Sut i gynnal eich plaid wleidyddol gofrestredig

Cyfrifoldebau swyddogion

Bydd gan swyddogion cofrestredig pleidiau gwleidyddol rôl benodol mewn plaid. Bydd ganddynt gyfrifoldebau statudol penodol fel rhan o'u rolau hefyd. 

Arweinydd plaid

Mae'n rhaid mai arweinydd y blaid yw arweinydd cyffredinol y blaid. Os nad oes gan eich plaid arweinydd cyffredinol (er enghraifft, os oes gennych arweinwyr ar y cyd), rhaid i chi gofrestru person fel arweinydd â diben penodol yn y blaid. Er enghraifft, y sawl sy'n gwneud penderfyniadau terfynol ar faterion mewnol pleidiau. 
  
Os na fydd trysorydd y blaid yn ei swydd mwyach, bydd arweinydd y blaid yn gweithredu fel trysorydd dros dro nes i'r blaid ein hysbysu am drysorydd newydd.

Trysorydd plaid

Mae gan drysorydd cofrestredig plaid wleidyddol gyfrifoldebau cyfreithiol sylweddol. Rhaid iddo sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolau cyllid gwleidyddol a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Felly, mae'n bwysig bod person priodol yn cael ei gofrestru i fod yn drysorydd y blaid. 

Ni all y trysorydd fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau yn y pum mlynedd cyn iddo gael ei benodi.

Swyddog enwebu

Swyddog enwebu'r blaid sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am drefnu'r broses o enwebu ymgeiswyr a chymeradwyo nodau adnabod y blaid a ddefnyddir ar ffurflenni enwebu a phapurau pleidleisio mewn etholiadau. 

Nid oes unrhyw ddarpariaeth o dan PPERA i gofrestru dirprwy swyddog enwebu. Fodd bynnag, gall y swyddog enwebu cofrestredig awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran yn ysgrifenedig.

Swyddog ychwanegol

Os byddwch yn cofrestru swyddog ychwanegol, bydd ganddo rôl swyddogol o ryw fath yn y blaid. Mae'n rhaid i chi gofrestru swyddog ychwanegol â ni os mai'r un person yw arweinydd, trysorydd a swyddog enwebu'r blaid, ac nad oes gennych swyddog enwebu. Os nad yw hyn yn wir, ni allwch gofrestru swyddog ychwanegol â ni. 

Swyddog ymgyrchu

Bydd y swyddog ymgyrchu yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau o ran adroddiadau ariannol ar gyfer gwariant ar ymgyrchu mewn etholiadau penodol. Bydd yn cymryd y cyfrifoldebau hyn oddi wrth drysorydd y blaid.   

Ni ddylai'r swyddog ymgyrchu fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau o fewn pum mlynedd i gael ei benodi ac ni all fod yn drysorydd hefyd.

Dirprwy drysorydd a dirprwy swyddog ymgyrchu

Gall trysorydd neu swyddog ymgyrchu cofrestredig y blaid benodi hyd at 12 o ddirprwy swyddogion i gynorthwyo â'r gwaith o awdurdodi gwariant ar ymgyrchu. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol os yw eich plaid yn ymladd llawer o seddi. Defnyddiwch Ffurflen RP5 i gofrestru dirprwy swyddogion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022