Return to The Electoral Commission Homepage

Astudiaethau achos o etholiadau diweddar

Mae'r adran hon yn cynnwys astudiaethau achos o rai ymgyrchoedd sy'n seiliedig ar faterion a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod cyn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn 2015 a 2017.

Mae'r astudiaethau achos yn asesu'n fanwl y prawf cyhoeddus a'r prawf diben ar gyfer pob ymgyrch.

Gall yr asesiadau hyn roi esiampl o sut i asesu eich gweithgareddau ymgyrchu eich hun yn erbyn y profion.

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Ble i ddechrau

Thanks to campaigners and caveat - Welsh

Diolch i'r ymgyrchwyr rydym wedi defnyddio eu hymgyrchoedd ar gyfer yr astudiaethau achos hyn.

Yr asesiadau yn yr astudiaethau achos yw ein hasesiadau ni, fel y rheoleiddiwr, o'r ffordd y caiff y gyfraith ei chymhwyso i'r achosion penodol hyn, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu safbwyntiau'r ymgyrchwyr dan sylw. 

Astudiaeth achos 1: 0.7% o gynnyrch domestig gros ar gymorth tramor

Roedd elusen wedi bod yn ymgyrchu dros gymorth ers rhai blynyddoedd, gyda'r nod o sicrhau y byddai pob plaid wleidyddol yn ymrwymo i gynnal y polisi o wario 0.7% o Gynnyrch Domestig Gros ar gymorth tramor. Yn fuan ar ôl cyhoeddi etholiad, cyhoeddodd Theresa May y byddai'r Blaid Geidwadol yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r polisi.

Cyhoeddodd yr elusen linell i nodi ei bod yn croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog, a chafodd hyn ei rannu ar sianelau cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiad i'r wasg.

Yna, ysgrifennodd yr elusen at ei chefnogwyr yn gofyn iddynt ychwanegu eu henw at lythyr, wedyn anfonodd yr elusen y llythyr hwnnw at bob ymgeisydd a oedd yn sefyll yn etholaethau'r cefnogwyr hynny. Roedd y llythyr yn galw ar yr ymgeiswyr i sicrhau bod cefnogaeth dros gymorth yn cael ei chynnwys ym maniffesto eu plaid. Er mwyn peidio â gwastraffu adnoddau, canolbwyntiodd yr elusen ar yr etholaethau a oedd o flaenoriaeth yn eu barn nhw, sef tua un rhan o bump o'r holl etholaethau, a ddewiswyd yn ôl dylanwad y deiliad ar faniffesto'r blaid ac i sicrhau cydbwysedd o bleidiau a rhanbarthau yn y DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Croesawu'r cyhoeddiad

Prawf cyhoeddus:

Caiff y prawf cyhoeddus ei fodloni am fod y llinell yn cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Prawf diben:

Galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr

Nid oes unrhyw alwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr. Mae galwad anuniongyrchol i weithredu wedi'i hanelu at bleidiau gwleidyddol eraill, gan obeithio dylanwadu arnynt i ymrwymo i'r polisi hwn hefyd.

Tôn

Gnwaeth Theresa May y cyhoeddiad yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd y Blaid Geidwadol. Mae'r neges yn gadarnhaol ynghylch y cyhoeddiad, ac felly gellir ystyried yn rhesymol ei bod yn gadarnhaol yn anuniongyrchol ynghylch y Blaid Geidwadol.

Cyd-destun ac amser

Mae'r elusen wedi ymgyrchu dros y mater ers sawl blwyddyn. Mae'r cyhoeddiad yng nghyd-destun yr etholiad a maniffesto ei phlaid, felly mae cysylltiad â'r etholiad  a phleidleisio. Ar yr adeg hon, y Ceidwadwyr yw'r unig blaid sydd wedi ymrwymo i'r polisi, er y bydd pleidiau eraill yn cyhoeddi eu hymrwymiad a bydd yr elusen yn cyhoeddi llinellau cadarnhaol tebyg.

Sut y byddai unigolyn rhesymol yn ystyried y gweithgarwch

Byddai unigolyn rhesymol o'r farn mai bwriad y gweithgarwch oedd dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu'r polisi. Ni fyddai o'r farn bod bwriad i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros y Blaid Geidwadol, gan y byddai'r elusen yn cyhoeddi llinellau tebyg os oedd unrhyw blaid yn cyhoeddi ei ymrwymiad i'r polisi, a gwnaethant hynny yn ddiweddarach.

Ni ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gweithgarwch oedd dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol, felly nid yw'r prawf diben wedi'i fodloni. Nid yw gwariant ar y gweithgarwch wedi ei reoleiddio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Llythyr at gefnogwyr i'w hannog i ysgrifennu at ymgeiswyr

Prawf cyhoeddus:

Er bod y llythyr yn cael ei anfon at gefnogwyr yr elusen, maent yn bobl sydd wedi cofrestru i gael eu cynnwys ar restr bostio. Nid ydynt yn aelodau, rhoddwyr rheolaidd nac yn cymryd rhan weithredol yng ngwaith yr elusen. Felly, nid ydynt yn gefnogwyr ymrwymedig, ac felly caiff y prawf cyhoeddus ei fodloni.

Er mwyn bod yn gyflawn, byddwn hefyd yn ei asesu yn erbyn y prawf pwrpas.

Prawf diben:

Galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr

Mae galwad benodol i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr. Fodd bynnag, ni elwir arnynt i bleidleisio, gelwir arnynt i lobïo gwleidyddwyr. Mewn gwirionedd, mae'r gweithgarwch wedi'i anelu at ymgeiswyr, ASau ac, yn y pen draw, pleidiau gwleidyddol.

Tôn

Mae'r e-bost at gefnogwyr a'r llythyr at gefnogwyr yn gadarnhaol ynghylch y polisi. Nid ydynt yn gadarnhaol nac yn negyddol ynghylch pleidiau nac ymgeiswyr.

Cyd-destun ac amser

Mae'r elusen wedi ymgyrchu dros y mater ers sawl blwyddyn. Mae Theresa May wedi ymrwymo'r Ceidwadwyr i'r polisi. Mae'n rhesymol disgwyl y gall pleidiau mwy hefyd ei ychwanegu at ei maniffestos, ond mae'n hysbys bod rhai pleidiau proffil uchel, UKIP yn benodol, yn erbyn hynny. Er bod y mater o gymorth tramor a'r polisi 0.7% yn marcio rhyw fath o linell gwahanu rhwng y pleidiau felly, nid oes ganddo gysylltiad digon agos ym marn y cyhoedd i weithgarwch ymgyrchu ar y polisi gael ei ystyried yn rhesymol fel ymgyrchu yn erbyn UKIP.

Sut y byddai unigolyn rhesymol yn ystyried y gweithgarwch

Byddai unigolyn rhesymol o'r farn mai bwriad y gweithgarwch oedd dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol a'u maniffestos. Ni fyddai yn ystyried mai bwriad yr ymgyrch yw dylanwadu ar bleidleiswyr.

Ni ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gweithgarwch hwn oedd dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr, felly nid yw'r prawf diben wedi'i fodloni. Nid yw gwariant ar y gweithgarwch wedi'i reoleiddio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Astudiaeth achos 2: Mewnfudo

Cynhaliodd grŵp sy'n ymgyrchu ar fewnfudo ac estrongasedd ymgyrch posteri proffil uchel, wedi'i dilyn gan ymgyrch ddigidol a gafodd ei chynnal am nifer o fisoedd. Nod yr ymgyrch oedd dangos bod mewnfudwyr yn bobl go iawn.

Er y bwriadwyd i'r ymgyrch fynd yn fyw y flwyddyn flaenorol yn wreiddiol, cafodd ei oedi am nifer o resymau ymarferol, a chafodd yr ymgyrch posteri ei lansio yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol. Roedd cost yr ymgyrch posteri a'r ymgyrch ddigidol yn y cyfnod a reoleiddir uwchlaw'r trothwyon cofrestru ym mhob rhan o'r DU.

Prawf cyhoeddus

Mae'r gweithgarwch wedi'i anelu at y cyhoedd am ei fod yn defnyddio byrddau poster, gwefannau a'r cyfryngau cymdeithasol.

Prawf diben

Galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr

Nid oes unrhyw alwad i weithredu mewn unrhyw ffordd, ac nid oedd unrhyw beth yn benodol yn ymwneud ag ymddygiad pleidleisio.

Tôn

Mae'r ymgyrch yn gadarnhaol ynghylch mewnfudwyr. Mae'n awgrymu y dylem fod yn groesawgar tuag at fewnfudwyr yn ogystal ag awgrymu'r farn bod mewnfudwyr yn gwneud lles economaidd a chymdeithasol, ac felly gellir ystyried yn rhesymol bod yr ymgyrch o blaid mewnfudo yn gyffredinol. Nid yw'n cyfeirio at bleidiau nac ymgeiswyr, nac unrhyw bolisi penodol.

Cyd-destun ac amser

Mae'r sefydliad wedi ymgyrchu dros y mater am gryn dipyn o amser. Mae'r ymgyrch wedi'i chynllunio ers amser hir a'r bwriad oedd ei chyhoeddi'n gynharach o lawer, ond mae bellach yn agos iawn i'r etholiad.  Mae mewnfudo yn fater proffil uchel yn yr etholiad, ac mae'n gysylltiedig ag UKIP yn benodol. Fodd bynnag, mae UKIP fel arfer yn canolbwyntio'n benodol ar fewnfudo o'r UE. Nid yw'r ymgyrch yn gwneud hynny. Nid oes gan ddim un o'r ddwy blaid fwyaf farn benodol ar y mater, er bod gan y Blaid Geidwadol darged penodol i leihau niferoedd y mewnfudwyr nad ydynt yn dod o'r UE i 'ddegau o filoedd'. Nid yw'r ymgyrch posteri yn cyfeirio at unrhyw bolisi penodol. Nid yw mater eang 'mewnfudo' yn ddigon i gysylltu'r ymgyrch ag UKIP nac unrhyw blaid neu gategori o ymgeiswyr arall.

Sut y byddai unigolyn rhesymol yn ystyried y gweithgarwch

Byddai unigolyn rhesymol o'r farn mai bwriad y gweithgarwch oedd newid y drafodaeth gyffredinol ynghylch mewnfudwyr, yn y cyfryngau yn bennaf, ond hefyd gan wleidyddion. O ganlyniad i'r pwnc dan sylw a'r ffaith bod yr etholiad yn agos, gallai unigolyn rhesymol ystyried ei bod yn bosibl bod y posteri wedi'u targedu at UKIP, ac efallai, i raddau llai, y Blaid Geidwadol. Fodd bynnag, o ystyried nad yw'r ymgyrch wedi newid ers iddi gael ei chynllunio i'w lansio yn wreiddiol mewn cyfnod lle nad oedd etholiad, yn gyffredinol, ni fyddai unigolyn rhesymol yn ystyried mai bwriad yr ymgyrch oedd dylanwadu ar bleidleiswyr.

Ni ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gweithgarwch hwn oedd dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr, felly nid yw'r prawf diben wedi'i fodloni. Nid yw gwariant ar y gweithgarwch wedi'i reoleiddio, ac nid oes angen i'r grŵp ymgyrchu gofrestru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Astudiaeth achos 3: Ffracio

Cynhaliodd ymgyrchydd amgylcheddol gyfres o ymgyrchoedd ar y cyd ffracio yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Diwrnod gweithredu oedd yr ymgyrch gyntaf, lle cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ledled ardal lle roedd ceisiadau ffracio yn cael eu hystyried gan y cyngor.

Nod yr ail ymgyrch oedd annog ymgeiswyr i ymrwymo i wystlo yn erbyn ffracio. Roedd gwefan yr ymgyrchydd yn cynnwys map rhyngweithiol o'r DU, gyda phob etholaeth yn dangos pa rai o'u hymgeiswyr oedd wedi llofnodi'r gwystl. Roedd hefyd yn nodi cyfanswm ar gyfer sawl ymgeisydd o bob plaid oedd wedi llofnodi'r gwystl. Roedd deunydd arall yn hyrwyddo'r wefan, yn gofyn i ymgeiswyr lofnodi'r gwystl, ac yn gofyn i bleidleiswyr ysgrifennu at eu hymgeiswyr yn gofyn iddynt lofnodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Diwrnodau gweithredu

Prawf cyhoeddus

Maent yn ddigwyddiadau cyhoeddus, felly caiff y prawf cyhoeddus ei fodloni.

Prawf diben

Galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr

Anogir pobl yn y digwyddiadau i lofnodi deiseb yn erbyn y ceisiadau cynllunio. Ni chânt eu hannog i bleidleisio mewn unrhyw ffordd benodol.

Tôn

Mae tôn y digwyddiadau yn negyddol iawn tuag at ffracio. Nid ydynt yn canolbwyntio ar ymgeiswyr na phleidiau gwleidyddol.

Cyd-destun ac amser

Cynhaliwyd y digwyddiadau yn y cyfnod a reoleiddir, tua mis cyn yr etholiad.

Mae ffracio yn fater pwysig yn yr ardaloedd hyn, yn bennaf am fod ceisiadau cynllunio byw ar ffracio wedi'u cyflwyno i'r cyngor ar y pryd.

Sut y byddai unigolyn rhesymol yn ystyried y gweithgarwch

Byddai unigolyn rhesymol o'r farn mai bwriad y digwyddiadau yw dylanwadu ar benderfyniad gan y cyngor. Ni fyddai o'r farn mai bwriad y digwyddiadau yw dylanwadu ar ddewis y pleidleiswyr.

Ni ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad yr ymgyrch diwrnod gweithredu yw dylanwadu ar bleidleiswyr ac felly nid yw'n bodloni'r prawf diben.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Gwefan ymgyrch gwystl

Ymgyrchu lleol neu gyffredinol:

Er bod y map rhyngweithiol yn enwi ymgeiswyr penodol mewn etholaethau penodol, nid cyfres o ymgyrchoedd lleol ydyw. Mae'n ymgyrch cyffredinol.

Mae hyn oherwydd bod y map rhyngweithiol yn cynnwys nifer o etholaethau fel un ymgyrch, ac mae'n amlwg mai ymgyrch sy'n seiliedig ar fater ydyw, yn hytrach na bod am yr ymgeiswyr a enwir yn bennaf.

Prawf cyhoeddus

Mae'r wefan a'r deunydd hyrwyddo cysylltiedig ar gael i'r cyhoedd, felly mae'r ymgyrch yn bodloni'r prawf cyhoeddus.

Prawf diben:

Galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr

Nid yw'r ymgyrch yn cynnwys galwad benodol i weithredu. Fodd bynnag, mae'n amlwg mai ei bwriad yw bod yn gysylltiedig ag etholiad am ei bod yn cyfeirio at ymgeiswyr a phleidiau. Felly, gellir ystyried yn rhesymol mai bwriad yr ymgyrch yw annog pleidleiswyr i ystyried barn ymgeiswyr ar ffracio wrth fwrw eu pleidlais.

Tôn

Am fod barn yr ymgyrchwyr ar ffracio yn glir iawn, gellir ystyried yn rhesymol bod yr ymgyrch yn gadarnhaol yn anuniongyrchol tuag at ymgeiswyr a phleidiau sydd wedi llofnodi'r gwystl ac sydd wedi mabwysiadu safbwynt gwrth-ffracio yn gyffredinol.

Am fod enwau ymgyrchwyr yn ymddangos ar y map rhyngweithiol yn yr etholaethau perthnasol, mae categori o ymgeiswyr wedi'i nodi'n glir.

Gellir ei ystyried yn rhesymol bod y wefan hefyd yn fwy cadarnhaol yn anuniongyrchol ynghylch pleidiau sydd â mwy o ymgeiswyr sydd wedi ymrwymo i'r addewid. Mae'r Blaid Werdd yn benodol wedi sgorio'n uchel.

Cyd-destun ac amser

Cynhaliwyd yr ymgyrch yn ystod y cyfnod a reoleiddir, chwe mis i fyny at ddiwrnod yr etholiad. Roedd yn glir ei bod wedi'i hanelu at yr etholiad.

Sut y byddai unigolyn rhesymol yn ystyried y gweithgarwch

Byddai unigolyn rhesymol o'r farn mai prif fwriad yr ymgyrch yw dylanwadu ar ymgeiswyr i lofnodi'r gwystl, er mwyn sicrhau, ar ôl yr etholiad, y bydd mwy o ASau wedi llofnodi'r addewid ac yn fwy parod i dderbyn nodau polisi'r ymgeisydd. Fodd bynnag, gallai hefyd ystyried yn rhesymol y bwriadwyd iddi ddylanwadu ar ddewis pobl o ran pleidleisio o blaid ymgeiswyr a phleidiau sydd yn erbyn ffracio.

Gellir ystyried yn rhesymol mai bwriad yr ymgyrch yw dylanwadu ar bleidleiswyr, felly caiff y prawf diben ei fodloni.

Am ei bod hefyd yn bodloni'r prawf cyhoeddus, mae'r costau sy'n gysylltiedig â'r map rhyngweithiol, yn ogystal â'r deunydd ar yr ymgyrch gwystlo, wedi'u rheoleiddio ac yn cyfrif tuag at gyfanswm gwariant a reoleiddir yr ymgyrchydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Astudiaeth achos 4: Pleidleisio dros weithredu diwydiannol

Roedd undeb llafur sy’n cynrychioli gweithwyr y GIG wedi bod yn ymgyrchu am gyflogau eu haelodau ers rhai blynyddoedd ochr yn ochr ag ymgysylltu â’r strwythurau sy’n pennu cyflogau’r GIG. Eu nod oedd sicrhau codiad cyflog i staff y GIG, ac ar gyfer gwelliannau eraill i amodau staff y GIG. 

Ar ddiwedd 2022, pan ystyriwyd nad oedd y setliad cyflog arfaethedig yn foddhaol i’r undeb, datganodd yr undeb gyfres o anghydfodau masnach a phenderfynodd gynnal pleidleisiau ar gyfer gweithredu diwydiannol ynghylch cyflog.  

Ceisiodd yr undeb gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio ymhlith aelodau’r undeb gan ddefnyddio’r slogan “Pleidleisiwch ie dros y GIG”, wrth gyfathrebu ag aelodau ac yn ehangach drwy gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebiadau ymgyrchu’r undeb. 

Cyrhaeddodd nifer o'r pleidleisiau dros weithredu diwydiannol y trothwy priodol ac fe aeth aelodau’r undeb sy'n gweithio i'r GIG yn Lloegr ar streic. Drwy gydol y cyfnod o weithredu diwydiannol, bu’r undeb yn cyfathrebu â’r cyhoedd yn ehangach i egluro’r rhesymau dros y streic, mewn ymddangosiadau yn y cyfryngau, ar ei wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys beirniadu’r llywodraeth  

Ar ddiwrnodau streic, safodd aelodau’r undeb ar linellau piced y tu allan i'w gweithleoedd a gofyn i bobl oedd yn cerdded heibio am gefnogaeth. Gofynnodd yr undeb i aelodau'r cyhoedd ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol yn gofyn i weinidogion drafod yn uniongyrchol gyda'r undeb ar gyflogau'r GIG. 

At ddibenion yr astudiaeth achos hon, rydym yn tybio y galwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU rai misoedd yn ddiweddarach. Gan fod y cyfnod a reoleiddir yn ymestyn yn ôl 365 diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio, mae hyn yn golygu y byddai'r bleidlais a'r ymgyrchoedd cysylltiedig wedi digwydd yn y cyfnod ôl-weithredol a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Aelodau sy’n pleidleisio

Ar gael i'r cyhoedd:

Mae'r ymgyrch ar gael i'r cyhoedd gan fod y negeseuon yn mynd allan ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chyfathrebu uniongyrchol ag aelodau. 

Prawf diben:

Galwad i weithredu i bleidleiswyr

Does dim galwad i weithredu i bleidleiswyr. Mae’r alwad i weithredu ar aelodau’r undeb i bleidleisio o blaid streicio yn y bleidlais gweithredu diwydiannol.  

Ar adeg y bleidlais, nid oedd dyddiad ar gyfer yr etholiad nesaf i bleidleiswyr gael eu dylanwadu ynddo. Fodd bynnag, hyd yn oed pe bai etholiad wedi bod ar y pryd, byddai’r alwad i weithredu yn dal wedi bod i aelodau’r undeb i bleidleisio o blaid streicio, ac i beidio â phleidleisio mewn unrhyw ffordd benodol yn yr etholiad.

Tôn

Mae dyfodol y GIG yn fater o drafodaeth gyhoeddus, gyda phob plaid yn cyflwyno cynlluniau cystadleuol i wella’r GIG. Mae gan yr undeb safbwyntiau cryf sydd wedi’u gwreiddio ym mhrofiadau eu haelodau, y maent yn eu mynegi’n glir. 

Cyd-destun ac amseru

Mae’r undeb wedi ymgyrchu dros gyflogau a chyllid y GIG ers degawdau, a gwaith craidd yr undeb yw cynrychioli barn ei aelodau ar gyflog ac amodau, sy’n cynnwys llwyth gwaith ac ariannu priodol gwasanaethau’r GIG. Mae'r bleidlais gweithredu diwydiannol o reidrwydd yn defnyddio pleidleisio, felly o edrych yn ôl gallai fod cyswllt canfyddedig i'r etholiad a phleidleisio. Fodd bynnag, mae’r cyfeiriadau at bleidleisio a phleidleisiau yn amlwg yn ymwneud â streicio. A beth bynnag, ar adeg y bleidlais, nid oedd etholiad wedi'i drefnu.

Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch

Byddai person rhesymol yn ystyried mai bwriad y gweithgarwch oedd dylanwadu ar aelodau’r undeb i bleidleisio ‘ie’ yn y bleidlais gweithredu diwydiannol. Ni fyddent yn meddwl mai bwriad y gweithgarwch oedd dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn plaid y llywodraeth, gan fod y deunydd yn amlwg yn gysylltiedig â phleidlais gweithredu diwydiannol yn y GIG. 

Hyd yn oed pe bai etholiad wedi bod ar y pryd, byddai person rhesymol yn dal i feddwl mai dylanwadu ar ganlyniad y bleidlais streic oedd y bwriad, yn hytrach na phleidleiswyr yn yr etholiad.

O ystyried yr holl ffactorau hyn, ni ellir yn rhesymol ystyried bod y gweithgarwch wedi'i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol, felly nid yw'r prawf pwrpas yn cael ei fodloni. Felly nid yw gwariant ar y gweithgarwch yn cael ei reoleiddio.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Ymgyrchu o gwmpas streic

Ar gael i'r cyhoedd:

Ni fydd deunydd a gyhoeddir ar wefan yr undeb a ffrydiau cymdeithasol a gweithgarwch y tu allan i weithleoedd yn cyrraedd aelodau a chefnogwyr ymroddedig yn unig, ac felly mae ar gael i’r cyhoedd. 

Prawf diben:

Galwad i weithredu i’r cyhoedd

Mae yna alwad i weithredu i’r cyhoedd. Fodd bynnag, nid ydynt yn cael eu galw i bleidleisio, maent yn cael eu galw “i ddangos undod â gweithwyr sydd ar streic ac i lobïo gweinidogion yn rhinwedd eu swydd fel cyflogwyr eithaf staff y GIG.”

Tôn

Mae'r deunydd a gyhoeddwyd gan yr undeb yn feirniadol o record gweinidogion fel cyflogwyr staff y GIG. 

Cyd-destun ac amseru

Mae'r undeb wedi ymgyrchu am gyflogau a chyllid y GIG ers cryn dipyn o amser. a gwaith craidd yr undeb hwn yw cynrychioli barn ei aelodau ar gyflogau ac amodau, sy’n cynnwys llwyth gwaith a chyllid priodol ar gyfer gwasanaethau’r GIG. Deellir yn gyffredinol mai gwaith undeb yw hyn. 

Mae gan bob plaid bolisïau sylweddol ar y GIG felly nid yw mater cyflogau’r GIG wedi'i gysylltu'n ddigon agos ym meddwl y cyhoedd i ymgyrchu ar y polisi gael ei ystyried yn rhesymol fel ymgyrchu yn erbyn y blaid lywodraethol. Er mai gweinidogion Ceidwadol yw’r gweinidogion presennol sy’n gyfrifol am gyflogau’r GIG, mae’r undeb yn ymgyrchu yn erbyn eu polisi yn rhinwedd eu swydd fel cyflogwyr eithaf staff y GIG. Byddai’r undeb yn gweithredu mewn ffordd debyg pe bai cynnig cyflog annerbyniol yn cael ei dderbyn gan unrhyw lywodraeth ar gyfer staff y GIG (ac yn wir mae wedi gwneud hynny yn y gorffennol).  

Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch

Byddai person rhesymol yn meddwl mai bwriad y gweithgaredd oedd ennill codiad cyflog gan weinidogion yn rhinwedd eu swydd fel cyflogwyr eithaf staff y GIG. Ni fyddent yn gweld yr ymgyrch fel un a fwriadwyd i ddylanwadu ar bleidleiswyr.

Hyd yn oed pe bai etholiad wedi bod ar adeg yr ymgyrch, byddai person rhesymol wedi meddwl bod yr ymgyrch yn feirniadol o weinidogion yn eu rôl fel rhan o’r llywodraeth a chyflogwyr y GIG, yn hytrach na dylanwadu ar bleidleiswyr i beidio â phleidleisio dros eu plaid wleidyddol.

O ystyried yr holl ffactorau hyn, ni ellir yn rhesymol ystyried bod y gweithgarwch hwn wedi'i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr, felly nid yw'r prawf pwrpas yn cael ei fodloni. Nid yw'r gwariant ar y gweithgarwch yn cael ei reoleiddio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Ymgyrchu etholiadol ar wahân

Unwaith y cyhoeddir etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae'r undeb hefyd yn cynnal ymgyrchoedd ar wahân am yr etholiad. 

Mae peth o ddeunydd yr ymgyrchoedd etholiadol yn dadlau bod pobl yn “pleidleisio dros wasanaethau cyhoeddus” ac mae rhai yn dadlau’n benodol o blaid pleidlais i blaid wleidyddol. Mae'r gweithgarwch hwn ar gael i'r cyhoedd ac mae'n bodloni'r prawf pwrpas. Oherwydd bod y gwariant uwchlaw'r trothwy hysbysu, mae'r undeb yn cofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd nad yw'n blaid.  

Fodd bynnag, nid oedd yr un o'r gweithgarwch yn ymwneud â'r bleidlais ar gyfer streic wedi'i reoleiddio gan nad oedd yn bodloni'r prawf pwrpas. Felly nid yw'n cyfrif tuag at eu terfyn gwariant ac nid oes angen iddo ymddangos ar eu ffurflen dreth. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025