| Argraffu'r canllawiau llawn

Digwyddiadau ymylol cynhadledd

Mae’r rheoliadau nawdd yn berthnasol i ddigwyddiadau a drefnir gan y blaid, neu ar ei rhan, yn unig. Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau ymylol a gynhelir yn eich cynadleddau plaid.

Digwyddiadau ymylol a drefnir yn allanol

Trefnir mwyafrif y digwyddiadau ymylol gan sefydliadau allanol, yn hytrach na chan y blaid ei hun. Ni fydd taliadau tuag at dalu costau’r digwyddiadau hyn yn nawdd.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn cynnig cefnogaeth i'r sefydliadau hyn neu'n cynnig gwneud taliadau ar eu rhan. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cynnig cefnogaeth staff, marchnata neu arlwyo yn y digwyddiad neu’n talu'r ganolfan gynadledda’n uniongyrchol am logi'r ystafell. Gall y sefydliad hefyd eich talu chi i ddarparu hysbysebu yn y digwyddiad.

Os ydych yn darparu cefnogaeth neu wasanaethau eraill yn y digwyddiadau hyn, rhaid i chi sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu gwerthuso ar gyfradd y farchnad gymharol. Bydd unrhyw daliadau a gewch am y gwasanaethau hyn ar gyfradd y farchnad yn incwm masnachol ac ni fyddant yn rhodd i'r blaid. Fodd bynnag, os byddwch yn codi tâl neu'n cael eich talu mwy na chyfradd y farchnad am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu, bydd y swm ychwanegol hwn yn rhodd os yw hyn yn fwy na £500.1

Digwyddiadau ymylol a drefnir gan y blaid

Weithiau gall eich plaid, neu adrannau o’ch plaid gynnal y digwyddiadau ymylol hyn. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y taliadau a ddarperir i’ch helpu i dalu’r costau hyn yn cyfrif fel nawdd.

Enghraifft A

Mae grŵp ymgyrch gofal iechyd yn trefnu a chynnal digwyddiad ymylol mewn cynhadledd plaid i drafod dyfodol y GIG. Mae’r grŵp ymgyrch yn talu am gostau llogi’r ystafell a darparu lluniaeth i’r blaid ar gyfradd farchnad gymharol.

Gan fod y digwyddiad yn cael ei drefnu gan y grŵp ymgyrch gofal iechyd, ac nid y blaid, nid yw’r taliadau ar gyfer y digwyddiad hwn yn nawdd. Mae'r taliadau i'r blaid ar gyfer llogi'r ystafell a lluniaeth yn incwm masnachol ac nid ydynt yn rhoddion.

Enghraifft B

Mae plaid yn trefnu digwyddiad sy’n rhoi’r cyfle i gynrychiolwyr gwrdd ag arweinydd y blaid. Mae cymdeithas adeiladu yn talu’r blaid i arddangos ei logo yn y lleoliad ac ar restriad y digwyddiad ymylol am gyfanswm cost o £8,000.

Gan fod y digwyddiad yn cael ei drefnu gan y blaid, mae’r taliad o £8,000 gan y gymdeithas adeiladu i helpu’r blaid dalu costau’r digwyddiad yn nawdd. Mae hwn yn rhodd i’r blaid, gan fod gwerth y nawdd yn fwy na £500.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026