Nawdd
Rydym wedi adolygu ein dull o ymdrin â rhoddion nawdd, yn dilyn adborth gan bleidiau. Dyma ein canllawiau newydd ar nawdd a fydd yn berthnasol i nawdd a dderbynnir o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Ar gyfer ein canllawiau nawdd cyfredol, gweler y canllawiau ar roddion a benthyciadau i bleidiau:
- Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr
- Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon
Pa roddion sy’n cael eu cynnwys yn y gyfraith?
O dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), diffinnir rhodd fel rhodd o arian, nwyddau neu wasanaethau a roddir i blaid gyda gwerth sy’n fwy na £500.1
Y mathau o roddion a reoleiddir o dan y gyfraith yw:
- rhoddion o arian neu eiddo arall (eitemau, nwyddau neu wasanaethau)2
- taliadau ymlynu neu aelodaeth3
- talu am dreuliau a ysgwyddwyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y blaid4
- defnyddio swyddfa’n rhad ac am ddim neu am bris gostyngol arbennig o eitemau,nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau5
- noddi digwyddiad, cyhoeddiad, astudiaeth neu ymchwil6
Telerau masnachol ac anfasnachol
Mae telerau masnachol yn golygu pan fo eitem y nwyddau neu'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar ei werth marchnad.
Dim ond os cânt eu darparu i'r blaid ar delerau anfasnachol y mae rhai rhoddion yn cael eu rheoleiddio. Mae hyn yn cynnwys defnydd am ddim neu am bris gostyngol arbennig o eitemau, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau.
Yn wahanol i fathau eraill o roddion, gall nawdd gynnwys trosglwyddo arian neu eiddo ir blaid ar delerau masnachol. Mae 'ar delerau masnachol' yn golygu lle mae'r eitem, nwyddau neu wasanaeth yn cael ei ddarparu am ei werth marchnadol. Mae’r gyfraith yn trafod nawdd a mathau eraill o roddion er mwyn darparu tryloywder ar y dulliau gwahanol o gymorth ariannol sy’n cael ei ddarparu i’r blaid. Gweler Nawdd am ragor o wybodaeth.
Rhoddion gwerth £500 neu lai
Mae rhoddion gwerth £500 neu lai y tu hwnt i gwmpas y PPERA ac nid oes angen i chi eu cofnodi nac adrodd amdanynt.7
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn wyliadwrus o sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi’r gyfraith. Mae ceisio osgoi’r rheoliadau ar roddion yn drosedd.8 Er enghraifft, os caiff nifer o roddion gwerth £400 eu gwneud gan yr un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi’r rheolau caniatâd.
Os ydych chi’n meddwl y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.
- 1. Adran 50 ac adran 52(2)(b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.50(2)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.50(2)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.50(2)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.50(2)(f) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 50(2)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. A.52(2)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. A.61 PPERA ↩ Back to content at footnote 8
Beth yw nawdd?
Mae nawdd yn golygu unrhyw arian neu eiddo arall (eitemau, nwyddau neu wasanaethau) a ddarperir i’r blaid i helpu, y mae’n rhaid tybio’n rhesymol ei fod yn helpu, i dalu costau mewn cysylltiad ag:
- unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (sy’n cynnwys digwyddiadau neu gynadleddau digidol)
- paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (print neu ddigidol), neu
- unrhyw astudiaeth neu ymchwil
lle caiff y rhain eu trefnu gan y blaid neu ar ei rhan.1
Gall nawdd gynnwys trosglwyddo arian neu eiddo i’r blaid ar delerau masnachol. Hyd yn oed os yw’r blaid a’r noddwr yn ystyried hyn fel trefniant masnachol, mae nawdd yn fath o rodd. Mae’r un gofynion adrodd a chaniatâd ar gyfer rhoddion eraill yn berthnasol hefyd i roddion a dderbynnir fel nawdd.
Caiff nawdd ei reoleiddio oherwydd mae’n cael effaith debyg i fathau eraill o roddion. Ar gyfer nawdd a mathau eraill o roddion, mae’r gyfraith yn darparu tryloywder ar fuddion ariannol a ddarperir i’r blaid.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am rodd nawdd, mae’n rhaid i chi ei nodi fel nawdd.2 Mae hyn yn darparu tryloywder ac yn helpu pleidleiswyr i ddeall natur y taliadau hyn drwy eu gwahaniaethu rhwng mathau eraill o roddion.
Pryd mae taliad yn helpu i dalu costau?
Gan amlaf, gellir tybio’n rhesymol bod taliad a wneir mewn cysylltiad â digwyddiad, cyhoeddiad neu waith ymchwil yn cael ei wneud i helpu i dalu ei gostau. Os mai un o ddibenion y taliad oedd helpu’r blaid i dalu’r costau hyn, neu os oes rhaid tybio’n rhesymol mai un o’r dibenion oedd helpu’r blaid i dalu’r costau hyn, mae’n nawdd.
Mae'n bwysig ystyried sut y byddai person rhesymol yn gweld y taliad ac a fyddent yn meddwl mai un o ddibenion y taliad yw helpu'r blaid i dalu'r costau hyn.
Nid oes rhaid defnyddio taliad i dalu costau’n uniongyrchol iddo gyfrif fel nawdd.
Prisio nawdd
Gwerth y nawdd yw swm llawn y taliad a dderbynnir gan y noddwr. Ni ddylech wneud unrhyw ddidyniadau ar gyfer unrhyw fudd posibl i’r noddwr neu lle mae costau gwirioneddol y digwyddiad, cyhoeddiad, astudiaeth neu waith ymchwil yn llai na’r swm a dderbynnir gan y noddwr.3
- 1. Adran 51(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau (Gwybodaeth Ychwanegol) Adroddiadau Rhoddion Wythnosol a Chwarterol Pleidiau Cofrestredig 2007 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.53(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Pa daliadau nad ydynt yn cyfrif fel nawdd?
Nid yw’r taliadau canlynol yn cyfrif fel nawdd:1
- costau mynediad i gynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill
- pris prynu cyhoeddiadau, neu unrhyw gost arall i’w cyrchu
- taliadau cyfradd masnachol ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau
- taliadau am stondinau cynhadledd nad ydynt fwy na’r gyfradd uchaf a osodwyd gan y Comisiwn Etholiadol
Er nad yw’r taliadau hyn yn cyfrif fel nawdd, gallant yn hytrach fod yn fath gwahanol o rodd i’r blaid. Os nad yw taliad yn nawdd, dylech ystyried a yw’r taliad yn fath arall o rodd, er enghraifft, rhodd ariannol neu arian a wariwyd i dalu costau a ysgwyddwyd gan y blaid.
Mae'r Comisiwn o'r farn nad yw gwerthu nwyddau brand plaid mewn digwyddiadau yn nawdd.
Prisiau mynediad
Ni fydd costau mynediad ar gyfer eich digwyddiadau yn cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, tocynnau mynediad i gynadleddau neu ffi fynediad i fynychu digwyddiad a drefnwyd gan y blaid neu ar ei rhan.
Fodd bynnag, os ydych chi’n codi tâl neu’n cael eich talu mwy na gwerth y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn y digwyddiad, bydd y swm ychwanegol hwn yn rhodd os yw’n fwy na £500. Gweler enghreifftiau cyffredin o nawdd am ragor o enghreifftiau ac arweiniad ar hyn.
Hysbysebion mewn cyhoeddiadau pleidiau
Ni fydd taliadau a wneir i roi hysbysebion yn eich cyhoeddiadau plaid ar y gyfradd fasnachol yn cael eu cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, bydd cyhoeddiadau yn cynnwys llawlyfrau cynadledda, cyfeiriaduron neu agendâu printiedig eraill, llyfrau neu gylchgronau.
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i hysbysebu mewn cyhoeddiadau plaid yn unig ac nid yw’n cynnwys hysbysebu mewn mannau eraill, megis baneri cynadleddau, neu ar basiau cynadleddau.
Er mwyn penderfynu a yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion mewn cyhoeddiad plaid yn rhodd, mae’n rhaid i chi gyfrifo’r gyfradd fasnachol i’w chodi am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y gyfradd gyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Os bydd rhywun yn talu mwy na’r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad plaid, bydd swm llawn y taliad yn cyfrif fel nawdd. Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn berthnasol mwyach.
Gweler y dudalen nesaf am arweiniad ar stondinau cynhadledd.
- 1. Adran 51(3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Stondinau cynhadledd
O dan y gyfraith, gall y Comisiwn Etholiadol osod y gyfradd uchaf y gellir ei chodi am logi stondinau arddangos yn eich cynadleddau plaid. Ni fydd llogi stondinau cynhadledd hyd at y cyfraddau hyn yn cyfrif fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd.1 Rydym wedi gosod y cyfraddau uchaf y gellir eu codi am stondinau cynhadledd ffisegol a stondinau cynhadledd digidol.
Stondinau cynhadledd ffisegol
Ni fydd taliadau hyd at £15,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin arddangos ffisegol 3m x 3m/9 metr sgwâr yn eich cynadleddau yn cyfrif fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd. Felly’r gyfradd uchaf y gellir ei chodi yw £1,666.67 fesul metr sgwâr.
Os ydych yn cynnig stondinau mwy i’w llogi, gallwch godi mwy na £15,000, ar yr amod y caiff hwn ei godi ar sail pro-rata. Nid oes angen i chi godi ar sail pro-rata os ydych yn cynnig stondinau llai i’w llogi, ar yr amod bod y pris yr ydych yn ei osod yn gyfwerth neu’n llai na’r gyfradd yr ydym ni wedi ei gosod.
Er enghraifft, mae gan Blaid A stondin arddangos 5m x 5m/25 metr sgwâr yn ei chynhadledd plaid. Mae’n cyfrifo’r pris uchaf y gellir ei osod ar gyfer stondin o’r maint hwn i barhau i gael ei eithrio o’r rheoliadau rhoddion:
£15,000/9 metr sgwâr = £1,666.67
£1,666.67 x 25 metr sgwâr = £41,666.75.
Ni fydd taliad gwerth hyd at £41,666.75 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin cynhadledd 5m x 5m/25 metr sgwâr yn rhodd i’r blaid.
Mae’n rhaid ymdrin ag unrhyw swm rydych yn ei dderbyn sy’n uwch na’r gyfradd hon fel nawdd, ac felly fel rhodd i’r blaid. Mae hyn oherwydd mai dim ond i daliadau a wneir hyd at y gyfradd uchaf a osodwn y mae'r eithriad ar gyfer stondinau cynhadledd yn berthnasol. Ni ddylech drin y taliad cyfan fel nawdd.
Os ydych yn codi cyfradd uwch ar gyfer stondinau ffisegol, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol o’r trafodiad, gan gynnwys maint y stondin, y pris a godwyd, a sut y gwnaethoch gyfrifo’r pris. Efallai y byddwn yn gofyn i weld eich cofnodion at ein dibenion sicrwydd.
Er enghraifft, mae Plaid B yn cynnig stondin arddangos 6m x 6m/36 metr sgwâr i’w llogi yn ei chynhadledd plaid. Y pris uchaf y gellir ei osod ar gyfer stondin o’r maint hwn iddo barhau i gael ei eithrio o’r rheoliadau rhoddion yw:
£1,666.67 x 36 metr sgwâr = £60,000.12.
Mae Plaid B yn codi £62,500 (ac eithrio TAW) am y stondin gynhadledd. Mae’n rhaid i’r blaid ymdrin â’r £2,499.88 fel nawdd.
Stondinau cynhadledd digidol
Os yw plaid wleidyddol yn cynnal cynhadledd ddigidol ac yn cynnig gofod hyrwyddo byw ar y platfform ar-lein y mae’n ei ddefnyddio, gall gael ei ystyried yn stondin gynhadledd ddigidol.
I fod yn stondin gynhadledd ddigidol, mae’n rhaid i’r nodweddion canlynol fod yn bresennol:
- mae’n rhaid i’r stondin ddigidol fod ar gael i’w llogi dros gyfnod y gynhadledd
- mae’n rhaid cael rhyw lefel o ryngweithio amser real rhwng y mynychwyr a’r arddangoswr
- mae’n rhaid iddo fod yn ddigwyddiad byw
- mae’n rhaid i hysbyseb neu faner (neu rywbeth tebyg) gael ei gynnwys ar wefan y gyhadledd neu’r platfform cynnal (ni fyddai hysbyseb ar wefan heb yr elfennau eraill yn stondin gynhadledd ddigidol)
Nid oes angen ymdrin â thaliadau hyd at £7,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin ddigidol fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd.
Mae’n rhaid i unrhyw swm rydych yn ei dderbyn am stondin ddigidol sy’n uwch na £7,000 (ac eithrio TAW) gael ei drin fel nawdd, ac felly fel rhodd i’r blaid. Mae hyn oherwydd mai dim ond i daliadau a wneir hyd at y gyfradd uchaf a osodwn y mae'r eithriad ar gyfer stondinau cynhadledd yn berthnasol. Ni ddylech drin y taliad cyfan fel nawdd.
Os ydych yn codi pris uwch na £7,000 (ac eithrio TAW) am stondin ddigidol, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol i ddangos y trafodiad hwn. Mae hyn yn cynnwys manylion y pris y gwnaethoch ei godi amdani a sut y gwnaethoch gyfrifo’r pris. Efallai y byddwn yn gofyn i weld eich cofnodion at ein dibenion sicrwydd.
- 1. Adran 52(3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Enghreifftiau cyffredin o nawdd
Hysbysebu mewn cynhadledd
Mae enghreifftiau o hysbysebu sy’n nawdd yn cynnwys:
- baneri hysbysebu a arddangosir yn lleoliadau a neuadd y gynhadledd
- pamffledi hysbysebu sydd wedi’u cynnwys mewn pecynnau cynhadledd i gynrychiolwyr
- hysbysebu ar y laniardiau ar gyfer pasys i’r gynhadledd
- hysbysebu sydd wedi’i gynnwys mewn ffolderi pecynnau cynhadledd
Er enghraifft, mae cwmni’n talu £15,000 i blaid er mwyn cael ei enw a’i logo ar y laniardiau ar gyfer pàs i’r gynhadledd sy’n cael ei roi i bob person sy’n mynychu’r gynhadledd. Gan y gellir tybio’n rhesymol mai un o ddibenion y taliad yw helpu’r blaid i dalu costau sy’n gysylltiedig â chynnal y gynhadledd, mae hyn yn nawdd.
Mae’n rhaid i’r blaid wirio bod y cwmni’n rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd ac adrodd y rhodd i’r Comisiwn, gan ei bod dros y trothwy adrodd o £11,180.
Ciniawau a derbyniadau cynhadledd
Bydd taliadau a wneir at dalu costau cinio neu dderbyniad a drefnir gan y blaid neu ar ei rhan yn nawdd.
Enghraifft A
Mae cwmni’n talu £30,000 i noddi cinio cynhadledd a drefnir gan y blaid. Mae hyn yn cynnwys arddangos enw a logo’r cwmni ar faneri yn y cinio ac ar y fwydlen, ynghyd â bwrdd yn y cinio i’r cwmni a’i westeion.
Mae’n rhaid i’r blaid wirio bod y cwmni’n rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd ac adrodd y swm llawn i’r Comisiwn, gan ei fod dros y trothwy adrodd.
Enghraifft B
Mae cwmni’n talu £15,000 i logi neuadd gynhadledd er mwyn i blaid gynnal digwyddiad. Bydd enw a logo’r cwmni’n cael eu harddangos yn y neuadd yn ystod y digwyddiad. Mae’n rhaid i’r blaid wirio bod y cwmni’n rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd ac adrodd y swm llawn i’r Comisiwn, gan ei fod dros y trothwy adrodd.
Os ydych yn gwerthu tocynnau i ginio neu dderbyniad a drefnwyd gennych chi neu ar eich rhann, ni fydd hyn yn nawdd gan nad yw prisiau mynediad i ddigwyddiadau plaid yn cyfrif fel nawdd.
Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cyfrifo gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarparwyd yn y digwyddiad, gan y bydd y gwahaniaeth rhwng y gwerth a’r swm sy’n cael ei dalu i chi yn cyfrif fel rhodd nad yw’n nawdd os yw’r gwerth hwn yn fwy na £500.1
Er enghraifft, mae plaid yn gwerthu tocynnau i’w chinio cynhadledd. Mae costau’r digwyddiad fel a ganlyn:
- gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person: £30
- pris tocyn: £120
Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person a’r swm a godir yn £90. Gan nad yw gwerth y rhodd yn fwy na £500 yn yr achos hwn, nid oes rhodd wedi ei gwneud i’r blaid.
Yn yr un digwyddiad, mae’r blaid hefyd yn gwerthu byrddau i 10 o westeion.
- gwerth marchnadol pob bwrdd: £300
- pris y bwrdd: £1,000
Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth pob bwrdd a’r swm a godwyd yn £700. Bydd unrhyw un sy’n prynu bwrdd yn y cinio cynhadledd felly’n rhoi £700 i’r blaid. Gan mai rhoddion gwerth mwy na £500 gan ffynhonnell a ganiateir yn unig y gall y blaid eu derbyn, dim ond y rhai a ganiateir fydd yn gallu prynu bwrdd.
Pecynnau cynhadledd
Os ydych yn cynnig pecynnau cynhadledd, lle gall rhywun brynu pecyn cyfunol o eitemau ar gyfer digwyddiad, bydd angen i chi ystyried pob rhan o’r pecyn i asesu a yw’n nawdd, neu’n fath arall o rodd. Efallai na fydd rhai elfennau yn cyfrif fel nawdd, megis pris mynediad.
Pan mae rhai elfennau o becyn yn nawdd ac nad yw elfennau eraill yn nawdd ond yn fath arall o rodd, dylech ymdrin â swm llawn y rhodd fel nawdd ac adrodd hyn fel un rhodd nawdd, yn ôl yr angen.
Enghraifft A
Mae cwmni’n prynu pecyn ar gyfer y gynhadledd sy’n cynnwys:
- pedwar pàs i’r gynhadledd
- pedwar tocyn i’r cinio cynhadledd
- defnydd o logo’r cwmni ar becynnau cynrychiolwyr
- hysbyseb yn y cyfeiriadur cynhadledd.
Mae’r tocynnau a’r pasys cynhadledd i’r cinio cynhadledd wedi eu heithrio o fod yn nawdd gan nad yw prisiau mynediad ar gyfer digwyddiadau yn cyfrif fel nawdd. Fodd bynnag, cost cynnal y cinio yw £50 y pen ac mae’r blaid wedi gwerthu tocynnau am £150 yr un. Y gwahaniaeth rhwng gwerth y cinio a’r swm a dalwyd am bob tocyn yw £100. Mae’r rhan hon o’r pecyn yn rhodd o £400 i’r blaid, gan fod y noddwr wedi prynu pedwar tocyn.
Mae’r blaid wedi gwerthu’r hysbysebion yn y cyfeiriadur cynhadledd ar y gyfradd fasnachol. Nid yw taliadau ar gyfer yr hysbysebion yn cyfrif fel nawdd ychwaith gan fod taliadau ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau plaid ar y gyfradd fasnachol yn un o’r eithriadau nawdd.
Mae’r blaid hefyd wedi gwerthu hysbyseb gyda logo’r cwmni ar y pecynnau i gynrychiolwyr am £5,000. Mae’r swm llawn yn nawdd.
Cyfanswm gwerth y rhodd i’r blaid yw £5,400. Dylid trin y swm llawn fel nawdd.
Enghraifft B
Mae cwmni’n prynu pecyn ar gyfer cynhadledd sy’n cynnwys:
- dau docyn i’r derbyniad cynhadledd
- defnydd o logo’r cwmni o fewn y lleoliad
- hysbyseb yn y cyfeiriadur cynhadledd.
Nid yw’r tocynnau i’r derbyniad cynhadledd yn nawdd gan nad yw prisiau mynediad i ddigwyddiadau yn cyfrif fel nawdd o dan y gyfraith. Fodd bynnag, gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarparwyd yn y derbyniad yw £80 y pen ac mae’r blaid wedi gwerthu tocynnau am £500 yr un. Y gwahaniaeth rhwng gwerth y gwasanaeth a ddarparwyd a’r swm a dalwyd am bob tocyn yw £420. Mae’r rhan hon o’r pecyn yn rhodd o £840 i’r blaid, gan fod y noddwr wedi prynu dau docyn.
Mae’r blaid hefyd wedi gwerthu hysbyseb gyda logo’r cwmni ar y pecynnau i gynrychiolwyr am £5,000. Mae’r swm llawn yn nawdd.
Mae’r noddwr wedi talu £8,000 am yr hysbyseb yn y cyfeiriadur cynhadledd sy’n uwch na’r gyfradd fasnachol ar gyfer hysbyseb mewn cyhoeddiad plaid. Mae’r taliad llawn am yr hysbyseb hefyd yn nawdd.
Cyfanswm gwerth y rhodd i’r blaid yw £13,840. Dylid trin y swm llawn fel nawdd a’i adrodd i’r Comisiwn, gan fod hwn dros y trothwy adrodd o £11,180.
Cyhoeddiadau
Os byddwch yn derbyn taliadau tuag at gostau paratoi, cynhyrchu neu ddosbarthu cyhoeddiad a drefnir gan neu ar ran eich plaid, bydd hyn yn nawdd.
Er enghraifft, mae cwmni'n talu £12,000 i noddi cyhoeddiad plaid. Mae hyn yn cynnwys arddangos enw a logo'r cwmni yn y cyhoeddiad a'i hyrwyddo fel partner ymchwil ar y cyd.
Mae’n rhaid i'r blaid wirio bod y cwmni'n rhoddwr a ganiateir cyn derbyn y rhodd a'i hadrodd i'r Comisiwn, gan ei bod dros y trothwy adrodd o £11,180.
Os ydych chi'n gwerthu hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol, ni fydd hyn yn nawdd oherwydd nid yw taliadau a wneir i osod hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol yn cyfrif fel nawdd.
I ganfod a yw taliadau a wneir i osod hysbysebion mewn cyhoeddiad yn rhodd, rhaid i chi gyfrifo'r gyfradd fasnachol i'w chodi am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y cyfraddau cyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Os bydd rhywun yn talu mwy na'r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad, bydd swm llawn y taliad yn nawdd. Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn berthnasol mwyach.
- 1. Adran 50(3), s.52(2)(b) ac a.53(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
Digwyddiadau ymylol cynhadledd
Mae’r rheoliadau nawdd yn berthnasol i ddigwyddiadau a drefnir gan y blaid, neu ar ei rhan, yn unig. Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau ymylol a gynhelir yn eich cynadleddau plaid.
Digwyddiadau ymylol a drefnir yn allanol
Trefnir mwyafrif y digwyddiadau ymylol gan sefydliadau allanol, yn hytrach na chan y blaid ei hun. Ni fydd taliadau tuag at dalu costau’r digwyddiadau hyn yn nawdd.
Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn cynnig cefnogaeth i'r sefydliadau hyn neu'n cynnig gwneud taliadau ar eu rhan. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cynnig cefnogaeth staff, marchnata neu arlwyo yn y digwyddiad neu’n talu'r ganolfan gynadledda’n uniongyrchol am logi'r ystafell. Gall y sefydliad hefyd eich talu chi i ddarparu hysbysebu yn y digwyddiad.
Os ydych yn darparu cefnogaeth neu wasanaethau eraill yn y digwyddiadau hyn, rhaid i chi sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu gwerthuso ar gyfradd y farchnad gymharol. Bydd unrhyw daliadau a gewch am y gwasanaethau hyn ar gyfradd y farchnad yn incwm masnachol ac ni fyddant yn rhodd i'r blaid. Fodd bynnag, os byddwch yn codi tâl neu'n cael eich talu mwy na chyfradd y farchnad am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu, bydd y swm ychwanegol hwn yn rhodd os yw hyn yn fwy na £500.1
Digwyddiadau ymylol a drefnir gan y blaid
Weithiau gall eich plaid, neu adrannau o’ch plaid gynnal y digwyddiadau ymylol hyn. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y taliadau a ddarperir i’ch helpu i dalu’r costau hyn yn cyfrif fel nawdd.
Enghraifft A
Mae grŵp ymgyrch gofal iechyd yn trefnu a chynnal digwyddiad ymylol mewn cynhadledd plaid i drafod dyfodol y GIG. Mae’r grŵp ymgyrch yn talu am gostau llogi’r ystafell a darparu lluniaeth i’r blaid ar gyfradd farchnad gymharol.
Gan fod y digwyddiad yn cael ei drefnu gan y grŵp ymgyrch gofal iechyd, ac nid y blaid, nid yw’r taliadau ar gyfer y digwyddiad hwn yn nawdd. Mae'r taliadau i'r blaid ar gyfer llogi'r ystafell a lluniaeth yn incwm masnachol ac nid ydynt yn rhoddion.
Enghraifft B
Mae plaid yn trefnu digwyddiad sy’n rhoi’r cyfle i gynrychiolwyr gwrdd ag arweinydd y blaid. Mae cymdeithas adeiladu yn talu’r blaid i arddangos ei logo yn y lleoliad ac ar restriad y digwyddiad ymylol am gyfanswm cost o £8,000.
Gan fod y digwyddiad yn cael ei drefnu gan y blaid, mae’r taliad o £8,000 gan y gymdeithas adeiladu i helpu’r blaid dalu costau’r digwyddiad yn nawdd. Mae hwn yn rhodd i’r blaid, gan fod gwerth y nawdd yn fwy na £500.
- 1. Adran 50(3) ac adran 52(2)(b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1