Return to The Electoral Commission Homepage

Sut i gynnal eich plaid wleidyddol gofrestredig

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer pleidiau sydd am ddysgu sut i gynnal eu manylion cofrestredig a gwneud newidiadau iddynt.

Rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a'u swyddogion gydymffurfio â'r gyfraith, yn benodol fel y'i nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). 

O dan PPERA, ar ôl i chi gofrestru, rhaid i chi sicrhau bod manylion eich plaid yn cael eu diweddaru. Cyfrifoldeb trysorydd eich plaid yw hyn.

Fel trysorydd plaid, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod manylion eich plaid yn gyfredol.

Maent yn ymdrin â'r canlynol:

  • sut i gyflwyno eich cadarnhad cofrestru blynyddol
  • sut i newid eich manylion cofrestredig
  • sut i dynnu eich plaid oddi ar y gofrestr

Ffioedd

Yn dibynnu ar ba fanylion y mae angen i chi eu newid, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu ffi weinyddu. Bydd unrhyw ffioedd yn ymddangos ar eich ffurflen gais ar-lein neu'r ffurflen berthnasol. 

Os codir tâl, y ffi na chaiff ei had-dalu fydd £25 fesul cais, oni fyddwch yn newid statws eich plaid lai. Y ffi i newid statws eich plaid lai fydd £150.

Gallwch wneud mwy nag un diwygiad fesul cais.

Dylech ganiatáu 20 diwrnod gwaith i ni brosesu eich cais. 

Ein system ar-lein

Gallwch ddiwygio eich cais ar-lein. Os nad oes gennych gyfrif Cyllid Gwleidyddol Ar-lein, bydd angen i chi sefydlu un i ddiwygio eich manylion ar-lein. Rhaid i bob un o swyddogion eich plaid gael cyfrifon e-bost ar wahân. Gallwch dalu unrhyw ffi yn electronig pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein. 

Mae gennym ganllaw fesul cam ar gyfer defnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein i ddiweddaru eich manylion.

Os na allwch ddiwygio eich manylion ar-lein, bydd angen i chi gwblhau ffurflen. I ganfod y ffurflen, ewch i'r dudalen sy'n sôn am y newid rydych am ei wneud.

Eich cadarnhad blynyddol o fanylion cofrestredig

Er mwyn parhau i fod wedi'ch cofrestru, bob blwyddyn mae'n rhaid i chi gadarnhau bod eich manylion cofrestredig yn gywir a thalu ffi o £25. Eich cadarnhad blynyddol o fanylion cofrestredig yw hyn.  

Os na fydd unrhyw fanylion cofrestredig yn gywir ar hyn o bryd, mae'n rhaid i chi eu newid cyn cadarnhau. Gallwch wneud hyn oll fel un cais.

Dylech gyflwyno eich cadarnhad blynyddol o fewn chwe mis i'r dyddiad y mae angen cyflwyno eich cyfrifon blynyddol. Byddwn yn anfon nodyn i'ch atgoffa cyn yr adeg hon. Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno eich cadarnhad yn brydlon.

Os na fyddwch yn cyflwyno eich cadarnhad erbyn y dyddiad cau, neu nad ydych yn ein hysbysu'n briodol am unrhyw newidiadau i'ch manylion pan fydd hynny'n ofynnol, caiff eich plaid ei dileu o'r gofrestr. Os bydd hyn yn digwydd, yna os byddwch am fod ar y gofrestr, bydd angen i chi wneud cais newydd i ailgofrestru eich plaid a thalu'r ffi gofrestru lawn o £150.  

Cyflwyno ar-lein

Gallwch gyflwyno eich cadarnhad blynyddol gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Mae gennym ganllaw fesul cam ar gyfer defnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein ar gyfer eich cadarnhad blynyddol.

Ffyrdd eraill o gyflwyno eich cadarnhad cofrestru blynyddol

Os na allwch gadarnhau ar-lein, gallwch gwblhau ffurflen a'i dychwelyd atom.

Y ffi

Mae ffi flynyddol o £25.

Os byddwch yn gwneud newidiadau ar yr un pryd ag y byddwch yn adnewyddu, os bydd ffi yn gysylltiedig â nhw, caiff y ffi honno ei hychwanegu at y ffi adnewyddu.

Gallwch dalu eich ffi ar-lein yn ystod y broses gadarnhau ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Gallwch hefyd dalu drwy siec, archeb arian neu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol. Dylech wneud unrhyw sieciau yn daladwy i'r Comisiwn Etholiadol.

Cysylltwch â'n Tîm Cofrestru os bydd gennych unrhyw gwestiynau am gadarnhad blynyddol eich plaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Newid cyfeiriadau eich plaid

Rhaid i chi ddweud wrthym o fewn 28 diwrnod os byddwch yn newid cyfeiriadau eich plaid. 

Rhaid i chi ddweud wrthym os bydd unrhyw newidiadau i'r canlynol:

  • cyfeiriadau pencadlys neu uned gyfrifyddu eich plaid gofrestredig
  • manylion cyfeiriad cartref swyddog cofrestredig y blaid

Cyflwyno ar-lein

Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Ffyrdd eraill o gyflwyno

Os na allwch newid eich manylion ar-lein, cwblhewch ffurflen a'i dychwelyd atom. 

Rhaid i drysorydd eich plaid lofnodi'r ffurflen.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Newid eich unedau cyfrifyddu

Unedau cyfrifyddu

Mae'r rhan fwyaf o bleidiau'n gweithredu fel uned unigol, sy'n golygu bod trysorydd y blaid yn goruchwylio cyllid y blaid gyfan. 

Fodd bynnag, efallai y byddwch am gofrestru canghennau o'r blaid sydd ag ymreolaeth ariannol. Gelwir y rhain yn “unedau cyfrifyddu” ac mae pob uned yn gyfrifol am ei chyllid ei hun. Mae cofrestru unedau cyfrifyddu yn ddewisol. 

Rhaid i'ch cynllun ariannol nodi a fydd gan eich plaid unedau cyfrifyddu. Nodwch nad yw ein templed safonol ar gyfer y cynllun yn addas ar gyfer pleidiau sydd ag unedau cyfrifyddu. 

Os oes gennych ganghennau nad oes ganddynt ymreolaeth ariannol, ni fydd angen i chi eu cofrestru fel unedau cyfrifyddu ac ni fydd angen iddynt ymddangos yn eich cynllun ariannol. Fodd bynnag, efallai y byddwch am gyfeirio atynt yn eich cyfansoddiad o hyd,

Os byddwch yn dewis cofrestru unedau cyfrifyddu, mae'n rhaid bod gan bob uned ei thrysorydd a'i hail swyddog ei hun. Rhaid i chi hefyd gofrestru cyfeiriad pencadlys yr uned gyfrifyddu neu gyfeiriad gohebiaeth os nad oes gan yr uned gyfrifyddu bencadlys. 

Gallwn roi rhagor o gyngor ar yr hyn sy'n ofynnol, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf os bydd angen rhagor o gyngor arnoch ar unedau cyfrifyddu.

Newidiadau i'ch unedau cyfrifyddu

Rhaid i chi ddweud wrthym o fewn 28 diwrnod os byddwch yn gwneud newidiadau i'ch unedau cyfrifyddu.

Rhaid i chi ddweud wrthym os bydd unrhyw newidiadau i'r canlynol:

  • enw uned gyfrifyddu
  • enwau swyddogion cofrestredig uned gyfrifyddu

Cyflwyno ar-lein

Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Ffyrdd eraill o gyflwyno

Os na allwch newid eich manylion ar-lein, cwblhewch ffurflen a'i dychwelyd atom.

Rhaid i drysorydd eich plaid lofnodi'r ffurflen.

Os byddwch yn newid enw uned gyfrifyddu, gan gynnwys os byddwch yn ychwanegu, yn dileu neu'n uno unedau cyfrifyddu, bydd yn ofynnol i chi ddiweddaru eich cynllun ariannol. 

Dylai trysorydd cofrestredig eich plaid gysylltu â'n tîm Cofrestru Plaid gyda'ch rhestr ddiwygiedig o unedau cyfrifyddu cyn gynted â phosibl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Newid swyddogion cofrestredig eich plaid

Rhaid i chi ddweud wrthym o fewn 14 diwrnod am unrhyw newidiadau os byddwch am newid swyddog cofrestredig.

Rhaid i blaid wneud hyn os bydd penodiad swyddog wedi dod i ben am unrhyw reswm, gan gynnwys os bydd swyddog wedi marw.

Newid eich swyddogion ar-lein

Gallwch newid eich swyddogion ar-lein, gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein

Mae gennym ganllaw fesul cam ar gyfer defnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein i newid swyddogion eich plaid.

Ffyrdd eraill o gyflwyno eich newidiadau

Os na allwch newid eich manylion ar-lein, cwblhewch ffurflen a'i dychwelyd atom.

Rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan:

  • y trysorydd cofrestredig presennol
  • arweinydd cofrestredig presennol y blaid
  • y swyddog enwebu cofrestredig presennol
  • y swyddog newydd (os yw'n berthnasol)

Os mai un person fydd yn dal y tair swydd (trysorydd, arweinydd y blaid a'r swyddog enwebu), rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan:

  • eich swyddog ychwanegol cofrestredig 
  • eich swyddog ymgyrchu cofrestredig (os oes gennych un)

Dylech gadarnhau eich manylion cofrestredig er mwyn sicrhau bod yr unigolion cywir yn llofnodi'r ffurflen. 

Beth os na all swyddog lofnodi cais?

Os na all un o swyddogion cofrestredig y blaid lofnodi, gall awdurdodi un o swyddogion eraill y blaid i'w llofnodi ar ei ran. 

Rhaid i'r cais gynnwys: 

  • datganiad yn esbonio bod y person arall wedi'i awdurdodi i lofnodi yn lle'r swyddog gofynnol 
  • datganiad yn esbonio pam na all y swyddog gofynnol lofnodi 

Efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych fel y gallwn fod yn fodlon bod y cais yn bodloni'r gofynion a nodir yn y gyfraith. 

Nodwch nad yw'n debygol y byddwn yn ystyried na all swyddog lofnodi ffurflen os mai dim ond gwrthod gwneud hynny y mae. Os na allwch gysylltu â swyddog gofynnol, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi tystiolaeth o ymdrechion a wnaed gennych i gysylltu â'r swyddog hwnnw.

Trysoryddion 

Os bydd penodiad y trysorydd wedi dod i ben, neu os bydd wedi marw, yr arweinydd fydd yn gyfrifol am lofnodi bod y swyddog wedi newid. 

Os mai'r trysorydd oedd arweinydd y blaid hefyd, y swyddog enwebu fydd yn gyfrifol am hyn.

Os mai'r trysorydd oedd yn cyflawni'r tair rôl, yna'r swyddog ychwanegol neu'r swyddog ymgyrchu fydd yn gyfrifol am hyn.

Dim ond i newidiadau i drysorydd y blaid y mae hyn yn gymwys, nid i'r arweinydd na'r swyddog enwebu. Mae'n debygol y byddwn yn gofyn i chi ddangos bod penodiad y trysorydd wedi dod i ben fel y gallwn fod yn fodlon bod y cais yn bodloni'r gofynion a nodir yn y gyfraith.

Swyddogion ymgyrchu

Os byddwch yn newid eich swyddog ymgyrchu, mae'r broses yr un fath ag ar gyfer newid unrhyw swyddog arall.

Fodd bynnag, os byddwch yn newid strwythur eich plaid i ychwanegu neu ddileu rôl y swyddog ymgyrchoedd ei hun, mae hyn yn golygu newid y gofrestr a chodir ffi o £25.

Efallai y bydd angen i chi anfon cynllun ariannol diwygiedig atom.

Cynllun ariannol diwygiedig

Efallai y bydd angen i chi anfon copi diwygiedig o'ch cynllun ariannol atom os byddwch yn newid swyddogion cofrestredig y blaid a enwir yn y cynllun. 

Os byddwch yn penodi swyddog ymgyrchu, efallai y bydd angen i chi anfon copi diwygiedig o'ch cynllun ariannol atom er mwyn adlewyrchu'r newidiadau o ran cyfrifoldebau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cyfrifoldebau swyddogion

Bydd gan swyddogion cofrestredig pleidiau gwleidyddol rôl benodol mewn plaid. Bydd ganddynt gyfrifoldebau statudol penodol fel rhan o'u rolau hefyd. 

Arweinydd plaid

Mae'n rhaid mai arweinydd y blaid yw arweinydd cyffredinol y blaid. Os nad oes gan eich plaid arweinydd cyffredinol (er enghraifft, os oes gennych arweinwyr ar y cyd), rhaid i chi gofrestru person fel arweinydd â diben penodol yn y blaid. Er enghraifft, y sawl sy'n gwneud penderfyniadau terfynol ar faterion mewnol pleidiau. 
  
Os na fydd trysorydd y blaid yn ei swydd mwyach, bydd arweinydd y blaid yn gweithredu fel trysorydd dros dro nes i'r blaid ein hysbysu am drysorydd newydd.

Trysorydd plaid

Mae gan drysorydd cofrestredig plaid wleidyddol gyfrifoldebau cyfreithiol sylweddol. Rhaid iddo sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolau cyllid gwleidyddol a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Felly, mae'n bwysig bod person priodol yn cael ei gofrestru i fod yn drysorydd y blaid. 

Ni all y trysorydd fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau yn y pum mlynedd cyn iddo gael ei benodi.

Swyddog enwebu

Swyddog enwebu'r blaid sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am drefnu'r broses o enwebu ymgeiswyr a chymeradwyo nodau adnabod y blaid a ddefnyddir ar ffurflenni enwebu a phapurau pleidleisio mewn etholiadau. 

Nid oes unrhyw ddarpariaeth o dan PPERA i gofrestru dirprwy swyddog enwebu. Fodd bynnag, gall y swyddog enwebu cofrestredig awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran yn ysgrifenedig.

Swyddog ychwanegol

Os byddwch yn cofrestru swyddog ychwanegol, bydd ganddo rôl swyddogol o ryw fath yn y blaid. Mae'n rhaid i chi gofrestru swyddog ychwanegol â ni os mai'r un person yw arweinydd, trysorydd a swyddog enwebu'r blaid, ac nad oes gennych swyddog enwebu. Os nad yw hyn yn wir, ni allwch gofrestru swyddog ychwanegol â ni. 

Swyddog ymgyrchu

Bydd y swyddog ymgyrchu yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau o ran adroddiadau ariannol ar gyfer gwariant ar ymgyrchu mewn etholiadau penodol. Bydd yn cymryd y cyfrifoldebau hyn oddi wrth drysorydd y blaid.   

Ni ddylai'r swyddog ymgyrchu fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau o fewn pum mlynedd i gael ei benodi ac ni all fod yn drysorydd hefyd.

Dirprwy drysorydd a dirprwy swyddog ymgyrchu

Gall trysorydd neu swyddog ymgyrchu cofrestredig y blaid benodi hyd at 12 o ddirprwy swyddogion i gynorthwyo â'r gwaith o awdurdodi gwariant ar ymgyrchu. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol os yw eich plaid yn ymladd llawer o seddi. Defnyddiwch Ffurflen RP5 i gofrestru dirprwy swyddogion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Swyddogion eich plaid

Rhaid i bleidiau gwleidyddol gynnwys pobl sydd wedi'u cofrestru ar gyfer rolau swyddogol penodol. Mae'r rolau hyn yn cynnwys:

  •     arweinydd plaid
  •     trysorydd y blaid (nid yw'n gymwys ar gyfer pleidiau llai)
  •     swyddog enwebu

Rhaid i chi ddarparu enwau a chyfeiriadau cartref eich swyddogion.

Nid oes angen i chi gael tri unigolyn ar wahân ym mhob rôl, ond mae'n rhaid i chi gael o leiaf ddau berson fel swyddogion ar gyfer y blaid. Os mai un person fydd yn cyflawni pob un o'r rolau swyddogol, rhaid i chi gofrestru rhywun fel swyddog ychwanegol. Rhaid i'r swyddog ychwanegol gyflawni rôl benodedig yn y blaid. Os bydd gan eich plaid swyddog ymgyrchu, yna gellir ei gofrestru fel y swyddog ychwanegol.

Ni all yr un person gyflawni rolau'r trysorydd a'r swyddog enwebu oni bai mai ef yw'r arweinydd hefyd. 

Byddwch yn ymwybodol mai rolau statudol yw'r rhain, sy'n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol. 

Rolau swyddogion dewisol

Swyddog ymgyrchu – a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod eich plaid yn cydymffurfio â'r cyfreithiau ariannol ar gyfer gwariant yr ymgyrch yn lle'r trysorydd. Ni all ymgymryd â rôl y trysorydd hefyd. 

Swyddog ychwanegol – rhaid i chi wneud cais i gael swyddog ychwanegol os mai arweinydd y blaid yw'r trysorydd a'r swyddog enwebu hefyd ac nad oes gan eich plaid swyddog ymgyrchu.

Pleidiau llai

Os ydych yn blaid lai, rhaid i chi gofrestru arweinydd y blaid a swyddog enwebu. Rhaid i o leiaf ddau unigolyn gyflawni'r rolau swyddogion. Os mai un person fydd yn cyflawni'r ddwy rôl, rhaid i chi gofrestru rhywun fel swyddog ychwanegol. Ni ellir cofrestru pleidiau llai gyda thrysorydd neu swyddog ymgyrchu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Newid pa etholiadau rydych yn bwriadu eu hymladd

Pa rannau o'r DU y gallwch ymladd etholiadau ynddynt

Os ydych wedi cofrestru ym Mhrydain Fawr, gallwch newid y rhannau o'r gofrestr lle rydych yn ymddangos (Cymru, Lloegr, yr Alban). 

Bydd hyn yn eich galluogi i ymladd etholiadau yn y rhannau hynny o Brydain Fawr.

Pan fyddwch yn cyflwyno cais i ran arall o'r gofrestr, bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni aseu nodau adnabod presennol eich plaid ar y rhan newydd o'r gofrestr.

Mae cofrestr Gogledd Iwerddon ar wahân i gofrestr Prydain Fawr, ac mae angen cais ar wahân.

Cyflwyno ar-lein

Gallwch wneud hyn ar-lein, gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Ffyrdd eraill o gyflwyno

Os na allwch gyflwyno ar-lein, cwblhewch ffurflen a'i dychwelyd atom.

Rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan:

  • drysorydd cofrestredig presennol y blaid
  • arweinydd cofrestredig presennol y blaid
  • y swyddog enwebu cofrestredig presennol

Os mai un person fydd yn dal y tair swydd (trysorydd, arweinydd y blaid a'r swyddog enwebu), rhaid i'r ffurflen gal ei llofnodi gan:

  • eich swyddog ychwanegol cofrestredig 
  • eich swyddog ymgyrchu cofrestredig (os oes gennych un)

Os na all un o swyddogion cofrestredig y blaid lofnodi, gall awdurdodi un o swyddogion eraill y blaid i'w llofnodi ar ei ran. 

Rhaid i'r cais gynnwys: 

  • datganiad yn esbonio bod y person arall wedi'i awdurdodi i lofnodi yn lle'r swyddog gofynnol 
  • datganiad yn esbonio pam na all y swyddog gofynnol lofnodi 

Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Os bydd eich plaid yn penderfynu na fydd yn cyflwyno ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU, dylech ein hysbysu.

Mae hyn yn golygu y byddwch wedi eich eithrio rhag anfon adroddiadau wythnosol ar roddion a benthyciadau atom yn ystod yr etholiad.

Dylech wneud hyn cyn gynted ag y byddwch yn siŵr na fyddwch yn cyflwyno ymgeiswyr yn yr etholiad. 

Os byddwch yn newid eich meddwl ac yn penderfynu y bydd eich plaid yn cyflwyno ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf, gallwch dynnu'r eithriad yn ôl.

Cyflwyno ar-lein

Gallwch wneud hyn ar-lein, gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Ffyrdd eraill o gyflwyno

Os na allwch gyflwyno ar-lein, cwblhewch ffurflen a'i dychwelyd atom.

Rhaid i'r ffurflenni gael eu llofnodi gan:

  • arweinydd cofrestredig presennol y blaid
  • y swyddog enwebu cofrestredig presennol

Os mai'r un person fydd yn cyflawni'r ddwy rôl, rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan swyddog cofrestredig arall o fewn y blaid.

Os na all arweinydd y blaid na'r swyddog enwebu lofnodi'r ffurflen, rhaid i swyddog arall o'r blaid ei llofnodi, gan wneud datganiad ei fod wedi'i awdurdodi i'w llofnodi yn absenoldeb y swyddog cofrestredig, ac egluro pam na all y swyddog cofrestredig lofnodi'r ffurflen.

Adnewyddiad blynyddol

Os gwnaethoch ddweud wrthym wrth gofrestru na fyddech yn cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU, y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw cadarnhau eich bwriad pan fyddwch yn cyflwyno eich adnewyddiad blynyddol. 

Os byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn parhau i gael eich eithrio rhag anfon yr adroddiadau wythnosol.

Pleidiau llai

Dim ond etholiadau cynghorau plwyf neu gynghorau cymuned y gall pleidiau llai eu hymladd. 

Os ydych wedi cofrestru fel plaid lai a'ch bod am ymladd unrhyw etholiad arall, bydd angen i chi newid eich statws fel plaid lai.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Sut i newid eich statws fel plaid lai

Os ydych yn blaid lai a'ch bod am newid eich statws i fod yn blaid wleidyddol gofrestredig, cysylltwch â ni.

Bydd ffi gwneud cais na chaiff ei had-dalu o £150.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Sut i newid enw, disgrifiadau neu arwyddluniau eich plaid

Rydym yn cyfeirio at enw, disgrifiadau ac arwyddluniau eich plaid gyda'i gilydd fel “Nodau Adnabod”. Cânt eu defnyddio i adnabod plaid ar bapur pleidleisio mewn etholiadau. Nid yw pob nod adnabod yn orfodol. 

Rhaid i chi gael enw plaid cofrestredig. Mae'r nod adnabod hwn yn orfodol.

Gallwch gofrestru hyd at dri arwyddlun a 12 o ddisgrifiadau. Mae'r nodau adnabod hyn yn ddewisol.

Nid oes rhaid i chi gofrestru unrhyw nodau adnabod rydych yn bwriadu eu defnyddio ar ddeunyddiau ymgyrchu, oni bai eich bod hefyd yn bwriadu eu defnyddio ar bapur pleidleisio.

Gallwch wneud cais i newid enw, disgrifiadau ac arwyddluniau eich plaid, a gallwch ychwanegu disgrifiadau ar y cyd.

Cyflwyno ar-lein

Gallwch gyflwyno eich cais gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein

Ffyrdd eraill o gyflwyno

Os na allwch gyflwyno ar-lein, cwblhewch ffurflen a'i dychwelyd atom.

Rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan:

  • drysorydd cofrestredig presennol y blaid
  • arweinydd cofrestredig presennol y blaid
  • y swyddog enwebu cofrestredig presennol

Os mai un person sy'n dal y tair swydd (trysorydd, arweinydd y blaid a'r swyddog enwebu), rhaid i'r ffurflen gal ei llofnodi gan:

  • eich swyddog ychwanegol cofrestredig 
  • eich swyddog ymgyrchu cofrestredig (os oes gennych un)

Os na all un o swyddogion cofrestredig y blaid lofnodi, gall awdurdodi un o swyddogion eraill y blaid i'w llofnodi ar ei ran. 

Rhaid i'r cais gynnwys: 

  • datganiad yn esbonio bod y person arall wedi'i awdurdodi i lofnodi yn lle'r swyddog gofynnol 
  • datganiad yn esbonio pam na all y swyddog gofynnol lofnodi 

Y ffi

Codir ffi o £25.

Os byddwch yn cyflwyno nifer o newidiadau i'n nodau adnabod mewn un cais, dim ond un ffi a godir.

Gallwch dalu eich ffi ar-lein yn ystod y broses gadarnhau ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Gallwch hefyd dalu drwy siec, archeb arian neu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol. Dylech wneud unrhyw sieciau yn daladwy i'r Comisiwn Etholiadol.

Profion ar gyfer nodau adnabod

Rhaid i nodau adnabod fodloni gofynion a phrofion statudol penodol er mwyn cael eu cofrestru. Byddwn yn asesu eich cais i gofrestru nodau adnabod yn erbyn y profion hyn. 

Rydym yn esbonio'r profion hyn yn adrannau nesaf y ddogfen hon. O bryd i'w gilydd, bydd y Comisiwn hefyd yn cynnal adolygiadau o nodau adnabod ar ein cofrestri. Mae hyn yn rhan o'n dyletswydd i sicrhau ein bod yn cynnal y gofrestr o bleidiau gwleidyddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Enw'r blaid

Rhaid i blaid gofrestru enw'r blaid â ni. Gall ddefnyddio'r enw hwn ar bapurau pleidleisio.

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i newid cofnod ar gofrestr Prydain Fawr ac sy'n bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru wneud cais i enw Cymraeg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i newid cofnod ar gofrestr Gogledd Iwerddon wneud cais i enw Gwyddeleg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.

Nid ydym yn rheoleiddio'r modd y mae plaid am frandio ei hun na pha ymadroddion ymgyrchu y bydd yn eu defnyddio gyda'i henw pan na fydd y neges honno'n ymddangos ar bapurau pleidleisio. 

Os na fydd enw plaid wedi'i chofrestru â ni, ni fydd ymgeiswyr yn gallu ymladd etholiad gan ddefnyddio'r enw hwnnw ar bapurau pleidleisio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Arwyddluniau'r blaid ar bapurau pleidleisio

Cynrychiolaeth weledol, ddewisol (neu logo) plaid yw ei harwyddlun. Ochr yn ochr â nodau adnabod eraill, gall arwyddlun helpu pleidleiswyr i adnabod y blaid ar bapurau pleidleisio. Gall pleidiau gofrestru hyd at dri arwyddlun. 

Er mwyn i'r blaid neu eich ymgeisydd ddefnyddio arwyddlun ar bapur pleidleisio, rhaid i'r blaid ei gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol. 

Nid oes angen i chi gofrestru arwyddlun os ydych ond am ei ddefnyddio ar ddeunydd ymgyrchu ac nid ar bapurau pleidleisio.

Y bwriad yw bod arwyddlun yn cynnwys cynrychiolaeth ddarluniadol neu symbolaidd, felly rhaid iddo gynnwys yr elfen hon. Gall gynnwys rhywfaint o destun. Os mai testun y bydd yn ei gynnwys gan fwyaf yna mae'n annhebygol y byddwn yn ei gofrestru fel arwyddlun.

Mae hefyd yn debygol iawn y caiff arwyddlun sy'n cynnwys testun na ellir ei ddarllen ar y maint y mae arwyddluniau yn ymddangos ar bapurau pleidleisio (2cm sgwâr) ei wrthod. Rydym yn awgrymu bod unrhyw destun mewn arwyddlun yn 1.2mm o uchder o leiaf.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Disgrifiadau o'r blaid ar bapurau pleidleisio

Mae disgrifiad o'r blaid yn nod adnabod dewisol y gallwch ei gofrestru gydag enw'r blaid a all ymddangos ar bapur pleidleisio. Caniateir i blaid gofrestru hyd at 12 o ddisgrifiadau ar unrhyw adeg. 

Ar y rhan fwyaf o bapurau pleidleisio, gellir defnyddio disgrifiad o'r blaid yn hytrach nag enw'r blaid. Felly, rhaid i'r disgrifiad alluogi pleidleisiwr i adnabod eich plaid, rhag ofn iddo gael ei ddefnyddio ar bapur pleidleisio yn lle enw'r blaid. Fel enghraifft, un ffordd o wneud hyn yw drwy gynnwys enw'r blaid yn y disgrifiad.

Os na fydd y Comisiwn o'r farn y gall pleidleisiwr adnabod y blaid o'r disgrifiad, nid yw'n ddisgrifiad o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ac ni ellir ei gofrestru. 

Ni all disgrifiad fod yn union yr un fath ag enw'r blaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Disgrifiadau ar y cyd pleidiau

Gall dwy blaid wleidyddol gofrestredig neu fwy ddewis rhannu disgrifiad o blaid y gellir ei ddefnyddio ar bapur pleidleisio. Gelwir hyn yn ‘ddisgrifiad ar y cyd’ a gall pob un o'r pleidiau sydd wedi'u cofrestru un â phleidiau eraill ei ddefnyddio.
 
Mae yna reolau penodol sy'n ymwneud â chofrestru disgrifiadau ar y cyd – sef:  

  • dim ond un disgrifiad ar y cyd y gall grŵp o bleidiau ei rannu a'i gofrestru ar y cyd – fodd bynnag, gallwch gofrestru disgrifiad ar y cyd â mwy nag un grŵp o bleidiau 
  • rhaid i eiriad y disgrifiad ar y cyd nodi pob un o'r pleidiau sy'n gwneud cais er mwyn bod yn ddisgrifiad ar y cyd
  • nid yw disgrifiadau ar y cyd yn cyfrif tuag at yr uchafswm o 12 o ddisgrifiadau y gallwch eu cofrestru â ni – mae hyn yn golygu y gallwch gofrestru hyd at 12 o ddisgrifiadau, yn ogystal â disgrifiadau ar y cyd

Wrth ddefnyddio disgrifiad ar y cyd, bydd angen i'r ymgeisydd ddewis pa un o arwyddluniau'r blaid rydych am ei ddefnyddio ar bapurau pleidleisio. 

Ni allwch gofrestru arwyddlun ar y cyd, ac felly gallwch ond defnyddio arwyddlun sydd wedi'i gofrestru i un o'r pleidiau sydd wedi cofrestru'r disgrifiad ar y cyd. 

Os ydych yn ystyried cofrestru disgrifiad ar y cyd, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i gael gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Sut y byddwn yn asesu eich nodau adnabod

Mae'r gyfraith yn nodi y byddwn yn cofrestru eich nod adnabod oni fyddwn o'r farn nad yw'n bodloni profion penodol. Felly, bydd angen i ni asesu eich nodau adnabod yn erbyn y profion hynny. 

Byddwn yn edrych ar y modd y gellir defnyddio'r nodau adnabod arfaethedig ar bapurau pleidleisio, gan gynnwys y ffyrdd gwahanol y gellir eu defnyddio ar y papur pleidleisio mewn etholiadau gwahanol, a'r angen i bob pleidleisiwr allu bwrw ei bleidlais yn hyderus. 

Byddwn yn cofrestru ein nod adnabod oni fydd y Comisiwn o'r farn:

  • ei fod yr un peth â nod adnabod cofrestredig neu warchodedig arall sydd ar yr un gofrestr
  • ei fod yn debygol o arwain at bleidleiswyr yn ei gymysgu â nod adnabod plaid arall sydd eisoes wedi'i gofrestru neu ei warchod 
  • ei fod yn debygol o gamarwain pleidleiswyr o ran effaith eu pleidlais
  • ei fod yn debygol o fynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddwyd ar gyfer pleidleisio neu eu llesteirio 
  • ei fod yn aflan neu'n sarhaus 
  • ei fod yn cynnwys geiriau gwaharddedig penodol 
  • ei fod yn cynnwys mwy na chwe gair 
  • nad yw mewn sgript Rufeinig 
  • ei fod yn debygol o gyfateb i drosedd os caiff ei gyhoeddi

Fel canllaw, mae'n annhebygol y byddwn yn cofrestru eich nod adnabod: 

  • os nad yw neu os nad yw'n cynnwys acronym, neu'n cynnwys acronym neu dalfyriad nad yw'n adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang, ac nad yw wedi'i sillafu fesul llythyren
  • os yw'n ddisgrifiad nad yw'n galluogi pobl i adnabod eich plaid
  • os yw wedi'i gysylltu mewn unrhyw ffordd â deunydd ar-lein neu'n cynnwys cyfeiriad at gynnwys ar-lein, fel hashnod Twitter neu god QR
  • yn y rhan fwyaf o achosion os yw'n cynnwys cyfeiriad at enw person
  • os yw'n arwyddlun sy'n cynnwys testun na ellir ei ddarllen ar y maint y mae arwyddluniau yn ymddangos ar bapurau pleidleisio (2cm sgwâr) – ar y maint hwn rydym yn awgrymu bod unrhyw destun ar arwyddlun yn 1.2mm o uchder o leiaf

Ni allwn gadarnhau a fydd eich cais yn llwyddiannus cyn i chi ei gyflwyno. Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau manylion eich cais a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Os caiff eich cais ei wrthod, byddwn yn eich hysbysu o'n rhesymau dros hynny yn ysgrifenedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud “yn debygol o ddrysu”

Mae'n ofynnol i ni sicrhau y gall pleidleisiwr fod yn hyderus nad yw'n drysu rhwng pleidiau ar y papur pleidleisio, ac felly'n bwrw pleidlais yn anghywir. 

Mae'r prawf hwn yn ystyried p'un a fyddai pleidleisiwr, yn ein barn ni, yn drysu nod adnabod un blaid â nod adnabod plaid arall sydd eisoes wedi'i gofrestru.

Fel arfer, bydd ein hasesiad o b'un a yw nod adnabod yn ddryslyd yn ystyried a yw'r nod adnabod yr un fath yn weledol (e.e. y geiriau ‘stationary’ neu ‘stationery’, delweddau tebyg o gychod) neu yr un fath o ran cyd-destun (e.e. ‘Party of the Oak’ a ‘The Oak Party’). 

Ar gyfer arwyddluniau, byddwn yn ystyried p'un a yw'r elfennau a ddyluniwyd a'r testun yn wahanol i arwyddluniau eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud “yn debygol o gamarwain pleidleisiwr”

Mae'r prawf hwn yn edrych ar b'un a fyddai nod adnabod plaid yn debygol o arwain pleidleisiwr i naill ai pleidleisio mewn ffordd nas bwriadwyd ganddo (e.e. dros blaid heblaw am eu dewis blaid) neu fel arall farcio'r papur pleidleisio mewn ffordd nas bwriadwyd ganddo.

Ni allwn gofrestru nod adnabod os bydd, ym marn y Comisiwn, yn debygol o arwain pleidleisiwr i gredu ei fod yn pleidleisio dros sefydliad heblaw'r blaid yr oedd yn bwriadu pleidleisio drosti.

Felly, rydym yn argymell, cyn i chi wneud eich cais, eich bod yn chwilio ar y rhyngrwyd i weld a oes unrhyw grwpiau neu sefydliadau presennol sydd ag enw neu logo sydd yr un peth â'r nodau adnabod rydych am wneud cais i'w cofrestru, neu'n debyg iddynt. Gall y grwpiau hyn fod yn grwpiau ymgyrchu, yn elusennau cofrestredig neu'n sefydliadau adnabyddus eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud ‘yn debygol o fynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddwyd ar gyfer pleidleisio neu eu llesteirio’

Mae'n ofynnol i ni ystyried a fyddai nod adnabod yn mynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau ar gyfer pleidleisio (e.e. ‘ticiwch yma’, neu arwyddlun gyda chroes ynddo).

Byddwn hefyd yn gwrthod nod adnabod os byddwn o'r farn y byddai pleidleisiwr yn debygol o wneud camgymeriad ar y papur pleidleisio a fyddai'n annilysu ei bleidlais, er enghraifft drwy bleidleisio dros ormod o ymgeiswyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud “sarhaus”

Rydym yn debygol o wrthod enw, disgrifiad neu arwyddlun am ei fod yn sarhaus os ydyw, yn ein barn ni: 

  • yn cynnwys iaith, ymadrodd neu derminoleg sarhaus 
  • yn cysylltu rhywbeth y derbynnir yn gyffredinol ei fod yn sarhaus â grŵp penodol o bobl.

Wrth asesu eich nodau adnabod arfaethedig, byddwn yn ystyried y ffaith bod yn rhaid i bleidiau allu mynegi eu barn wleidyddol a bod yn rhaid i bleidleisiwr ddefnyddio papur pleidleisio er mwyn arfer ei hawl i bleidleisio. 

Byddwn hefyd yn ystyried y cyd-destun a'r amgylchiadau allanol ehangach lle y gellir defnyddio enw, disgrifiad neu arwyddlun neu y bydd yn debygol y cânt eu defnyddio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth yw nod adnabod “gwarchodedig”?

Pan fydd plaid yn datgofrestru, bydd ei nodau adnabod yn dal i fod yn warchodedig am gyfnod penodol. Fel arfer, bydd hyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y caiff y blaid ei datgofrestru.

Hyd at hynny, efallai na fydd pleidiau eraill yn cofrestru nodau adnabod sydd yr un fath â'r nodau adnabod gwarchodedig hynny neu sydd, yn ein barn ni, yn debygol o gael eu drysu â nhw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Hawlfreintiau a nodau masnach

Gan nad yw wedi'i gwmpasu gan gyfraith etholiadol, nid ydym yn archwilio i weld a oes achos o dorri hawliau eiddo deallusol wrth gofrestru nodau adnabod plaid. Felly, cyn i chi wneud cais, dylech sicrhau nad yw eich nodau adnabod yn torri unrhyw gyfreithiau hawlfraint a nodau masnach. 

Os byddwch yn cofrestru nodau adnabod eich plaid ac yna'n darganfod eu bod yn torri cyfreithiau hawlfraint neu nodau masnach, gallai'r perchennog cofrestredig wneud her gyfreithiol yn eich erbyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa Eiddo Deallusol y Llywodraeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

A ellir defnyddio acronymau neu dalfyriadau?

Os nad yw acronym neu dalfyriad yn adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang mewn iaith pob dydd, ni chaniateir i chi ei ddefnyddio fel nod adnabod eich plaid fel arfer. Mae hyn oherwydd, yn ein barn ni, ni fydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn gwybod yr ystyr, ac felly mae'n debygol y cânt eu camarwain.

Ymhlith yr enghreifftiau o acronymau adnabyddus a ddefnyddir mewn iaith gyffredin mae 'DU' a 'GIG’. Byddwn yn ystyried rhai acronymau adnabyddus a ddefnyddir yn eang fel y rhain fel un gair.

Os nad ydym o'r farn bod acronym yn adnabyddus ac yn cael ei ddefnyddio'n eang, rhaid i'r geiriau y bwriedir iddo eu cynrychioli gael eu sillafu fesul llythyren a'u hysgrifennu mewn llythrennau bach neu fel pe baent yn rhan o frawddeg. Gellir wedyn ychwanegu'r acronym yn ei ymyl, a bydd pob gair, gan gynnwys yr acronym, yn cyfrif tuag at y cyfyngiad cyffredinol o chwe gair.

Gall y geiriau a ddefnyddir mewn nod adnabod plaid ddechrau gyda phriflythyren. Ni ddylai geiriau nad ydynt yn acronymau fod mewn llythrennau bras. Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru nod adnabod sy'n cynnwys geiriau mewn llythrennau bras nad ydynt yn acronymau, byddwn yn ystyried y nod adnabod hwnnw fel pe bai llythrennau cyntaf y geiriau hynny mewn llythrennau bras yn lle hynny (e.e. byddai ‘PARTY OF THE OAK’ yn cael ei ystyried yn ‘Party Of The Oak’).

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Pa ieithoedd y gallaf eu defnyddio ar gyfer nodau adnabod pleidiau?

Gallwch wneud cais i ddefnyddio iaith ar wahân i Saesneg yn y nodau adnabod i'w defnyddio ar bapurau pleidleisio. 

Fodd bynnag, rhaid i enw'r blaid ac unrhyw ddisgrifiadau gael eu nodi mewn sgript Rufeinig, hyd yn oed os cânt eu cofrestru mewn iaith ar wahân i Saesneg. Mae'n debygol o gael ei dderbyn os gallwch ddefnyddio bysellfwrdd o'r DU i gynhyrchu'r nod adnabod heb ddefnyddio nodau arbennig.

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru ym Mhrydain Fawr ac sy'n bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru wneud cais i enw Cymraeg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid. Gall y pleidiau hyn hefyd wneud cais i gofrestru disgrifiadau sydd wedi'u mynegi yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu'r ddwy iaith). Gallwch ddewis arddangos y ddau ddisgrifiad ar bapurau pleidleisio. 

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru yng Ngogledd Iwerddon wneud cais i enw Gwyddeleg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.

Ni all y nod adnabod arfaethedig fod yn hirach na chwe gair mewn unrhyw iaith.
 
Ar gyfer etholiadau mewn rhannau eraill o'r DU, dim ond mewn un iaith y gall enw'r blaid neu'r disgrifiad ymddangos ar y papur pleidleisio. 

Os bydd plaid yn gwneud cais i gofrestru enw mewn iaith heblaw am Gymraeg (os yw yng Nghymru), Saesneg neu Wyddeleg (os yw yng Ngogledd Iwerddon), rhaid i'r cais gynnwys cyfieithiad Saesneg cywir fel rhan o'ch cais. Caiff pob cyfieithiad ei wirio i gadarnhau ei fod yn gywir.

Bydd hyn yn golygu y gallwch ddewis yr iaith fwyaf priodol ar gyfer nod adnabod eich plaid i ymddangos ar bapurau pleidleisio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Pethau eraill i'w hystyried os ydych yn bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru

Fel corff cyhoeddus sy'n gweithredu yng Nghymru, mae'n ofynnol i ni gyflawni ein swyddogaethau yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg. Rydym yn trin y Gymraeg yr un mor ffafriol â'r Saesneg wrth gyflawni ein swyddogaethau yng Nghymru, gan gynnwys wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau pleidiau.

Mae hyn yn golygu, os ydych wedi cofrestru i ymladd etholiadau yng Nghymru, a'ch bod wedi gwneud cais â nodau adnabod Cymraeg yn unig neu Saesneg yn unig, yna byddwn yn cyfieithu eich nodau adnabod (naill ai o'r Gymraeg i'r Saesneg, neu o'r Saesneg i'r Gymraeg) ac yn ystyried perthnasedd y cyfieithiadau hyn mewn perthynas â'r profion statudol.

Felly, mae'n bosibl y gellir gwrthod nod adnabod arfaethedig yn Gymraeg neu yn Saesneg yn seiliedig ar y ffordd y caiff ei fynegi yn yr iaith arall, hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud cais i gofrestru cyfieithiad ar gyfer y nod adnabod hwnnw.

Mae'n bwysig i ni gymryd y camau hyn er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr yng Nghymru farcio eu papur pleidleisio yn hyderus.

Dylech ystyried hyn os ydych wedi cofrestru yng Nghymru a, lle y bo'n bosibl, ystyried sut y byddai nodau adnabod eich plaid yn cael eu dehongli gan bleidleisiwr yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

A ellir defnyddio rhifau?

Os yw nod adnabod eich plaid yn dechrau neu'n gorffen â rhif, nid ydym yn debygol o gymeradwyo'r broses o'i gofrestru ar y ffurf honno. Yn hytrach, byddwn yn gofyn i chi ei sillafu fel gair yn hytrach na defnyddio rhif.  

Y rheswm am hyn yw bod gofyn i bleidleiswyr ddefnyddio rhifau i raddio ymgeiswyr yn nhrefn eu dewis mewn rhai etholiadau. Mae'n debygol y bydd nodau adnabod pleidiau sy'n dechrau neu'n gorffen gyda rhif yn gamarweiniol gyda'r rhifau ar y papur pleidleisio a'r cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio. 

Gallwn gofrestru nod adnabod plaid sy'n defnyddio rhifau yng nghanol yr enw, yn dibynnu ar sut y cânt eu defnyddio a ph'un a yw'n debygol o gamarwain pleidleiswyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

A ellir defnyddio dolenni i ddeunydd ar-lein?

Gall eich plaid ddefnyddio gwefan neu gyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phleidleiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai dolenni i wefannau na chyfryngau cymdeithasol (e.e. hashnodau Twitter neu dudalennau Facebook) gael eu defnyddio fel rhan o'ch nodau adnabod.

Wrth asesu eich nod adnabod, rhaid i ni benderfynu a yw'n bodloni'r profion statudol. Os oes cysylltiad rhwng eich nod adnabod a deunydd ar-lein, rydym yn debygol o'i wrthod gan na allwn asesu deunydd sydd â'r potensial o newid dros amser yn erbyn y profion statudol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

A ellir defnyddio enw unigolyn?

Fel arfer, ni fyddwn yn derbyn y defnydd o enw unigolyn fel nod adnabod.

Y rheswm dros hyn yw bod cyfarwyddiadau ar bapurau pleidleisio yn aml yn datgan bod y papur pleidleisio ar gyfer ethol ymgeisydd i etholaeth, ward benodol neu ardal arall. Os bydd enw person, heblaw enw un o'r ymgeiswyr, yn ymddangos ar bapurau pleidleisio ar gyfer unrhyw ardal benodol, mae'n debygol y bydd yn gwrth-ddweud y cyfarwyddiadau ar gyfer pleidleisio.

Bydd angen i ni lunio barn ynghylch a yw cynnwys yr enw yn y nod adnabod penodol rydym yn ei asesu yn debygol o wrth-ddweud neu atal dealltwriaeth etholwr o gyfarwyddiadau a roddir ar gyfer rhoi arweiniad iddo ar bleidleisio, ar y papur pleidleisio neu rywle arall.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth yw'r geiriau gwaharddedig?

Ni ellir defnyddio rhai geiriau ar bapurau pleidleisio heb iddynt gael eu goleddfu gan eiriau eraill. Mae hyn yn gymwys i ffurf unigol neu luosog y geiriau gwaharddedig, ynghyd â'r geiriau gwaharddedig sydd wedi'u hysgrifennu mewn iaith arall. 

Rhennir y geiriau hyn yn bedwar categori (gweler isod).

Yn ogystal â'r rheolau isod, ni chewch gofrestru ‘Dim o'r uchod’ naill ai ar eu pen eu hunain nac ar y cyd â geiriau neu ymadroddion eraill.

Categori 1

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 1 yw: Dug, Duges, Ei Mawrhydi, Ei Fawrhydi, Brenin, Tywysog, Tywysoges, Brenhines, Brenhinol, Brenhiniaeth 

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pen eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond mewn perthynas ag enw lle, sefydliad neu ardal llywodraeth leol y gellir defnyddio'r geiriau yng nghategori 1. 

Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio 'Y Blaid Fythol Frenhinol' gan nad yw 'Brenhinol' yn cael ei ddefnyddio gydag enw lle, sefydliad nac ardal llywodraeth leol. 

Gallech ddefnyddio 'Royal Tunbridge Wells Party' gan fod 'Royal' yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â lle. 

Categori 2

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 2 yw: Prydain, Prydeinig, Lloegr, Seisnig, Cenedlaethol, Yr Alban, Sgotaidd, Albanaidd, Y Deyrnas Unedig, Cymru, Cymreig

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond os byddwch yn eu defnyddio gyda gair neu ymadrodd arall ac eithrio enw neu ddisgrifiad plaid sydd eisoes wedi'i chofrestru yn y rhan berthnasol o'r DU y gallwch ddefnyddio geiriau categori 2. 

Er enghraifft, ni allwch gofrestru 'Un Blaid Fawr Gymreig' os yw 'Un Blaid Fawr' wedi'i chofrestru eisoes gan fod 'Cymreig' yn cael ei ddefnyddio gydag enw plaid sydd wedi'i chofrestru eisoes. 

Categori 3

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 3 yw: Annibynnol, Swyddogol, Answyddogol 

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond os yw'r gair yn cael ei ddefnyddio gyda gair neu ymadrodd arall y gallwch ddefnyddio geiriau categori 3 ond nid: 

  • gydag enw neu ddisgrifiad cofrestredig sy'n bodoli eisoes
  • gyda'r gair ‘plaid’ yn unig
  • gyda gair categori 3 arall

Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio 'Plaid Annibynnol Atal y Ffordd Osgoi' os oedd 'Plaid Atal y Ffordd Osgoi' wedi'i chofrestru eisoes gan fod 'Annibynnol' yn cael ei ddefnyddio gydag enw plaid sydd wedi'i chofrestru eisoes. Ni allwch gofrestru'r ‘Blaid Annibynnol’. 

Categori 4

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 4 yw: Trethdalwyr, Trigolion, Tenantiaid 

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond mewn perthynas ag enw ardal llywodraeth leol neu ardal ddaearyddol y gallwch ddefnyddio'r geiriau yng nghategori 4. Er enghraifft, gallwch gofrestru ‘Plaid Trigolion Efrog’ gan fod ‘Trigolion’ wedi cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag ‘Efrog’, sy'n ardal ddaearyddol. 

Ni allwch gofrestru ‘Grŵp Gweithredu Trigolion’ na ‘Trigolion Unedig’ gan nad yw ‘Trigolion’ yn cael ei ddefnyddio gydag enw ardal llywodraeth leol neu ardal ddaearyddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Newidiadau i'ch cynllun ariannol

Os ydych wedi cofrestru fel plaid wleidyddol a bod eich cynllun ariannol yn cael ei ddiweddaru, rhaid i chi anfon copi i'r Comisiwn iddo gael ei gymeradwyo'n ysgrifenedig. 

Efallai y bydd yn ofynnol i chi ddiwygio eich cynllun ariannol mewn rhai amgylchiadau i adlewyrchu strwythur ac arferion eich pleidiau. Mae hyn yn cynnwys:

  • os ydych yn bwriadu ychwanegu neu ddileu swydd swyddog ymgyrchu
  • os byddwch yn cofrestru unigolyn newydd i fod yn drysorydd y blaid neu'n swyddog ymgyrchu a'i fod wedi'i enwi yn y cynllun ariannol
  • os byddwch yn cofrestru uned cyfrifyddu plaid newydd, yn dileu un neu'n ailenwi un 
  • os byddwch yn dechrau cael dirprwy drysoryddion a/neu ddirprwy swyddog ymgyrchu, neu'n rhoi'r gorau i'w cael  
  • os byddwch yn cofrestru plaid ar gofrestr Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon 
  • os bydd eich prosesau ar gyfer rheoli eich materion ariannol yn newid ers y cynllun ariannol diwethaf
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Beth y bydd yn rhaid i'ch cynllun ariannol ei gynnwys?

Rhaid i'ch cynllun gynnwys gweithdrefnau ar gyfer y canlynol: 

  • cofnodi eich cyfrifon a rhoi gwybod amdanynt   
  • ymdrin â rhoddion a benthyciadau 
  • cynnal eich manylion cofrestru â ni 
  • awdurdodi gwariant ar ymgyrchu a chyflwyno adroddiadau arno

Fel rhan o'r broses asesu, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi roi tystiolaeth am y ffordd y mae'r blaid wedi mabwysiadu ei chynllun ariannol. Er enghraifft, mae'n bosibl y gofynnir i chi pa weithdrefnau sydd gan y blaid er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau a nodir yn y cynllun ariannol hwn. 

Mae plaid sydd wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ddwy blaid gofrestredig ar wahân at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). 

Os byddwch yn cofrestru ar gofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhaid i'ch cynllun ariannol ddangos y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal yn gwbl ar wahân i rai'r blaid yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn bwysig gan fod y rheolau ynghylch ble y gall plaid gael ei chyllid yn amrywio yn dibynnu ar ba gofrestr y mae'r blaid wedi'i chofrestru.

Os ydych chi wedi cofrestru fel plaid sydd ag unedau cyfrifyddu, neu'n bwriadu gwneud hynny, rhaid i bob uned gael ei henwi yng nghynllun ariannol y blaid. Nid yw ein templed ar gyfer y cynllun yn addas os mai dyma yw eich bwriad. Gallwn roi rhagor o gyngor ar yr hyn sy'n ofynnol, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf os ydych yn bwriadu cael unedau cyfrifyddu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Newidiadau i'ch cyfansoddiad

Dylid sicrhau bod eich cyfansoddiad yn gyfredol. Dylech roi copi wedi'i ddiweddaru i ni pryd bynnag y byddwch yn ei newid, neu os byddwch yn newid enw eich plaid.

Rhaid i chi ein hysbysu o unrhyw newidiadau a wnaed i'ch cyfansoddiad ers i chi gyflwyno eich cadarnhad blynyddol o fanylion cofrestredig ddiwethaf neu, os nad ydych wedi cyflwyno un eto, ers i'ch plaid gael ei chofrestru am y tro cyntaf.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cyfansoddiad eich plaid

Rhaid bod gan bleidiau gwleidyddol gyfansoddiad ysgrifenedig sy'n nodi strwythur a threfniadaeth eich plaid. Dylai hyn nodi trefniadau llywodraethu eich plaid a'r rheolau ar gyfer cyflawni ei busnes. Rhaid i'r cyfansoddiad ddangos y gall y blaid gydymffurfio â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) – h.y. ni all dim ynddo fynd yn groes i'r gofynion cyfreithiol. 

Mae'n bosibl y bydd cyfansoddiad eich plaid yn cynnwys mwy nag un dogfen. Er enghraifft, efallai y bydd gan eich plaid gyfres o Reolau a Rheolau Sefydlog ar gyfer cyfarfodydd. Bydd unrhyw ddogfen sy'n pennu strwythur a threfniadaeth y blaid yn rhan o gyfansoddiad y blaid o dan PPERA ac felly, rhaid iddi hefyd gael ei rhoi i ni fel rhan o'r cais.

Mae'n bwysig bod eich cynllun ariannol a'ch cyfansoddiad yn cyd-fynd â'i gilydd ac nad ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd. Er enghraifft, dylai'r ddwy ddogfen gytuno ar y modd y caiff eich cyfrifon eu cadarnhau, pwy sy'n gyfrifol am y cyfrifon a phwy all awdurdodi gwariant ar ymgyrch mewn etholiadau. 

Er mwyn i'ch cais gael ei gymeradwyo, rhaid i'ch cyfansoddiad gynnwys digon o wybodaeth am strwythur a threfniadaeth eich plaid.

Nid oes angen i blaid gael ei chofrestru fel cwmni er mwyn cael ei chofrestru â ni. Os yw eich plaid wedi'i strwythuro fel hyn, yna dylai'r cyfansoddiad gynnwys manylion am sut y mae cofrestriad y cwmni yn effeithio ar strwythur a threfniadaeth y blaid neu'n rhyngweithio â nhw. Dylid adlewyrchu unrhyw wybodaeth berthnasol hefyd yn y prosesau a amlinellir yng nghynllun ariannol y blaid.

Nid yw'n ofynnol i bleidiau llai gael cyfansoddiad na chyflwyno un fel rhan o'u cais.

Cyfraith cydraddoldeb

Rhaid i chi sicrhau bod eich cyfansoddiad a'r ffordd y mae eich plaid yn gweithredu yn cydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb. Yn benodol, dylech sicrhau nad yw eich cyfansoddiad yn gwahaniaethu'n ormodol yn erbyn unigolion â nodweddion gwarchodedig rhag bod yn aelodau o'r blaid. Fel arall, ni fydd eich cyfansoddiad yn gyfreithlon a chaiff eich cais ei wrthod. Dylech ddarllen y canllawiau i bleidiau gwleidyddol a luniwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd ar gael ar ei wefan.

Fel gyda'r gofynion cofrestru eraill, nid yw'r ffaith bod yn rhaid i'ch cais gydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb yn golygu na all eich plaid ymgyrchu ar bolisïau i newid y gyfraith.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Beth ddylai cyfansoddiad eich plaid ei gynnwys?

Rhaid i'ch cyfansoddiad adlewyrchu sut y caiff eich plaid ei rhedeg a'i rheoli. Fel canllaw, dylai eich cyfansoddiad gynnwys y canlynol: 

  • manylion y gofrestr neu'r cofrestri y mae'r blaid wedi cofrestru ynddi neu ynddynt. Mae plaid sydd wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ddwy blaid ar wahân at ddibenion PPERA. Pan fydd plaid wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhaid i gynllun ariannol y blaid ddangos y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal yn gwbl ar wahân i rai'r blaid yng Ngogledd Iwerddon. Dylai'r cyfansoddiad adlewyrchu hynny hefyd. 
  • nodau ac amcanion y blaid. 
  • cyfeiriad at fwriad i ymladd etholiadau ac mewn pa fath o etholiadau, er enghraifft etholiadau cyffredinol Senedd y DU. 
  • y broses dethol ymgeiswyr (neu o leiaf ddatganiad y bydd gan y blaid broses o'r fath). 
  • strwythur y blaid a phwy sy'n gyfrifol am ei rheoli, gan gynnwys cyfrifoldebau swyddogion y blaid, y cyfnodau yn y swyddi a'r weithdrefn ar gyfer newid y swyddogion hynny.
  • sut y bydd y blaid yn gwneud ac yn cofnodi penderfyniadau, ynghyd ag unrhyw drefniadau llywodraethu eraill. Er enghraifft pa fath o gyfarfodydd a gynhelir, pa mor aml y'u cynhelir, pryd y'u cynhelir a beth yw'r cworwm angenrheidiol.
  • sut y bydd y blaid yn datrys anghydfodau mewnol a ph'un a oes gan y blaid unrhyw weithdrefnau disgyblu. Dylech fod yn ymwybodol na allwn ddatrys anghydfodau mewnol ar gyfer eich plaid.
  • y prosesau a’r rheolau sy’n llywodraethu aelodaeth y blaid.
  • bod y blaid wedi mabwysiadu ei chynllun ariannol. 
  • sut y gellir newid y cyfansoddiad a'r broses ar gyfer diddymu'r blaid.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Ionawr 2023

Sut i dynnu eich plaid oddi ar y gofrestr

Gallwch dynnu eich plaid oddi ar y gofrestr. 

Fodd bynnag, efallai y bydd gennych rwymedigaethau i adrodd o hyd ar ôl i'ch plaid gael ei thynnu oddi ar y gofrestr.

Ni chodir ffi i dynnu eich plaid oddi ar y gofrestr. Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich plaid wedi cael ei datgofrestru.

Byddwn hefyd yn tynnu eich plaid oddi ar y gofrestr os na fyddwch yn cadarnhau eich cofrestriad blynyddol.

Cyflwyno ar-lein

Gallwch ddatgofrestru eich plaid gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Ffyrdd eraill o ddatgofrestru eich plaid

Os na allwch gadarnhau ar-lein, gallwch gwblhau ffurflen a'i dychwelyd atom.

Eich rhwymedigaethau adrodd

Os cafodd eich plaid ei datgofrestru am na wnaethoch gwblhau eich cadarnhad cofrestru blynyddol, yna rhaid i chi barhau â rhwymedigaethau adrodd eich plaid tan ddiwedd blwyddyn ariannol eich plaid.

Os ydych wedi datgofrestru eich plaid yn wirfoddol, bydd yn dibynnu ar incwm a gwariant eich plaid ar gyfer ei blwyddyn ariannol flaenorol:

  • os oedd gennych icwm a gwariant o lai na £25,000, rhaid i chi barhau â'ch rhwymedigaethau adrodd tan ddiwedd blwyddyn ariannol eich plaid
  • os oedd gennych incwm neu wariant o fwy na £25,000, rhaid i chi barhau â'ch rhwymedigaethau adrodd tan ddiwedd blwyddyn ariannol nesaf eich plaid
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022