Astudiaeth achos 4: Pleidleisio dros weithredu diwydiannol

Roedd undeb llafur sy’n cynrychioli gweithwyr y GIG wedi bod yn ymgyrchu am gyflogau eu haelodau ers rhai blynyddoedd ochr yn ochr ag ymgysylltu â’r strwythurau sy’n pennu cyflogau’r GIG. Eu nod oedd sicrhau codiad cyflog i staff y GIG, ac ar gyfer gwelliannau eraill i amodau staff y GIG. 

Ar ddiwedd 2022, pan ystyriwyd nad oedd y setliad cyflog arfaethedig yn foddhaol i’r undeb, datganodd yr undeb gyfres o anghydfodau masnach a phenderfynodd gynnal pleidleisiau ar gyfer gweithredu diwydiannol ynghylch cyflog.  

Ceisiodd yr undeb gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio ymhlith aelodau’r undeb gan ddefnyddio’r slogan “Pleidleisiwch ie dros y GIG”, wrth gyfathrebu ag aelodau ac yn ehangach drwy gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebiadau ymgyrchu’r undeb. 

Cyrhaeddodd nifer o'r pleidleisiau dros weithredu diwydiannol y trothwy priodol ac fe aeth aelodau’r undeb sy'n gweithio i'r GIG yn Lloegr ar streic. Drwy gydol y cyfnod o weithredu diwydiannol, bu’r undeb yn cyfathrebu â’r cyhoedd yn ehangach i egluro’r rhesymau dros y streic, mewn ymddangosiadau yn y cyfryngau, ar ei wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys beirniadu’r llywodraeth  

Ar ddiwrnodau streic, safodd aelodau’r undeb ar linellau piced y tu allan i'w gweithleoedd a gofyn i bobl oedd yn cerdded heibio am gefnogaeth. Gofynnodd yr undeb i aelodau'r cyhoedd ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol yn gofyn i weinidogion drafod yn uniongyrchol gyda'r undeb ar gyflogau'r GIG. 

At ddibenion yr astudiaeth achos hon, rydym yn tybio y galwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU rai misoedd yn ddiweddarach. Gan fod y cyfnod a reoleiddir yn ymestyn yn ôl 365 diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio, mae hyn yn golygu y byddai'r bleidlais a'r ymgyrchoedd cysylltiedig wedi digwydd yn y cyfnod ôl-weithredol a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023