Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cadarnhau cymhwysedd yr ymgeisydd i gofrestru o dan yr amod cofrestriad blaenorol – Cymru
Er mwyn i ymgeisydd fod yn gymwys i gofrestru o dan yr amod hwn, rhaid iddo fod wedi'i gofrestru'n flaenorol i bleidleisio yn y DU ac mae'n ofynnol iddo ddarparu'r cyfeiriad lle roedd wedi'i gofrestru ddiwethaf. Mae hyn yn ogystal â'r angen i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd .
Mae'n rhaid i chi fod yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru'n flaenorol yn y cyfeiriad a ddarparwyd ganddo. 1 Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen gwirio cofrestrau blaenorol os caiff y rhain eu cadw, naill ai'n ddigidol neu ar ffurf copi caled. Bydd cadw cofrestrau hanesyddol am gyhyd ag sy'n ymarferol yn eich helpu i gynnal gwiriadau o'r fath mewn perthynas â chofrestriad blaenorol ymgeiswyr.
Gwirio cofrestrau etholiadol
Bydd yr ymgeisydd wedi darparu dyddiad pan oedd wedi'i gofrestru ddiwethaf fel rhan o'i ddatganiad.
Os bydd ymgeisydd wedi symud dramor yn ddiweddar, gellir gwirio'r gofrestr gyfredol er mwyn dod o hyd i'w gofnod. Fodd bynnag, os gadawodd ymgeisydd y DU beth amser yn ôl a bod cofrestrau hanesyddol gennych mewn fformat neu leoliad hygyrch, dylech gadarnhau a oedd yr ymgeisydd ar y gofrestr berthnasol.
Gall datganiad ymgeisydd gynnwys gwybodaeth arall a all eich helpu i ddod o hyd i'w gofrestriad blaenorol. Er enghraifft, os oedd yr ymgeisydd wedi'i gofrestru ddiwethaf fel etholwr tramor, pleidleisiwr yn y lluoedd arfog neu drwy ddatganiad o gysylltiad lleol, efallai y bydd wedi'i restru mewn rhan benodol o'r gofrestr.
Gall person fod yn gymwys o dan yr amod cofrestriad blaenorol hyd yn oed os oedd ond wedi'i gofrestru ar gyfer etholiadau lleol neu fel cyrhaeddwr, felly dylech sicrhau eich bod yn gwirio pob cofrestr sydd gennych, nid dim ond y gofrestr seneddol.
Gall gwybodaeth sy'n nodi bod ymgeisydd wedi newid ei enw ers iddo fod wedi'i gofrestru ddiwethaf hefyd eich helpu i ddod o hyd i gofrestriad blaenorol yr ymgeisydd yn haws.
Dylech wirio cofrestrau y naill ochr i'r dyddiad y mae'r ymgeisydd yn honni iddo fod wedi'i gofrestru ddiwethaf, rhag ofn bod yr ymgeisydd wedi darparu'r dyddiad anghywir.
Os na allwch ddod o hyd i gofnod yr ymgeisydd, ni allwch gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru'n flaenorol. Dylech ystyried hyn fel tystiolaeth nad yw’r person yn gymwys i gofrestru o dan yr amod cofrestriad blaenorol gan ei fod wedi gwneud cais mewn perthynas â chyfeiriad nad oedd wedi’i gofrestru ynddo, a gwrthod y cais ar y sail honno.
Os yw’r ymgeisydd erioed wedi’i gofrestru o’r blaen mewn unrhyw gyfeiriad (neu gyfeiriadau) eraill yn y DU, dylech gynghori’r ymgeisydd i wneud cais arall gan ddefnyddio ei gyfeiriad diweddaraf nesaf. Os caiff ei gais nesaf ei wrthod ar y sail nad oedd ar y gofrestr, gall barhau i wneud ceisiadau yn y cyfeiriad(au) diweddaraf nesaf lle y gall fod wedi’i gofrestru, gan weithio tuag yn ôl yn gronolegol. Os nad oes gan yr ymgeisydd ragor o gyfeiriadau lle’r oedd wedi’i gofrestru’n flaenorol, gall wedyn wneud cais i gofrestru ar sail y meini prawf preswylio blaenorol.
Dylech ystyried pa mor hygyrch yw copïau hŷn o'r gofrestr, yn enwedig y rheini sy'n hŷn na'r cyfnod 15 mlynedd sy'n berthnasol i'r rheolau blaenorol ynghylch cofrestru etholwyr tramor.
Pryd mae'n anymarferol defnyddio cofrestrau etholiadol i wirio cymhwysedd ymgeisydd i gofrestru o dan yr amod cofrestriad blaenorol?
Mae'n bosibl na fydd bob amser yn ymarferol gwirio cofrestrau etholiadol, er enghraifft:
- gadawodd yr ymgeisydd y DU amser maith yn ôl ac ni allwch gael gafael ar y gofrestr berthnasol neu nid yw'r gofrestr gennych mwyach am ei bod yn cael ei storio oddi ar y safle a/neu wedi'i harchifo neu am ei bod yn cael ei chadw y tu allan i'r System Rheoli Etholiad mewn fformat anhygyrch
- os byddai amser a/neu gost gwneud hynny yn cael cryn effaith ar allu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i gwblhau dyletswyddau eraill a all gael effaith andwyol ar ymgeiswyr ac etholwyr eraill
Y camau nesaf os na allwch ddefnyddio cofrestrau etholiadol i wirio cymhwysedd ymgeisydd o dan yr amod cofrestriad blaenorol
Ni ddylech benderfynu gwrthod cais yn seiliedig ar y ffaith nad yw'n ymarferol gwirio cofrestr yn unig.
Os na allwch wirio cofrestrau etholiadol, gallwch ddewis defnyddio gwybodaeth arall sydd ar gael i chi i'ch helpu i fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn bodloni'r amod cofrestriad blaenorol.
Mae hyn yn cynnwys:
- defnyddio canlyniad y broses baru awtomataidd yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau
- gwirio cofnodion eraill a ddelir yn lleol
- defnyddio unrhyw dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd wrth gyflwyno'r cais, neu ofyn am dystiolaeth os nad yw wedi'i darparu eisoes
Os na allwch fodloni'ch hun, ar ôl gwirio'r wybodaeth arall sydd ar gael, fod yr ymgeisydd yn bodloni'r amod cofrestriad blaenorol, gallwch ddewis naill ai:
- adolygu eich penderfyniad mewn perthynas â dichonoldeb gwirio cofrestrau etholiadol
- gwrthod y cais
- ystyried unrhyw amgylchiadau eithriadol
Gall fod amgylchiadau eithriadol lle na all ymgeisydd roi tystiolaeth ddogfennol i chi i gefnogi ei gais ac ni all ddarparu ardystiad chwaith.
O dan yr amgylchiadau hyn, dylech ofyn i'r ymgeisydd am esboniad o ran y rhesymau penodol pam na all roi'r dystiolaeth na'r ardystiad i chi. Os byddwch yn fodlon ar yr esboniad a roddir, gallwch ystyried bod y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn natganiad ymgeisydd yn dystiolaeth ddigonol ei fod yn bodloni'r amod cofrestriad blaenorol, o ystyried eich bod wedi ceisio cael naill ai dystiolaeth ddogfennol neu ardystiad gan yr ymgeisydd, ond heb lwyddo i'w cael.
Dylech sicrhau eich bod wedi cymryd pob cam sydd ar gael i chi cyn penderfynu gwrthod cais.
- 1. Adran 1B (2)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (fel y'i diwygiwyd gan EA22) ↩ Back to content at footnote 1