A yw'r ardystiad yn ddilys?

A yw'r ardystiad yn ddilys?

Pan ddaw ardystiad cyflawn i law, rhaid i chi asesu a yw'n ardystiad dilys. 

Er mwyn gwneud hyn, dylech ofyn y cwestiynau canlynol.

  • A yw'r ardystiwr yn ‘berson ac iddo enw da yn y gymuned’?
  • A yw'r ardystiwr wedi'i gofrestru i bleidleisio mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr?
  • A yw'r ardystiwr wedi llofnodi llai na dau ardystiad ers i'r gofrestr flynyddol gael ei chyhoeddi ddiwethaf, neu ers i'r ardystiwr gael ei ychwanegu at y gofrestr gyntaf, pa un bynnag yw'r mwyaf diweddar?

Enw da

Nid oes diffiniad manwl gywir o enw da; fodd bynnag, at ddibenion ardystiad, dylech ystyried ei fod yn golygu rhywun sydd â chymwysterau y gellir eu cadarnhau ac a fyddai'n dioddef niwed proffesiynol neu niwed i'w enw da petai'n cyflwyno ardystiad anwir. Nid yw'r rhestr yn y tabl isod yn ddiamod, ond bwriedir iddi ddangos pa broffesiynau y gellir eu disgrifio fel rhai ac iddynt enw da:

cyfrifydd 
peilot awyrennau 
clerc erthyglog cwmni cyfyngedig 
asiant sicrwydd cwmni cydnabyddedig 
swyddog banc/cymdeithas adeiladu 
bargyfreithiwr 
cadeirydd/cyfarwyddwr cwmni cyfyngedig 
ciropodydd 
comisiynydd llwon 
gwas sifil (parhaol)
deintydd 
cyfarwyddwr/rheolwr elusen wedi'i chofrestru at ddibenion TAW 
cyfarwyddwr/rheolwr/swyddog personél cwmni wedi'i gofrestru at ddibenion TAW 
peiriannydd (â chymwysterau proffesiynol) 
cyfryngwr gwasanaethau ariannol (e.e. stocbrocer neu frocer yswiriant) 
swyddog gwasanaeth tân 
trefnydd angladdau 
asiant yswiriant (amser llawn) cwmni cydnabyddedig 
newyddiadurwr 
Ynad Heddwch 
ysgrifennydd cyfreithiol (cymrawd neu aelod cyswllt o Sefydliad yr Ysgrifenyddion Cyfreithiol a'r Cynorthwywyr Personol) 
tafarnwr 
swyddog llywodraeth leol 
rheolwr/swyddog personél (cwmni cyfyngedig) 
gweithiwr meddygol proffesiynol
aelod, aelod cyswllt neu gymrawd o gorff proffesiynol 
swyddog yn y llynges fasnachol 
gweinidog crefydd gydnabyddedig (gan gynnwys Gwyddoniaeth Gristnogol) 
nyrs (nyrs gyffredinol gofrestredig a nyrs iechyd meddwl gofrestredig) 
aelod o'r lluoedd arfog 
optegydd 
paragyfreithiwr (paragyfreithiwr ardystiedig, paragyfreithiwr cymwysedig neu aelod cyswllt o Sefydliad y Paragyfreithwyr) 
rhywun ag anrhydedd (OBE neu MBE, er enghraifft) 
fferyllydd 
ffotograffydd (proffesiynol) 
swyddog heddlu 
swyddog Swyddfa'r Post 
cynrychiolydd a etholwyd yn gyhoeddus (AS, Cynghorydd, ASE ac ati)
llywydd/ysgrifennydd sefydliad cydnabyddedig 
swyddog Byddin yr Iachawdwriaeth 
gweithiwr cymdeithasol 
cyfreithiwr 
syrfëwr 
athro/athrawes, darlithydd 
swyddog undeb llafur 
trefnydd teithiau (cymwysedig) 
prisiwr neu arwerthwr (cymrodyr ac aelodau cyswllt y gymdeithas gorfforedig) 
Swyddogion Gwarant a Phrif Is-swyddogion 

Mae'n bwysig nodi na chaiff rhywun sy'n ddi-waith neu sydd wedi ymddeol ac iddo enw da yn y gymuned ei atal rhag ardystio cais.

Rhaid i chi farnu pob ardystiad yn ôl ei rinweddau unigol yn hytrach na defnyddio'r un polisi ar gyfer pob un.

Rhaid i chi asesu a yw'r ardystiad yn bodloni'r gofynion perthnasol, drwy ateb dau gwestiwn pellach:

A yw'r ardystiwr wedi'i gofrestru i bleidleisio mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr? 

Os yw cyfeiriad yr ymgeisydd mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr, rhaid i'r ardystiwr fod wedi'i gofrestru i bleidleisio mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr.1  

Os yw cyfeiriad yr ardystiwr yn yr un ardal awdurdod lleol â'r ymgeisydd, dylech edrych ar eich cofrestr etholiadol a'ch meddalwedd rheoli etholiadol i gadarnhau bod yr ardystiwr yn bodloni'r amod hwn.

Os nad yw cyfeiriad yr ardystiwr yn yr un ardal awdurdod lleol â'r ymgeisydd, dylech gysylltu â Swyddog Cofrestru Etholiadol yr ardystiwr i gadarnhau a yw'r ardystiwr yn bodloni'r amodau hyn.

A yw'r ardystiwr wedi llofnodi llai na dau ardystiad naill ai ers i'r gofrestr gael ei chyhoeddi ddiwethaf, neu ers i'r ardystiwr gael ei ychwanegu ati, pa un bynnag yw'r mwyaf diweddar?

Ni chaniateir i ardystwyr lofnodi mwy na dau ardystiad mewn unrhyw flwyddyn etholiadol (o 1 Rhagfyr tan 30 Tachwedd fel arfer), neu ers i'w cofnod gael ei ychwanegu at y gofrestr yn yr ardal awdurdod lleol honno, pa un bynnag yw'r cyfnod byrraf. 

Mae hyn yn galluogi Swyddog Cofrestru Etholiadol yr ardystiwr i roi'r wybodaeth ofynnol yn hyderus heb fod angen iddo roi cyfrif am ardystiadau a wnaed tra oedd yr ardystiwr wedi'i gofrestru rywle arall.

Dylai meddalwedd rheoli etholiadau gofnodi pob achlysur y bydd etholwr yn llofnodi ardystiad. Os bydd ardystiwr wedi cyrraedd y terfyn, dylech wrthod yr ardystiad am y rheswm hwn. Ni fydd hyn yn atal yr ymgeisydd rhag ceisio ardystiad arall gan etholwr arall. Dylech brosesu ardystiadau yn y drefn y dônt i law. 

Mae hyn yn golygu, os bydd yr ardystiwr yn bodloni'r holl amodau, y caiff yr ardystiad ei dderbyn, ac felly bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol yr ardystiwr yn gallu nodi hyn ar gofnod yr etholwr. Bydd hyn wedyn yn cyfrif tuag at y cyfanswm o ardystiadau y caiff yr etholwr hwn eu gwneud, rhag ofn iddo lofnodi ardystiad arall yn y dyfodol. 

Last updated: 26 May 2021