatebol oedd 1 mewn 400 (0.25%).
• Mewn niferoedd absoliwt, nid oedd tua 16,000 o bobl ledled Prydain Fawr yn gallu pleidleisio'n bersonol oherwydd y gofyniad i ddangos ID mewn gorsaf bleidleisio. Mae hyn yn cymharu â 14,000 yn Lloegr yn etholiadau mis Mai 2023.
• Canran y pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru na roddwyd papur pleidleisio iddynt oherwydd na allent ddangos ffurf dderbyniol o ID oedd 0.07%, ychydig yn is na Lloegr (0.08%), a’r Alban (0.09%). Nid oedd tua 600 o bobl yng Nghymru yn gallu pleidleisio'n bersonol oherwydd y gofyniad i ddangos ID mewn gorsaf bleidleisio. Mae hyn yn cyfateb i 1 o bob 1,400 pleidleisiwr yng Nghymru.
• Canfu ein hymchwil barn gyhoeddus fod tua 4% o bobl ledled Prydain Fawr (1% yng Nghymru) na phleidleisiodd wedi dweud bod y gofyniad i ddangos ID yn ffactor. Pan y gofynnwyd i’r rhai na bleidleisiodd ddewis o restr resymau, cododd cyfran y bobl a roddodd reswm yn ymwneud ag ID Pleidleiswyr i 10%.
• Roedd ymwybyddiaeth o ddangos ID yn uchel - dywedodd 89% o bobl yng Nghymru a 87% o bobl ym Mhrydain Fawr eu bod yn ymwybodol o’r gofyniad pan ofynnwyd iddynt yn syth ar ôl yr etholiad. Fodd bynnag, roedd ymwybyddiaeth o’r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn parhau i fod yn isel ar 58%.
• Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y gofyniad i ddangos ID pleidleisiwr wedi effeithio ar rai bobl yn fwy nag eraill. Yn benodol, roedd mwy o bobl o radd cymdeithasol îs (C2DE) na phleidleisiodd yn fwy tebygol o ddweud mai’r rheswm am hyn oedd nad oedd ganddynt ID a dderbynnir na’r rhai mewn gradd cymdeithasol uwch (ABC1)
Rydym wedi argymell newidiadau i Lywodraeth y DU er mwyn gwella hygyrchedd a chynnig cymorth i bobl nad ydynt yn berchen ID. Mae’r rhain yn cynnwys:
• cynnal a chyhoeddi adolygiad o ddyluniad, defnydd a gweithrediad y Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr er mwyn annog mwy o bobl i fanteisio arno.
• adolygu’r rhestr o ID a dderbynnir i nodi unrhyw ddogfennau ychwanegol y gellid eu hychwanegu, gan ganolbwyntio yn benodol ar mathau o ID a fyddai’n cefnogi’r rhai lleiaf tebygol o fod â dogfennau ar y rhestr gyfredol
• galluogi pleidleiswyr cofrestredig sydd ag ID a dderbynnir i wneud ardystiad yn eu gorsaf bleidleisio ar ran rhywun nad oes gan ID a dderbynnir (a elwir yn ‘daleb’).
Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad llawn ar yr etholiad cyffredinol. Bydd hyn yn tynnu ein cyfres llawn o dystiolaeth a data, gan gynnwys ein harolygon ymgeiswyr, Swyddogion Canlyniadau a staff gorsafoedd pleidleisio, ac adborth gan elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil.