Sut i gynnal eich plaid wleidyddol gofrestredig
Newid swyddogion cofrestredig eich plaid
Rhaid i chi ddweud wrthym o fewn 14 diwrnod am unrhyw newidiadau os byddwch am newid swyddog cofrestredig.
Rhaid i blaid wneud hyn os bydd penodiad swyddog wedi dod i ben am unrhyw reswm, gan gynnwys os bydd swyddog wedi marw.
Newid eich swyddogion ar-lein
Gallwch newid eich swyddogion ar-lein, gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.
Mae gennym ganllaw fesul cam ar gyfer defnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein i newid swyddogion eich plaid.
Ffyrdd eraill o gyflwyno eich newidiadau
Os na allwch newid eich manylion ar-lein, cwblhewch ffurflen a'i dychwelyd atom.
Rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan:
- y trysorydd cofrestredig presennol
- arweinydd cofrestredig presennol y blaid
- y swyddog enwebu cofrestredig presennol
- y swyddog newydd (os yw'n berthnasol)
Os mai un person fydd yn dal y tair swydd (trysorydd, arweinydd y blaid a'r swyddog enwebu), rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi gan:
- eich swyddog ychwanegol cofrestredig
- eich swyddog ymgyrchu cofrestredig (os oes gennych un)
Dylech gadarnhau eich manylion cofrestredig er mwyn sicrhau bod yr unigolion cywir yn llofnodi'r ffurflen.
Beth os na all swyddog lofnodi cais?
Os na all un o swyddogion cofrestredig y blaid lofnodi, gall awdurdodi un o swyddogion eraill y blaid i'w llofnodi ar ei ran.
Rhaid i'r cais gynnwys:
- datganiad yn esbonio bod y person arall wedi'i awdurdodi i lofnodi yn lle'r swyddog gofynnol
- datganiad yn esbonio pam na all y swyddog gofynnol lofnodi
Efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych fel y gallwn fod yn fodlon bod y cais yn bodloni'r gofynion a nodir yn y gyfraith.
Nodwch nad yw'n debygol y byddwn yn ystyried na all swyddog lofnodi ffurflen os mai dim ond gwrthod gwneud hynny y mae. Os na allwch gysylltu â swyddog gofynnol, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi tystiolaeth o ymdrechion a wnaed gennych i gysylltu â'r swyddog hwnnw.
Trysoryddion
Os bydd penodiad y trysorydd wedi dod i ben, neu os bydd wedi marw, yr arweinydd fydd yn gyfrifol am lofnodi bod y swyddog wedi newid.
Os mai'r trysorydd oedd arweinydd y blaid hefyd, y swyddog enwebu fydd yn gyfrifol am hyn.
Os mai'r trysorydd oedd yn cyflawni'r tair rôl, yna'r swyddog ychwanegol neu'r swyddog ymgyrchu fydd yn gyfrifol am hyn.
Dim ond i newidiadau i drysorydd y blaid y mae hyn yn gymwys, nid i'r arweinydd na'r swyddog enwebu. Mae'n debygol y byddwn yn gofyn i chi ddangos bod penodiad y trysorydd wedi dod i ben fel y gallwn fod yn fodlon bod y cais yn bodloni'r gofynion a nodir yn y gyfraith.
Swyddogion ymgyrchu
Os byddwch yn newid eich swyddog ymgyrchu, mae'r broses yr un fath ag ar gyfer newid unrhyw swyddog arall.
Fodd bynnag, os byddwch yn newid strwythur eich plaid i ychwanegu neu ddileu rôl y swyddog ymgyrchoedd ei hun, mae hyn yn golygu newid y gofrestr a chodir ffi o £25.
Efallai y bydd angen i chi anfon cynllun ariannol diwygiedig atom.
Cynllun ariannol diwygiedig
Efallai y bydd angen i chi anfon copi diwygiedig o'ch cynllun ariannol atom os byddwch yn newid swyddogion cofrestredig y blaid a enwir yn y cynllun.
Os byddwch yn penodi swyddog ymgyrchu, efallai y bydd angen i chi anfon copi diwygiedig o'ch cynllun ariannol atom er mwyn adlewyrchu'r newidiadau o ran cyfrifoldebau.