Rydym wedi adolygu ein dull o ymdrin â rhoddion nawdd, yn dilyn adborth gan bleidiau. Dyma ein canllawiau newydd ar nawdd a fydd yn berthnasol i nawdd a dderbynnir o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Ar gyfer ein canllawiau nawdd cyfredol, gweler y canllawiau ar roddion a benthyciadau i bleidiau:
Canllawiau newydd ar rhoddion a benthyciadau ar gyfer pleidiau gwleidyddol: Nawdd
Enghreifftiau cyffredin o nawdd
Hysbysebu mewn cynhadledd
Mae enghreifftiau o hysbysebu sy’n nawdd yn cynnwys:
- baneri hysbysebu a arddangosir yn lleoliadau a neuadd y gynhadledd
- pamffledi hysbysebu sydd wedi’u cynnwys mewn pecynnau cynhadledd i gynrychiolwyr
- hysbysebu ar y laniardiau ar gyfer pasys i’r gynhadledd
- hysbysebu sydd wedi’i gynnwys mewn ffolderi pecynnau cynhadledd
Er enghraifft, mae cwmni’n talu £15,000 i blaid er mwyn cael ei enw a’i logo ar y laniardiau ar gyfer pàs i’r gynhadledd sy’n cael ei roi i bob person sy’n mynychu’r gynhadledd. Gan y gellir tybio’n rhesymol mai un o ddibenion y taliad yw helpu’r blaid i dalu costau sy’n gysylltiedig â chynnal y gynhadledd, mae hyn yn nawdd.
Mae’n rhaid i’r blaid wirio bod y cwmni’n rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd ac adrodd y rhodd i’r Comisiwn, gan ei bod dros y trothwy adrodd o £11,180.
Ciniawau a derbyniadau cynhadledd
Bydd taliadau a wneir at dalu costau cinio neu dderbyniad a drefnir gan y blaid neu ar ei rhan yn nawdd.
Enghraifft A
Mae cwmni’n talu £30,000 i noddi cinio cynhadledd a drefnir gan y blaid. Mae hyn yn cynnwys arddangos enw a logo’r cwmni ar faneri yn y cinio ac ar y fwydlen, ynghyd â bwrdd yn y cinio i’r cwmni a’i westeion.
Mae’n rhaid i’r blaid wirio bod y cwmni’n rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd ac adrodd y swm llawn i’r Comisiwn, gan ei fod dros y trothwy adrodd.
Enghraifft B
Mae cwmni’n talu £15,000 i logi neuadd gynhadledd er mwyn i blaid gynnal digwyddiad. Bydd enw a logo’r cwmni’n cael eu harddangos yn y neuadd yn ystod y digwyddiad. Mae’n rhaid i’r blaid wirio bod y cwmni’n rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd ac adrodd y swm llawn i’r Comisiwn, gan ei fod dros y trothwy adrodd.
Os ydych yn gwerthu tocynnau i ginio neu dderbyniad a drefnwyd gennych chi neu ar eich rhann, ni fydd hyn yn nawdd gan nad yw prisiau mynediad i ddigwyddiadau plaid yn cyfrif fel nawdd.
Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cyfrifo gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarparwyd yn y digwyddiad, gan y bydd y gwahaniaeth rhwng y gwerth a’r swm sy’n cael ei dalu i chi yn cyfrif fel rhodd nad yw’n nawdd os yw’r gwerth hwn yn fwy na £500.1
Er enghraifft, mae plaid yn gwerthu tocynnau i’w chinio cynhadledd. Mae costau’r digwyddiad fel a ganlyn:
- gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person: £30
- pris tocyn: £120
Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person a’r swm a godir yn £90. Gan nad yw gwerth y rhodd yn fwy na £500 yn yr achos hwn, nid oes rhodd wedi ei gwneud i’r blaid.
Yn yr un digwyddiad, mae’r blaid hefyd yn gwerthu byrddau i 10 o westeion.
- gwerth marchnadol pob bwrdd: £300
- pris y bwrdd: £1,000
Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth pob bwrdd a’r swm a godwyd yn £700. Bydd unrhyw un sy’n prynu bwrdd yn y cinio cynhadledd felly’n rhoi £700 i’r blaid. Gan mai rhoddion gwerth mwy na £500 gan ffynhonnell a ganiateir yn unig y gall y blaid eu derbyn, dim ond y rhai a ganiateir fydd yn gallu prynu bwrdd.
Pecynnau cynhadledd
Os ydych yn cynnig pecynnau cynhadledd, lle gall rhywun brynu pecyn cyfunol o eitemau ar gyfer digwyddiad, bydd angen i chi ystyried pob rhan o’r pecyn i asesu a yw’n nawdd, neu’n fath arall o rodd. Efallai na fydd rhai elfennau yn cyfrif fel nawdd, megis pris mynediad.
Pan mae rhai elfennau o becyn yn nawdd ac nad yw elfennau eraill yn nawdd ond yn fath arall o rodd, dylech ymdrin â swm llawn y rhodd fel nawdd ac adrodd hyn fel un rhodd nawdd, yn ôl yr angen.
Enghraifft A
Mae cwmni’n prynu pecyn ar gyfer y gynhadledd sy’n cynnwys:
- pedwar pàs i’r gynhadledd
- pedwar tocyn i’r cinio cynhadledd
- defnydd o logo’r cwmni ar becynnau cynrychiolwyr
- hysbyseb yn y cyfeiriadur cynhadledd.
Mae’r tocynnau a’r pasys cynhadledd i’r cinio cynhadledd wedi eu heithrio o fod yn nawdd gan nad yw prisiau mynediad ar gyfer digwyddiadau yn cyfrif fel nawdd. Fodd bynnag, cost cynnal y cinio yw £50 y pen ac mae’r blaid wedi gwerthu tocynnau am £150 yr un. Y gwahaniaeth rhwng gwerth y cinio a’r swm a dalwyd am bob tocyn yw £100. Mae’r rhan hon o’r pecyn yn rhodd o £400 i’r blaid, gan fod y noddwr wedi prynu pedwar tocyn.
Mae’r blaid wedi gwerthu’r hysbysebion yn y cyfeiriadur cynhadledd ar y gyfradd fasnachol. Nid yw taliadau ar gyfer yr hysbysebion yn cyfrif fel nawdd ychwaith gan fod taliadau ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau plaid ar y gyfradd fasnachol yn un o’r eithriadau nawdd.
Mae’r blaid hefyd wedi gwerthu hysbyseb gyda logo’r cwmni ar y pecynnau i gynrychiolwyr am £5,000. Mae’r swm llawn yn nawdd.
Cyfanswm gwerth y rhodd i’r blaid yw £5,400. Dylid trin y swm llawn fel nawdd.
Enghraifft B
Mae cwmni’n prynu pecyn ar gyfer cynhadledd sy’n cynnwys:
- dau docyn i’r derbyniad cynhadledd
- defnydd o logo’r cwmni o fewn y lleoliad
- hysbyseb yn y cyfeiriadur cynhadledd.
Nid yw’r tocynnau i’r derbyniad cynhadledd yn nawdd gan nad yw prisiau mynediad i ddigwyddiadau yn cyfrif fel nawdd o dan y gyfraith. Fodd bynnag, gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarparwyd yn y derbyniad yw £80 y pen ac mae’r blaid wedi gwerthu tocynnau am £500 yr un. Y gwahaniaeth rhwng gwerth y gwasanaeth a ddarparwyd a’r swm a dalwyd am bob tocyn yw £420. Mae’r rhan hon o’r pecyn yn rhodd o £840 i’r blaid, gan fod y noddwr wedi prynu dau docyn.
Mae’r blaid hefyd wedi gwerthu hysbyseb gyda logo’r cwmni ar y pecynnau i gynrychiolwyr am £5,000. Mae’r swm llawn yn nawdd.
Mae’r noddwr wedi talu £8,000 am yr hysbyseb yn y cyfeiriadur cynhadledd sy’n uwch na’r gyfradd fasnachol ar gyfer hysbyseb mewn cyhoeddiad plaid. Mae’r taliad llawn am yr hysbyseb hefyd yn nawdd.
Cyfanswm gwerth y rhodd i’r blaid yw £13,840. Dylid trin y swm llawn fel nawdd a’i adrodd i’r Comisiwn, gan fod hwn dros y trothwy adrodd o £11,180.
Cyhoeddiadau
Os byddwch yn derbyn taliadau tuag at gostau paratoi, cynhyrchu neu ddosbarthu cyhoeddiad a drefnir gan neu ar ran eich plaid, bydd hyn yn nawdd.
Er enghraifft, mae cwmni'n talu £12,000 i noddi cyhoeddiad plaid. Mae hyn yn cynnwys arddangos enw a logo'r cwmni yn y cyhoeddiad a'i hyrwyddo fel partner ymchwil ar y cyd.
Mae’n rhaid i'r blaid wirio bod y cwmni'n rhoddwr a ganiateir cyn derbyn y rhodd a'i hadrodd i'r Comisiwn, gan ei bod dros y trothwy adrodd o £11,180.
Os ydych chi'n gwerthu hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol, ni fydd hyn yn nawdd oherwydd nid yw taliadau a wneir i osod hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol yn cyfrif fel nawdd.
I ganfod a yw taliadau a wneir i osod hysbysebion mewn cyhoeddiad yn rhodd, rhaid i chi gyfrifo'r gyfradd fasnachol i'w chodi am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y cyfraddau cyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Os bydd rhywun yn talu mwy na'r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad, bydd swm llawn y taliad yn nawdd. Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn berthnasol mwyach.
- 1. Adran 50(3), s.52(2)(b) ac a.53(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1