Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol - 381
Contents
Yn y rhifyn hwn
- Diweddariad ar Ganllawiau
- Mae’r Arolwg Canfasio Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer 2024 yn fyw nawr
Guidance Update
Diweddariad ar Ganllawiau
Dros yr haf rydym wedi bod yn adolygu ein canllawiau craidd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau ac Ymgeiswyr ac Asiantau ac yn gwneud diweddariadau wedi'u cynllunio megis cael gwared ar gafeatau sy'n weddill yn ymwneud â newidiadau deddfwriaethol diweddar a oedd ar waith cyn etholiadau mis Mai 24.
Diolch am eich adborth ar ein canllawiau fel rhan o’n harolygon ar ôl y bleidlais. Rydym yn croesawu eich sylwadau ar ddarpariaeth a chynnwys ein canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddefnyddiol ac yn hygyrch. Rydym yn parhau â’n gwaith i ddiweddaru’r canllawiau a’r adnoddau cysylltiedig cyn etholiadau mis Mai 2025 ac i gasglu’r gwersi a ddysgwyd o etholiadau mis Mai 24 ac Etholiad Cyffredinol Senedd y DU ar 24 Gorffennaf, gan gynnwys y rhai hynny a amlygwyd yn eich adborth. Mae diweddariadau ar ein gwaith arfaethedig ym mhob un o’r meysydd canllawiau wedi’u darparu isod
Mae un o themâu’r adborth yn ymwneud â sut i sicrhau bod gwefan y Comisiwn mor hawdd â phosib i’w defnyddio. Rydym yn ystyried y sylwadau hyn ac yn archwilio sut y gallwn wneud gwelliannau gyda’n tîm digidol a byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn cyn gynted â phosib.
Diweddariad ar ganllawiau ac adnoddau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Yn ddiweddar, rydym wedi diweddaru ac ehangu ein canllawiau ar geisiadau gan etholwyr tramor, yn benodol ein canllawiau ar wirio cymhwysedd yr ymgeisydd i gofrestru o dan yr amod wedi cofrestru’n flaenorol ac ar ddefnyddio tystiolaeth i gefnogi pennu amodau cymhwysedd cais etholwr tramor.
Ymhellach i Fwletin 379, rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar yr Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd i roi rhagor o fanylion am gymhwysedd yr etholwyr hynny sydd â statws preswylydd sefydlog/cyn-sefydlog yr UE.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein hadnodd sy’n darparu’r dyddiadau cofrestru treigl ar gyfer 2025. Mae hyn yn cynnwys amserlenni ar gyfer diweddariadau i’r gofrestr lawn a’r gofrestr agored, ac amserlenni ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau newid etholiad ar gyfer etholiadau mis Mai sydd wedi’u trefnu.
Cyn diwedd y canfas blynyddol, rydym wedi diweddaru ein rhestr o bobl sydd â hawl cael adnodd y gofrestr etholiadol. Mae ein canllawiau craidd ar gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ar ôl y canfas blynyddol ar gael yma.
Diweddariad ar ganllawiau ac adnoddau i Swyddogion Canlyniadau
Rydym yn diweddaru ein canllawiau a’n hadnoddau craidd i Swyddogion Canlyniadau, gan gynnwys amserlen yr etholiad, i gefnogi’r paratoadau ar gyfer etholiadau mis Mai. Mae’r diweddariadau yn fân ddiwygiadau sydd wedi’u nodi fel rhan o’r adborth o’r etholiadau a byddwn yn cyhoeddi’r rhain yn gynnar ym mis Tachwedd.
Byddwn yn cyhoeddi Llawlyfrau Gorsafoedd Pleidleisio wedi'u diweddaru ym mis Chwefror 2025, yn unol â'n hamserlenni arferol cyn yr etholiadau sydd wedi’u trefnu a byddwn yn darparu copïau caled i chi cyn yr etholiadau fel arfer. Bydd y ffurflen archebu yn cael ei rhannu ym mis Rhagfyr, gyda’r dyddiad cau ar gyfer gosod archebion yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Canllawiau Ymgeiswyr ac Asiantiaid
Ar ddechrau mis Rhagfyr byddwn hefyd yn cyhoeddi fersiynau wedi’u diweddaru o’n canllawiau a’n hadnoddau i ymgeiswyr ac asiantiaid. Eto, mae’r diweddariadau hyn yn fân ddiwygiadau sydd wedi’u nodi fel rhan o’r adborth o’r etholiadau.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd ein holl ddiweddariadau i ganllawiau drwy'r Bwletin fel arfer, ond yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, cysylltwch â'ch tîm Comisiwn lleol.
ERO Canvass Survey 2024
Mae’r Arolwg Canfasio Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer 2024 yn fyw nawr
Bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi derbyn ein harolwg canfasio blynyddol, drwy e-bost, yn ddiweddar gan un o’ch cysylltiadau Comisiwn Etholiadol rhanbarthol neu genedlaethol.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, rydym yn chwilio am eich adborth i’n hysbysu sut y gallwn ymgysylltu â Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’u timau, a’u cefnogi, yn well. Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol ac rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod wedi cael effaith ar eich gallu i gynllunio ar gyfer y canfas ond gobeithiwn y gallwch roi peth o’ch amser i fesur a phwyso, i adlewyrchu ar eich profiadau, ac i rannu gyda ni sut rydych yn mynd i’r afael â Chanfas 2024.
Eleni roeddem hefyd am ddechrau cael dealltwriaeth ehangach o sut mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn mynd i’r afael ag anghenion grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghanfas 2024. Mae hwn yn fater mwy cymhleth nag y gallem wneud cyfiawnder ag ef yn ein harolwg, ond, gyda’ch cymorth chi, rydym yn awyddus i ddechrau creu darlun o sut mae’r gwaith pwysig hwn yn mynd yn ei flaen.
Mae’r arolwg yn cau am ymatebion ar 4 Hydref.