| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa daliadau nad ydynt yn cyfrif fel nawdd?

Nid yw’r taliadau canlynol yn cyfrif fel nawdd:1

  • costau mynediad i gynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill 
  • pris prynu cyhoeddiadau, neu unrhyw gost arall i’w cyrchu
  • taliadau cyfradd masnachol ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau
  • taliadau am stondinau cynhadledd nad ydynt fwy na’r gyfradd uchaf a osodwyd gan y Comisiwn Etholiadol

Er nad yw’r taliadau hyn yn cyfrif fel nawdd, gallant yn hytrach fod yn fath gwahanol o rodd i’r blaid. Os nad yw taliad yn nawdd, dylech ystyried a yw’r taliad yn fath arall o rodd, er enghraifft, rhodd ariannol neu arian a wariwyd i dalu costau a ysgwyddwyd gan y blaid.

Mae'r Comisiwn o'r farn nad yw gwerthu nwyddau brand plaid mewn digwyddiadau yn nawdd.

Prisiau mynediad

Ni fydd costau mynediad ar gyfer eich digwyddiadau yn cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, tocynnau mynediad i gynadleddau neu ffi fynediad i fynychu digwyddiad a drefnwyd gan y blaid neu ar ei rhan.

Fodd bynnag, os ydych chi’n codi tâl neu’n cael eich talu mwy na gwerth y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn y digwyddiad, bydd y swm ychwanegol hwn yn rhodd os yw’n fwy na £500. Gweler enghreifftiau cyffredin o nawdd am ragor o enghreifftiau ac arweiniad ar hyn.

Hysbysebion mewn cyhoeddiadau pleidiau

Ni fydd taliadau a wneir i roi hysbysebion yn eich cyhoeddiadau plaid ar y gyfradd fasnachol yn cael eu cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, bydd cyhoeddiadau yn cynnwys llawlyfrau cynadledda, cyfeiriaduron neu agendâu printiedig eraill, llyfrau neu gylchgronau.

Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i hysbysebu mewn cyhoeddiadau plaid yn unig ac nid yw’n cynnwys hysbysebu mewn mannau eraill, megis baneri cynadleddau, neu ar basiau cynadleddau. 

Er mwyn penderfynu a yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion mewn cyhoeddiad plaid yn rhodd, mae’n rhaid i chi gyfrifo’r gyfradd fasnachol i’w chodi am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y gyfradd gyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.

Os bydd rhywun yn talu mwy na’r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad plaid, bydd swm llawn y taliad yn cyfrif fel nawdd.  Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn berthnasol mwyach.

Gweler y dudalen nesaf am arweiniad ar stondinau cynhadledd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026