Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 385

Ym Mwletin yr wythnos hon...

  • Cyfle Swydd: Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, yr Alban 
  • Ymgysylltu Democrataidd: Gweithio mewn partneriaeth 

     

Cyfle Swydd: Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, yr Alban 

Oherwydd ymddeoliad, rydym yn chwilio am unigolyn eithriadol i arwain ein gweithrediadau yn yr Alban ar adeg hollbwysig ar gyfer diwygio etholiadol ac arloesi.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynrychioli’r Comisiwn yn yr Alban ac yn ymuno â’n huwch dîm arwain, gan gyfrannu at ddatblygu Cynllun Corfforaethol y DU y Comisiwn a strategaethau sy’n benodol i’r Alban.  

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mercher 8 Ionawr 2025.  

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y pecyn swydd a sut i wneud cais, cliciwch yma.  

 

Ymgysylltu Democrataidd: Gweithio mewn partneriaeth

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi lansio prosiect newydd gyda TPAS Cymru i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth trigolion tai cymdeithasol o’r system ddemocrataidd yng Nghymru. Mae ymchwil wedi amlygu'n gyson bod deiliadaeth tai yn cael effaith sylweddol ar gofrestru pleidleiswyr; mae 82% o drigolion cymdeithasau tai Cymru wedi’u cofrestru’n gywir i bleidleisio o gymharu â 94% o’r rhai sy’n berchen ar eu cartref.  

Nod y prosiect fydd gwella gwybodaeth a dealltwriaeth trigolion o ddemocratiaeth, gan gynnwys cysyniadau allweddol fel datganoli, rôl y Senedd, sut i gofrestru a bwrw eich pleidlais. Bydd hefyd yn ymgorffori arfer o annog sgyrsiau ar ddemocratiaeth trwy gydol y flwyddyn i wella gwybodaeth yn effeithiol, nid yn ystod y cyfnod cyn etholiad yn unig.  

Fel sefydliad penodedig Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymgysylltu â Thenantiaid, mae TPAS Cymru yn gweithredu ledled Cymru, gan gydweithio â’r holl Gymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru a’u preswylwyr a’u cefnogi. Mae ganddynt wybodaeth helaeth am dai cymdeithasol gyda ffocws ar faterion o safbwynt y tenantiaid ac er budd tenantiaid.  

Bydd gweithgareddau’r prosiect sydd ar ddod yn cynnwys cynnal gweithdai hyfforddi rhwng cymheiriaid, ymgyrch gyfathrebu a briffio grwpiau rhwydwaith amrywiol TPAS.  

Bydd y bartneriaeth hon yn cael ei chynnal o fis Rhagfyr ymlaen gyda chyfnod gwerthuso cychwynnol ym mis Mawrth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Aimee Coulson, Ymgynghorydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drwy e-bostio [email protected].