| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa roddion sy’n cael eu cynnwys yn y gyfraith?

O dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), diffinnir rhodd fel rhodd o arian, nwyddau neu wasanaethau a roddir i blaid gyda gwerth sy’n fwy na £500.1

Y mathau o roddion a reoleiddir o dan y gyfraith yw:

  • rhoddion o arian neu eiddo arall (eitemau, nwyddau neu wasanaethau)2
  • taliadau ymlynu neu aelodaeth3
  • talu am dreuliau a ysgwyddwyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y blaid4
  • defnyddio swyddfa’n rhad ac am ddim neu am bris gostyngol arbennig o eitemau,nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau5
  • noddi digwyddiad, cyhoeddiad, astudiaeth neu ymchwil6

Telerau masnachol ac anfasnachol 

Mae telerau masnachol yn golygu pan fo eitem y nwyddau neu'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar ei werth marchnad. 

Dim ond os cânt eu darparu i'r blaid ar delerau anfasnachol y mae rhai rhoddion yn cael eu rheoleiddio. Mae hyn yn cynnwys defnydd am ddim neu am bris gostyngol arbennig o eitemau, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau.

Yn wahanol i fathau eraill o roddion, gall nawdd gynnwys trosglwyddo arian neu eiddo ir blaid ar delerau masnachol. Mae 'ar delerau masnachol' yn golygu lle mae'r eitem, nwyddau neu wasanaeth yn cael ei ddarparu am ei werth marchnadol. Mae’r gyfraith yn trafod nawdd a mathau eraill o roddion er mwyn darparu tryloywder ar y dulliau gwahanol o gymorth ariannol sy’n cael ei ddarparu i’r blaid. Gweler Nawdd am ragor o wybodaeth.

Rhoddion gwerth £500 neu lai

Mae rhoddion gwerth £500 neu lai y tu hwnt i gwmpas y PPERA ac nid oes angen i chi eu cofnodi nac adrodd amdanynt.7

Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn wyliadwrus o sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi’r gyfraith. Mae ceisio osgoi’r rheoliadau ar roddion yn drosedd.8  Er enghraifft, os caiff nifer o roddion gwerth £400 eu gwneud gan yr un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi’r rheolau caniatâd.

Os ydych chi’n meddwl y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026