Sut i newid enw, disgrifiadau neu arwyddluniau eich plaid
Rydym yn cyfeirio at enw, disgrifiadau ac arwyddluniau eich plaid gyda'i gilydd fel “Nodau Adnabod”. Cânt eu defnyddio i adnabod plaid ar bapur pleidleisio mewn etholiadau. Nid yw pob nod adnabod yn orfodol.
Rhaid i chi gael enw plaid cofrestredig. Mae'r nod adnabod hwn yn orfodol.
Gallwch gofrestru hyd at dri arwyddlun a 12 o ddisgrifiadau. Mae'r nodau adnabod hyn yn ddewisol.
Nid oes rhaid i chi gofrestru unrhyw nodau adnabod rydych yn bwriadu eu defnyddio ar ddeunyddiau ymgyrchu, oni bai eich bod hefyd yn bwriadu eu defnyddio ar bapur pleidleisio.
Gallwch wneud cais i newid enw, disgrifiadau ac arwyddluniau eich plaid, a gallwch ychwanegu disgrifiadau ar y cyd.
Gallwch hefyd dalu drwy siec, archeb arian neu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol. Dylech wneud unrhyw sieciau yn daladwy i'r Comisiwn Etholiadol.
Profion ar gyfer nodau adnabod
Rhaid i nodau adnabod fodloni gofynion a phrofion statudol penodol er mwyn cael eu cofrestru. Byddwn yn asesu eich cais i gofrestru nodau adnabod yn erbyn y profion hyn.
Rydym yn esbonio'r profion hyn yn adrannau nesaf y ddogfen hon. O bryd i'w gilydd, bydd y Comisiwn hefyd yn cynnal adolygiadau o nodau adnabod ar ein cofrestri. Mae hyn yn rhan o'n dyletswydd i sicrhau ein bod yn cynnal y gofrestr o bleidiau gwleidyddol.