Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Astudiaethau achos
Astudiaeth achos 2: Mewnfudo
Cynhaliodd grŵp sy'n ymgyrchu ar fewnfudo ac estrongasedd ymgyrch posteri proffil uchel, wedi'i dilyn gan ymgyrch ddigidol a gafodd ei chynnal am nifer o fisoedd. Nod yr ymgyrch oedd dangos bod mewnfudwyr yn bobl go iawn.
Er y bwriadwyd i'r ymgyrch fynd yn fyw y flwyddyn flaenorol yn wreiddiol, cafodd ei oedi am nifer o resymau ymarferol, a chafodd yr ymgyrch posteri ei lansio yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol. Roedd cost yr ymgyrch posteri a'r ymgyrch ddigidol yn y cyfnod a reoleiddir uwchlaw'r trothwyon cofrestru ym mhob rhan o'r DU.
Prawf cyhoeddus
Mae'r gweithgarwch wedi'i anelu at y cyhoedd am ei fod yn defnyddio byrddau poster, gwefannau a'r cyfryngau cymdeithasol.
Prawf diben
Galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr
Nid oes unrhyw alwad i weithredu mewn unrhyw ffordd, ac nid oedd unrhyw beth yn benodol yn ymwneud ag ymddygiad pleidleisio.
Tôn
Mae'r ymgyrch yn gadarnhaol ynghylch mewnfudwyr. Mae'n awgrymu y dylem fod yn groesawgar tuag at fewnfudwyr yn ogystal ag awgrymu'r farn bod mewnfudwyr yn gwneud lles economaidd a chymdeithasol, ac felly gellir ystyried yn rhesymol bod yr ymgyrch o blaid mewnfudo yn gyffredinol. Nid yw'n cyfeirio at bleidiau nac ymgeiswyr, nac unrhyw bolisi penodol.
Cyd-destun ac amser
Mae'r sefydliad wedi ymgyrchu dros y mater am gryn dipyn o amser. Mae'r ymgyrch wedi'i chynllunio ers amser hir a'r bwriad oedd ei chyhoeddi'n gynharach o lawer, ond mae bellach yn agos iawn i'r etholiad. Mae mewnfudo yn fater proffil uchel yn yr etholiad, ac mae'n gysylltiedig ag UKIP yn benodol. Fodd bynnag, mae UKIP fel arfer yn canolbwyntio'n benodol ar fewnfudo o'r UE. Nid yw'r ymgyrch yn gwneud hynny. Nid oes gan ddim un o'r ddwy blaid fwyaf farn benodol ar y mater, er bod gan y Blaid Geidwadol darged penodol i leihau niferoedd y mewnfudwyr nad ydynt yn dod o'r UE i 'ddegau o filoedd'. Nid yw'r ymgyrch posteri yn cyfeirio at unrhyw bolisi penodol. Nid yw mater eang 'mewnfudo' yn ddigon i gysylltu'r ymgyrch ag UKIP nac unrhyw blaid neu gategori o ymgeiswyr arall.
Sut y byddai unigolyn rhesymol yn ystyried y gweithgarwch
Byddai unigolyn rhesymol o'r farn mai bwriad y gweithgarwch oedd newid y drafodaeth gyffredinol ynghylch mewnfudwyr, yn y cyfryngau yn bennaf, ond hefyd gan wleidyddion. O ganlyniad i'r pwnc dan sylw a'r ffaith bod yr etholiad yn agos, gallai unigolyn rhesymol ystyried ei bod yn bosibl bod y posteri wedi'u targedu at UKIP, ac efallai, i raddau llai, y Blaid Geidwadol. Fodd bynnag, o ystyried nad yw'r ymgyrch wedi newid ers iddi gael ei chynllunio i'w lansio yn wreiddiol mewn cyfnod lle nad oedd etholiad, yn gyffredinol, ni fyddai unigolyn rhesymol yn ystyried mai bwriad yr ymgyrch oedd dylanwadu ar bleidleiswyr.
Ni ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gweithgarwch hwn oedd dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr, felly nid yw'r prawf diben wedi'i fodloni. Nid yw gwariant ar y gweithgarwch wedi'i reoleiddio, ac nid oes angen i'r grŵp ymgyrchu gofrestru.