| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw nawdd?

Mae nawdd yn golygu unrhyw arian neu eiddo arall (eitemau, nwyddau neu wasanaethau) a ddarperir i’r blaid i helpu, y mae’n rhaid tybio’n rhesymol ei fod yn helpu, i dalu costau mewn cysylltiad ag:

  • unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (sy’n cynnwys digwyddiadau neu gynadleddau digidol)
  • paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (print neu ddigidol), neu
  • unrhyw astudiaeth neu ymchwil

lle caiff y rhain eu trefnu gan y blaid neu ar ei rhan.1

Gall nawdd gynnwys trosglwyddo arian neu eiddo i’r blaid ar delerau masnachol. Hyd yn oed os yw’r blaid a’r noddwr yn ystyried hyn fel trefniant masnachol, mae nawdd yn fath o rodd. Mae’r un gofynion adrodd a chaniatâd ar gyfer rhoddion eraill yn berthnasol hefyd i roddion a dderbynnir fel nawdd.

Caiff nawdd ei reoleiddio oherwydd mae’n cael effaith debyg i fathau eraill o roddion. Ar gyfer nawdd a mathau eraill o roddion, mae’r gyfraith yn darparu tryloywder ar fuddion ariannol a ddarperir i’r blaid.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am rodd nawdd, mae’n rhaid i chi ei nodi fel nawdd.2  Mae hyn yn darparu tryloywder ac yn helpu pleidleiswyr i ddeall natur y taliadau hyn drwy eu gwahaniaethu rhwng mathau eraill o roddion.

Pryd mae taliad yn helpu i dalu costau?

Gan amlaf, gellir tybio’n rhesymol bod taliad a wneir mewn cysylltiad â digwyddiad, cyhoeddiad neu waith ymchwil yn cael ei wneud i helpu i dalu ei gostau. Os mai un o ddibenion y taliad oedd helpu’r blaid i dalu’r costau hyn, neu os oes rhaid tybio’n rhesymol mai un o’r dibenion oedd helpu’r blaid i dalu’r costau hyn, mae’n nawdd. 

Mae'n bwysig ystyried sut y byddai person rhesymol yn gweld y taliad ac a fyddent yn meddwl mai un o ddibenion y taliad yw helpu'r blaid i dalu'r costau hyn.

Nid oes rhaid defnyddio taliad i dalu costau’n uniongyrchol iddo gyfrif fel nawdd.

Prisio nawdd

Gwerth y nawdd yw swm llawn y taliad a dderbynnir gan y noddwr. Ni ddylech wneud unrhyw ddidyniadau ar gyfer unrhyw fudd posibl i’r noddwr neu lle mae costau gwirioneddol y digwyddiad, cyhoeddiad, astudiaeth neu waith ymchwil yn llai na’r swm a dderbynnir gan y noddwr.3

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026