| Argraffu'r canllawiau llawn

Stondinau cynhadledd

O dan y gyfraith, gall y Comisiwn Etholiadol osod y gyfradd uchaf y gellir ei chodi am logi stondinau arddangos yn eich cynadleddau plaid. Ni fydd llogi stondinau cynhadledd hyd at y cyfraddau hyn yn cyfrif fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd.1  Rydym wedi gosod y cyfraddau uchaf y gellir eu codi am stondinau cynhadledd ffisegol a stondinau cynhadledd digidol.

Stondinau cynhadledd ffisegol

Ni fydd taliadau hyd at £15,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin arddangos ffisegol 3m x 3m/9 metr sgwâr yn eich cynadleddau yn cyfrif fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd. Felly’r gyfradd uchaf y gellir ei chodi yw £1,666.67 fesul metr sgwâr.

Os ydych yn cynnig stondinau mwy i’w llogi, gallwch godi mwy na £15,000, ar yr amod y caiff hwn ei godi ar sail pro-rata. Nid oes angen i chi godi ar sail pro-rata os ydych yn cynnig stondinau llai i’w llogi, ar yr amod bod y pris yr ydych yn ei osod yn gyfwerth neu’n llai na’r gyfradd yr ydym ni wedi ei gosod.

Er enghraifft, mae gan Blaid A stondin arddangos 5m x 5m/25 metr sgwâr yn ei chynhadledd plaid. Mae’n cyfrifo’r pris uchaf y gellir ei osod ar gyfer stondin o’r maint hwn i barhau i gael ei eithrio o’r rheoliadau rhoddion:

£15,000/9 metr sgwâr = £1,666.67

£1,666.67 x 25 metr sgwâr = £41,666.75.

Ni fydd taliad gwerth hyd at £41,666.75 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin cynhadledd 5m x 5m/25 metr sgwâr yn rhodd i’r blaid.

Mae’n rhaid ymdrin ag unrhyw swm rydych yn ei dderbyn sy’n uwch na’r gyfradd hon fel nawdd, ac felly fel rhodd i’r blaid. Mae hyn oherwydd mai dim ond i daliadau a wneir hyd at y gyfradd uchaf a osodwn y mae'r eithriad ar gyfer stondinau cynhadledd yn berthnasol. Ni ddylech drin y taliad cyfan fel nawdd.

Os ydych yn codi cyfradd uwch ar gyfer stondinau ffisegol, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol o’r trafodiad, gan gynnwys maint y stondin, y pris a godwyd, a sut y gwnaethoch gyfrifo’r pris. Efallai y byddwn yn gofyn i weld eich cofnodion at ein dibenion sicrwydd.

Er enghraifft, mae Plaid B yn cynnig stondin arddangos 6m x 6m/36 metr sgwâr i’w llogi yn ei chynhadledd plaid. Y pris uchaf y gellir ei osod ar gyfer stondin o’r maint hwn iddo barhau i gael ei eithrio o’r rheoliadau rhoddion yw:

£1,666.67 x 36 metr sgwâr = £60,000.12.

Mae Plaid B yn codi £62,500 (ac eithrio TAW) am y stondin gynhadledd. Mae’n rhaid i’r blaid ymdrin â’r £2,499.88 fel nawdd.

Stondinau cynhadledd digidol

Os yw plaid wleidyddol yn cynnal cynhadledd ddigidol ac yn cynnig gofod hyrwyddo byw ar y platfform ar-lein y mae’n ei ddefnyddio, gall gael ei ystyried yn stondin gynhadledd ddigidol. 
I fod yn stondin gynhadledd ddigidol, mae’n rhaid i’r nodweddion canlynol fod yn bresennol:

  • mae’n rhaid i’r stondin ddigidol fod ar gael i’w llogi dros gyfnod y gynhadledd 
  • mae’n rhaid cael rhyw lefel o ryngweithio amser real rhwng y mynychwyr a’r arddangoswr
  • mae’n rhaid iddo fod yn ddigwyddiad byw
  • mae’n rhaid i hysbyseb neu faner (neu rywbeth tebyg) gael ei gynnwys ar wefan y gyhadledd neu’r platfform cynnal (ni fyddai hysbyseb ar wefan heb yr elfennau eraill yn stondin gynhadledd ddigidol)

Nid oes angen ymdrin â thaliadau hyd at £7,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin ddigidol fel nawdd nac unrhyw fath arall o rodd.

Mae’n rhaid i unrhyw swm rydych yn ei dderbyn am stondin ddigidol sy’n uwch na £7,000 (ac eithrio TAW) gael ei drin fel nawdd, ac felly fel rhodd i’r blaid. Mae hyn oherwydd mai dim ond i daliadau a wneir hyd at y gyfradd uchaf a osodwn y mae'r eithriad ar gyfer stondinau cynhadledd yn berthnasol. Ni ddylech drin y taliad cyfan fel nawdd.

Os ydych yn codi pris uwch na £7,000 (ac eithrio TAW) am stondin ddigidol, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol i ddangos y trafodiad hwn. Mae hyn yn cynnwys manylion y pris y gwnaethoch ei godi amdani a sut y gwnaethoch gyfrifo’r pris. Efallai y byddwn yn gofyn i weld eich cofnodion at ein dibenion sicrwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026