Sut i gynnal eich plaid wleidyddol gofrestredig
Beth yw'r geiriau gwaharddedig?
Ni ellir defnyddio rhai geiriau ar bapurau pleidleisio heb iddynt gael eu goleddfu gan eiriau eraill. Mae hyn yn gymwys i ffurf unigol neu luosog y geiriau gwaharddedig, ynghyd â'r geiriau gwaharddedig sydd wedi'u hysgrifennu mewn iaith arall.
Rhennir y geiriau hyn yn bedwar categori (gweler isod).
Yn ogystal â'r rheolau isod, ni chewch gofrestru ‘Dim o'r uchod’ naill ai ar eu pen eu hunain nac ar y cyd â geiriau neu ymadroddion eraill.
Categori 1
Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 1 yw: Dug, Duges, Ei Mawrhydi, Ei Fawrhydi, Brenin, Tywysog, Tywysoges, Brenhines, Brenhinol, Brenhiniaeth
Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pen eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond mewn perthynas ag enw lle, sefydliad neu ardal llywodraeth leol y gellir defnyddio'r geiriau yng nghategori 1.
Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio 'Y Blaid Fythol Frenhinol' gan nad yw 'Brenhinol' yn cael ei ddefnyddio gydag enw lle, sefydliad nac ardal llywodraeth leol.
Gallech ddefnyddio 'Royal Tunbridge Wells Party' gan fod 'Royal' yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â lle.
Categori 2
Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 2 yw: Prydain, Prydeinig, Lloegr, Seisnig, Cenedlaethol, Yr Alban, Sgotaidd, Albanaidd, Y Deyrnas Unedig, Cymru, Cymreig
Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond os byddwch yn eu defnyddio gyda gair neu ymadrodd arall ac eithrio enw neu ddisgrifiad plaid sydd eisoes wedi'i chofrestru yn y rhan berthnasol o'r DU y gallwch ddefnyddio geiriau categori 2.
Er enghraifft, ni allwch gofrestru 'Un Blaid Fawr Gymreig' os yw 'Un Blaid Fawr' wedi'i chofrestru eisoes gan fod 'Cymreig' yn cael ei ddefnyddio gydag enw plaid sydd wedi'i chofrestru eisoes.
Categori 3
Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 3 yw: Annibynnol, Swyddogol, Answyddogol
Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond os yw'r gair yn cael ei ddefnyddio gyda gair neu ymadrodd arall y gallwch ddefnyddio geiriau categori 3 ond nid:
- gydag enw neu ddisgrifiad cofrestredig sy'n bodoli eisoes
- gyda'r gair ‘plaid’ yn unig
- gyda gair categori 3 arall
Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio 'Plaid Annibynnol Atal y Ffordd Osgoi' os oedd 'Plaid Atal y Ffordd Osgoi' wedi'i chofrestru eisoes gan fod 'Annibynnol' yn cael ei ddefnyddio gydag enw plaid sydd wedi'i chofrestru eisoes. Ni allwch gofrestru'r ‘Blaid Annibynnol’.
Categori 4
Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 4 yw: Trethdalwyr, Trigolion, Tenantiaid
Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond mewn perthynas ag enw ardal llywodraeth leol neu ardal ddaearyddol y gallwch ddefnyddio'r geiriau yng nghategori 4. Er enghraifft, gallwch gofrestru ‘Plaid Trigolion Efrog’ gan fod ‘Trigolion’ wedi cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag ‘Efrog’, sy'n ardal ddaearyddol.
Ni allwch gofrestru ‘Grŵp Gweithredu Trigolion’ na ‘Trigolion Unedig’ gan nad yw ‘Trigolion’ yn cael ei ddefnyddio gydag enw ardal llywodraeth leol neu ardal ddaearyddol.