Mae'r gyfraith yn nodi y byddwn yn cofrestru eich nod adnabod oni fyddwn o'r farn nad yw'n bodloni profion penodol. Felly, bydd angen i ni asesu eich nodau adnabod yn erbyn y profion hynny.
Byddwn yn edrych ar y modd y gellir defnyddio'r nodau adnabod arfaethedig ar bapurau pleidleisio, gan gynnwys y ffyrdd gwahanol y gellir eu defnyddio ar y papur pleidleisio mewn etholiadau gwahanol, a'r angen i bob pleidleisiwr allu bwrw ei bleidlais yn hyderus.
Byddwn yn cofrestru ein nod adnabod oni fydd y Comisiwn o'r farn:
ei fod yr un peth â nod adnabod cofrestredig neu warchodedig arall sydd ar yr un gofrestr
ei fod yn debygol o arwain at bleidleiswyr yn ei gymysgu â nod adnabod plaid arall sydd eisoes wedi'i gofrestru neu ei warchod
ei fod yn debygol o gamarwain pleidleiswyr o ran effaith eu pleidlais
ei fod yn debygol o fynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddwyd ar gyfer pleidleisio neu eu llesteirio
ei fod yn aflan neu'n sarhaus
ei fod yn cynnwys geiriau gwaharddedig penodol
ei fod yn cynnwys mwy na chwe gair
nad yw mewn sgript Rufeinig
ei fod yn debygol o gyfateb i drosedd os caiff ei gyhoeddi
Fel canllaw, mae'n annhebygol y byddwn yn cofrestru eich nod adnabod:
os nad yw neu os nad yw'n cynnwys acronym, neu'n cynnwys acronym neu dalfyriad nad yw'n adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang, ac nad yw wedi'i sillafu fesul llythyren
os yw'n ddisgrifiad nad yw'n galluogi pobl i adnabod eich plaid
os yw wedi'i gysylltu mewn unrhyw ffordd â deunydd ar-lein neu'n cynnwys cyfeiriad at gynnwys ar-lein, fel hashnod Twitter neu god QR
yn y rhan fwyaf o achosion os yw'n cynnwys cyfeiriad at enw person
os yw'n arwyddlun sy'n cynnwys testun na ellir ei ddarllen ar y maint y mae arwyddluniau yn ymddangos ar bapurau pleidleisio (2cm sgwâr) – ar y maint hwn rydym yn awgrymu bod unrhyw destun ar arwyddlun yn 1.2mm o uchder o leiaf
Ni allwn gadarnhau a fydd eich cais yn llwyddiannus cyn i chi ei gyflwyno. Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau manylion eich cais a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Os caiff eich cais ei wrthod, byddwn yn eich hysbysu o'n rhesymau dros hynny yn ysgrifenedig.