Os ydych wedi cofrestru fel plaid wleidyddol a bod eich cynllun ariannol yn cael ei ddiweddaru, rhaid i chi anfon copi i'r Comisiwn iddo gael ei gymeradwyo'n ysgrifenedig.
Efallai y bydd yn ofynnol i chi ddiwygio eich cynllun ariannol mewn rhai amgylchiadau i adlewyrchu strwythur ac arferion eich pleidiau. Mae hyn yn cynnwys:
os ydych yn bwriadu ychwanegu neu ddileu swydd swyddog ymgyrchu
os byddwch yn cofrestru unigolyn newydd i fod yn drysorydd y blaid neu'n swyddog ymgyrchu a'i fod wedi'i enwi yn y cynllun ariannol
os byddwch yn cofrestru uned cyfrifyddu plaid newydd, yn dileu un neu'n ailenwi un
os byddwch yn dechrau cael dirprwy drysoryddion a/neu ddirprwy swyddog ymgyrchu, neu'n rhoi'r gorau i'w cael
os byddwch yn cofrestru plaid ar gofrestr Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
os bydd eich prosesau ar gyfer rheoli eich materion ariannol yn newid ers y cynllun ariannol diwethaf