Canllawiau i arsylwyr etholiadol yng Nghymru: Mai 2026
Mae’r canllawiau hyn i arsylwyr etholiadol sydd wedi cael eu hachredu gan y Comisiwn Etholiadol. Maent yn cynnwys gwybodaeth am yr etholiadau sy’n cael eu cynnal a beth i’w ddisgwyl yn y prosesau etholiadol y mae gennych yr hawl i’w harsylwi.
Pa etholiadau sy’n cael eu cynnal?
Dydd Iau 7 Mai 2026, bydd etholiadau’r Senedd yng Nghymru. Mae’r canllawiau hyn i arsylwyr achrededig sy’n arsylwi yng Nghymru.
Beth sy’n wahanol i etholiad diwethaf y Senedd?
O fis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
Bydd gan Gymru 16 etholaeth. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod i’r Senedd. Bydd pleidleiswyr yn pleidleisio unwaith yn unig yn etholiadau’r Senedd, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Lluniodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru’r etholaethau newydd drwy baru 32 o etholaeth presennol Senedd y DU ar gyfer Cymru. Ystyrion nhw hefyd ffiniau lleol, cysylltiadau ffyrdd a chludiant, a nodweddion naturiol fel afonydd a mynyddoedd.
Beth y gallaf ei arsylwi?
Fel arsylwr achrededig, mae gennych yr hawl i fynd i’r prosesau a’r lleoedd canlynol:
- cyflenwi a chael papurau pleidleisiau post
- y gorsafoedd pleidleisio
- dilysu a chyfrif y pleidleisiau
Rydym wedi cyhoeddi Cod Ymddygiad i arsylwyr etholiadol. Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau ymddygiad a nodir yn y Cod hwn.
Nid oes angen i chi ddweud wrth swyddogion etholiadol eich bod am arsylwi gweithdrefnau; mae gennych hawl yn ôl y gyfraith i fod yn bresennol, a cheir manylion ynghylch hynny uchod. Serch hynny, os ydych chi yn dweud wrthynt, efallai y gallant roi rhywfaint o wybodaeth leol ac ymarferol i chi, er enghraifft rhestr o orsafoedd pleidleisio neu addasiadau a wnaed i leoliadau at ddibenion hygyrchedd. Cewch ymweld heb ddweud ymlaen llaw o hyd neu newid eich cynllunio os hoffech.
Pwy all bleidleisio yn yr etholiadau hyn?
Caiff pleidleiswyr bleidleisio yn etholiad y Senedd os ydynt wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru, yn 16 mlwydd oed neu hŷn ar ddydd Iau 7 Mai 2026 ac maent yn un o’r canlynol:
- dinesydd Prydeinig neu Iwerddon neu’n
- ddinesydd y Gymanwlad sydd â chaniatâd i aros yn y DU neu nad oes rhaid iddo gael caniatâd o’r fath neu’n
- ddinesydd gwlad yr Undeb Ewropeaidd neu’n
- ddinesydd tramor cymwys sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU, neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o’r fath arno
Ni all dinasyddion Prydain sy’n byw dramor bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Pa ddulliau pleidleisio y caiff eu defnyddio?
Caiff pleidleiswyr un bleidlais i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer eu hetholaeth yn y Senedd.
Gelwir hyn yn ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’ ac mae’n golygu eu bod yn pleidleisio am naill ai blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
Caiff pleidleiswyr un papur pleidleisio a byddant yn rhoi croes [X] yn y blwch wrth ymyl y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol o’u dewis. Bydd y papur pleidleisio’n parhau i ddangos y rhestr lawn o ymgeiswyr ar restr y blaid wleidyddol.
Os yw plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu ragor o seddi yn y Senedd. Os yw ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.
Bydd seddi’n adlewyrchu canran y pleidleisiau y caiff pob plaid neu ymgeisydd annibynnol.
Pwy sy’n gwneud beth yn yr etholiadau hyn?
Mae’r Swyddog Canlyniadau ar gyfer pob etholaeth yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Swyddog Canlyniadau’n gyfrifol am sicrhau y gweinyddir yr etholiad yn effeithiol yn ei etholaeth, gan gynnwys trefnu gorsafoedd pleidleisio, argraffu papurau pleidleisio, penodi staff yr orsaf bleidleisio, cynnal y bleidlais, rheoli’r broses pleidleisiau post, a’r broses dilysu a chyfrif.
Pan fo etholaeth yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol, bydd y Swyddog Canlyniadau a benodwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos â phobl eraill ar faterion gweithredol.
Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a’r rhestr pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal. Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol fel arfer yn un o uwch swyddogion awdurdod lleol a gall fod y Swyddog Canlyniadau hefyd. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan.
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU.
Rydym yn cofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr di-blaid, yn monitro a chyhoeddi rhoddion i bleidiau gwleidyddol ac yn rheoleiddio gwario mewn rhai etholiadau. Rydym hefyd yn achredu arsylwyr er mwyn iddynt bod yn bresennol mewn prosesau etholiadol. Nid ydym yn cynnal etholiadau ond mae gennym gyfrifoldeb dros roi cyngor a chymorth ar faterion etholiadol i bawb sy’n ymwneud ag etholiadau. Rydym hefyd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr.
Dyma ein manylion cyswllt:
Y Comisiwn Etholiadol
Tŷ James William
9 Maes yr Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3BD
Rhif ffôn: 020 7271 0500
[email protected]
https://www.electoralcommission.org.uk/cy
Sesiynau Briffio
Bydd y Swyddog Canlyniadau’n cynnig sesiynau briffio i ymgeiswyr ac asiantiaid cyn yr etholiadau. Efallai y cewch fynd i’r sesiynau hyn a fydd yn eich helpu i ddeall y prosesau y mae gennych yr hawl i fod yn bresennol ynddynt a’u harsylwi. Os hoffech fynd i’r sesiynau briffio hyn, dylech gysylltu â’r swyddfa etholiadau berthnasol ymlaen llaw i drefnu eich presenoldeb.
Pleidleisio drwy’r post
Gall etholwyr ymgeisio i bleidleisio drwy’r post. Cynhyrchir yr holl ddeunyddiau etholiad yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r Swyddog Canlyniadau’n dechrau anfon pecynnau pleidleisio post i bleidleiswyr post tua phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio. Gall pleidleiswyr ddychwelyd eu pecynnau drwy’r post i’w cyngor lleol neu fynd â nhw i orsafoedd pleidleisio penodol ar y diwrnod pleidleisio. Mae’n rhaid dychwelyd pecynnau pleidleisio post cyflawn erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
Mae gennych yr hawl i fynd i’r sesiynau rhoi pecynnau pleidleisio post a’r sesiynau agor amlenni pleidleisiau post. Gallwch hefyd benodi asiant pleidleisio post i fod yn bresennol ar eich rhan. Gall y Swyddog Canlyniadau ddweud wrthych pryd a ble y cynhelir y sesiynau hyn.
Beth sy’n digwydd mewn sesiwn cyflenwi pleidleisiau post?
Mae’n debygol y bydd sawl sesiwn i roi pleidleisiau post. Gallai’r rhain gael eu cynnal mewn lleoliad argraffu allanol.
Yn y sesiwn gyflenwi, caiff pecynnau pleidleisio post eu rhoi at ei gilydd. Bydd y pecynnau’n cynnwys:
- Amlen A - dyma’r amlen y mae’r etholwr yn dychwelyd ei bapur(au) pleidleisio ynddi. Mae ganddi’r llythyren ‘A’ a’r geiriau ‘amlen papur pleidleisio’ arno
- Amlen B - dyma’r amlen y bydd yr etholwr yn ei defnyddio i ddychwelyd yr amlen papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio drwy’r post. Mae ganddi’r llythyren ‘B’ a chyfeiriad y Swyddog Canlyniadau arni
- Y datganiad pleidleisio drwy’r post - mae hwn yn cynnwys enw’r etholwr, rhif y papur(au) pleidleisio a roddir iddo, cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio drwy’r post a lle i’r etholwr lofnodi a nodi ei ddyddiad geni
- Y papur(au) pleidleisio
Bydd y pecynnau pleidleisio drwy’r post yna’n cael eu danfon i etholwyr, naill ai â llaw neu drwy’r post. Os yw’r etholiad wedi’i chyfuno â phleidlais arall, gall y Swyddog Canlyniadau anfon y papur(au) pleidleisio ar gyfer pob etholiad gyda’i gilydd neu ar wahân.
Pryd y caiff pleidleisiau post eu hagor?
Mae’n debygol y bydd nifer o sesiynau agor pleidleisiau post cyn y diwrnod pleidleisio, ac ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Gallwch gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau am fanylion y rhain yn eich ardal leol. Bydd hefyd sesiwn agor olaf yn cael ei chynnal ar ôl i’r pleidleisiau gau. Bydd pleidleisiau post a ddanfonwyd â llaw i orsafoedd pleidleisio’n cael eu hagor yn y sesiwn hon. Gellir cynnal y sesiwn hon yn y lleoliad cyfrif neu mewn lleoliad arall.
Beth sy’n digwydd mewn sesiwn agor pleidleisiau post?
Mae’n rhaid i bleidleiswyr post lenwi a dychwelyd datganiad pleidleisio drwy’r post sy’n cynnwys eu llofnod a’u dyddiad geni, yn ogystal â’u papur(au) pleidleisio.
Bydd y Swyddog Canlyniadau’n penderfynu a yw’r dyddiad geni a’r llofnod a roddwyd gan etholwyr ar eu datganiadau pleidleisio drwy’r post yn cyfateb â’r llofnod a’r dyddiad geni a roddwyd yn flaenorol gan yr etholwr ac sydd i’w cael ar ei gofnodion. Os nad ydynt yn cyfateb, bydd y bleidlais bost yn cael ei gwrthod.
Bydd ychydig bach iawn o bleidleiswyr wedi cael hepgoriad gan nad ydynt yn gallu llofnodi neu roi llofnod cyson oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. Nid oes angen i’r pleidleiswyr hyn lofnodi eu datganiad pleidleisio drwy’r post.
Y broses agor pleidleisiau post
- Cam 1: Agor blwch pleidleisio’r pleidleiswyr post.
- Cam 2: Cyfrif a chofnodi nifer y prif amlenni (Amlenni ‘B’).
- Cam 3: Agor y prif amlenni (amlenni ‘B’) a thynnu’r datganiad pleidleisio drwy’r post a’r amlen papur pleidleisio (amlen ‘A’).
- Cam 4: Marcio’r holl ddatganiadau pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd ar y rhestr pleidleisiau post/pleidleisiau post drwy ddirprwy i ddangos y dychwelwyd y datganiad.
Os nad yw holl rannau’r bleidlais bost wedi’i dychwelyd:
Cam 5: Nodwch y geiriau ‘gwrthodwyd dros dro’ ar yr amlen, ychwanegwch y cynnwys a’i rhoi yn y pecyn pleidleisiau a wrthodwyd. Ychwanegwch at y rhestrau fel bo’n briodol:
- rhestr y papurau pleidleisio a gafwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy’r post dilys (neu heb yr un ddatganiad).
- rhestr rhifau papur pleidleisio'r datganiadau pleidleisio drwy’r post a gafwyd heb bapur pleidleisio.
- Gweler Cam 4.
- Cam 1: Dilyswch y dynodwyr personol ar y datganiadau pleidleisio post a ddychwelwyd.
- Cam 2: Gwahanwch yr amlenni pleidleisio post o’r datganiadau pleidleisio post a chadwch y ddau mewn trefn.
- Cam 3: Pennwch y datganiadau pleidleisio drwy’r post hynny sydd heb ddyddiad geni a/neu lofnod neu pan nad yw un ohonynt/y ddau yn cyfateb â’r rhai a gedwir ar gofnod y dynodwr. Dyfarnwch y rhai hynny a gwrthodwch pan nad yw un ohonynt wedi’i gynnwys neu nad ydych chi’n fodlon bod y datganiad wedi’i gwblhau’n briodol.
- Caiff datganiadau pleidleisiau post annilys eu gwrthod. Caiff y datganiadau, y papur pleidleisio a’r amlenni eu marcio â ‘gwrthodwyd’ a’u rhoi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.
- Mae pleidleiswyr post sydd wedi cael hepgoriad angen rhoi eu dyddiad geni yn unig.
- Cam 4: Gwiriwch fod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy’r post yn cyfateb i’r rhif ar yr amlen papur pleidleisio (amlen “A”). Ar ôl cyfateb, rhowch y datganiadau pleidleisio post mewn pecyn a rhowch sêl ar y pecyn.
Os nad yw’r rhifau’n cyfateb:
- Cam 5: Agorwch yr amlen. Os yw’r papur pleidleisio’n cyfateb i’r datganiad, mae’n ddilys a dylai fynd i’r blwch pleidleisio drwy’r post. Dylai’r rhai nad ydynt yn cyfateb gael eu gwrthod dros dro (gweler isod).
- Cam 1: Agorwch amlenni’r papur pleidleisio (amlenni ‘A’)
Os yw’r papur pleidleisio y tu mewn i’r amlen:
- Cam 2: Tynnwch y papur(au) pleidleisio, gan sicrhau eu bod yn wynebu tuag at i lawr drwy’r amser.
- Cam 3: Gwiriwch fod y rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’) yn cyfateb i’r rhif ar gefn y papur pleidleisio.
- Cam 4: Cadwch y papurau pleidleisio yn wynebu tuag at i lawr drwy’r amser. Peidiwch ag edrych na chaniatáu i eraill edrych ar y pleidleisiau a farciwyd ar y papurau pleidleisio.
- Cam 5: Rhowch y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio drwy’r post neu flwch priodol ac ewch ymlaen i Gam 5.
Os nad yw rhif y papur pleidleisio’n cyfateb:
- Cam 2: Atodwch y papur pleidleisio i’r amlen.
- Cam 3: Nodwch ‘gwrthodwyd dros dro’ arno a’i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.
- Cam 4: Ychwanegwch at restr y papurau pleidleisio a gafwyd heb ddatganiad pleidleisio post dilys ac at restr rhifau papurau pleidleisio'r datganiadau pleidleisio post a gafwyd heb bapur pleidleisio.
Os nad oes papur pleidleisio yn yr amlen:
- Cam 2: Nodwch ‘gwrthodwyd dros dro’ arni a’i rhoi yn y blwch ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd.
- Cam 3: Ychwanegwch at restr rhifau papur pleidleisio’r datganiadau pleidleisio post a gafwyd heb bapur pleidleisio.
- Cam 1: I baru y dogfennau a wahanwyd, gwiriwch y ddwy restr gwrthod drwy eu cymharu â’r holl bapurau pleidleisio/datganiadau pleidleisio post a ddychwelwyd ar wahân i’w datganiad pleidleisio post/papur pleidleisio cyfatebol ac, os yn bosibl, dylech eu baru.
- Mae’n rhaid mynd â’r ddwy restr i’r sesiwn agor amlenni pleidleisiau post olaf i wneud unrhyw baru terfynol.
- Cam 2: Cofnodwch unrhyw baru llwyddiannus ar y rhestrau perthnasol.
- Cam 3: Rhowch y papurau pleidleisio nad ydynt yn cael eu trin fel rhai a wrthodwyd dros dro mwyach yn y blwch pleidleisiau post neu flwch priodol a rhowch y datganiadau pleidleisio post ategol yn y blwch priodol.
- Cam 1: Cyfrwch a chofnodwch gyfanswm y papurau pleidleisio, gan gadw’r papurau pleidleisio’n wynebu tuag at i lawr drwy’r amser.
- Nid yw’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif yn ystod y cam hwn.
- Cam 2: Rhowch y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisiau post. Mae’n rhaid i’r blwch gael ei selio ar ddiwedd pob sesiwn agor a’i gadw’n ddiogel.
- Cam 3: Cwblhewch gyfrif papur pleidleisio drwy’r post
Dyletswydd i gynnal cyfrinachedd
Bydd y Swyddog Canlyniadau’n rhoi copi o’r Angen am Gyfrinachedd statudol. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n mynd i sesiwn cyflenwi pleidleisiau post neu sesiwn agor gydymffurfio â hwn. Caiff papurau pleidleisio eu cadw â'u hwynebau i lawr drwy gydol sesiwn agor amlenni pleidleisiau post.
Ni ddylai unrhyw un sy’n mynd i sesiwn agor:
- ceisio gweld sut y marciwyd papurau pleidleisio unigol
- ceisio gweld marciau adnabod neu rifau ar bapurau pleidleisio
- datgelu sut y marciwyd unrhyw bapur pleidleisio penodol
- rhannu unrhyw wybodaeth a gafwyd o’r sesiwn
Gall rhywun a geir yn euog o dorri’r gofynion hyn wynebu dirwy anghyfyngedig, neu gall wynebu carchar am hyd at chwe mis.
Arsylwi mewn gorsafoedd pleidleisio
Mae gennych yr hawl i arsylwi y tu mewn i orsafoedd pleidleisio. Bydd y Swyddog Canlyniadau’n gallu rhoi rhestr i chi o’r holl orsafoedd pleidleisio yn yr ardal yr ydych eisiau arsylwi ynddi.
Efallai y bydd Swyddogion Canlyniadau wedi adolygu eu gorsafoedd pleidleisio ers yr etholiadau diwethaf ac efallai y bydd rhai newidiadau hwyr i orsafoedd pleidleisio os na fydd lleoedd ar gael. Cadwch lygad am newidiadau’n cael eu cyfathrebu drwy wefannau a/neu sianeli cyfryngau cymdeithasol yr awdurdod lleol.
Pryd y mae gorsafoedd pleidleisio ar agor?
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 7 Mai 2026. Mae gennych yr hawl i gyrraedd toc cyn hyn i arsylwi’r blwch/blychau pleidleisio’n cael eu selio cyn i’r bleidlais agor.
Sut y bydd tu mewn yr orsaf bleidleisio’n edrych?
Gall gosodiad pob gorsaf bleidleisio amrywio, ond gall edrych yn debyg i’r lluniau isod:
Pwy all bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio?
Gall unrhyw berson ar gofrestr etholiadol yr orsaf bleidleisio fwrw pleidlais yn yr orsaf bleidleisio oni bai:
- ei fod wedi cofrestru fel pleidleisiwr post
- ei fod yn bleidleisiwr drwy ddirprwy cofrestredig ac mae ei ddirprwy eisoes wedi pleidleisio ar ei ran neu wedi gwneud cais i bleidleisio ar ei ran drwy'r post
- ei fod yn iau nag 16 mlwydd oed ar y diwrnod pleidleisio
- ei fod wedi cofrestru fel etholwr tramor
Caiff etholwyr gerdyn pleidleisio cyn yr etholiad sy’n dweud wrthynt ym mhle y cânt bleidleisio. Nid oes angen i’r rhan fwyaf o etholwyr fynd â’u cerdyn pleidleisio i’r orsaf bleidleisio i bleidleisio. Yr unig etholwyr sydd angen mynd â’r cerdyn pleidleisio gyda nhw i bleidleisio yw’r rhai sydd wedi cofrestru’n ddienw oherwydd risgiau i’w diogelwch.
Ni ellir rhoi papur pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio i bleidleiswyr sydd wedi cofrestru am bleidlais bost. Gallant ddychwelyd eu pecyn pleidleisio post cyflawn i’w gorsaf bleidleisio neu unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal etholiadol berthnasol neu i’r Swyddog Canlyniadau yn y swyddfa etholiadau. Rhaid i becynnau pleidleisio drwy’r post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio gael eu rhoi i staff yr orsaf bleidleisio ac ni ddylid eu rhoi yn y blwch pleidleisio. Bydd staff yr orsaf bleidleisio’n cadw unrhyw bleidleisiau post yn ddiogel tan y cânt eu casglu.
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cyflwyno pleidlais bost naill ai mewn gorsaf bleidleisio neu i’r Swyddog Canlyniadau yn un o swyddfeydd y cyngor lenwi ffurflen pleidlais bost neu fel arall bydd y pleidlais bost yn cael ei gwrthod.
Pwy all fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio?
Mae gan y bobl ganlynol hawl yn ôl y gyfraith i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio:
- y Swyddog Canlyniadau a’i staff
- y Swyddog Llywyddu a chlercod
- pleidleiswyr
- unigolion ieuengach na’r oedran pleidleisio sydd yng nghwmni pleidleiswyr
- cymdeithion pleidleiswyr anabl
- ymgeiswyr a’u hasiantiaid etholiad
- asiantiaid pleidleisio
- swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol ar ddyletswydd yn yr orsaf bleidleisio
- cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol
- arsylwyr sydd wedi’u hachredu gan y Comisiwn Etholiadol
- unigolion 16 mlwydd oed neu hŷn sy’n cyflwyno pleidleisiau post
Beth yw gwaith asiantiaid pleidleisio?
Gall ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol benodi asiantiaid pleidleisio i fod yn bresennol mewn unrhyw orsaf bleidleisio. Prif rôl asiant pleidleisio yw canfod cam-bersonadu (pan fo unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall - p’un a yw’r person hwnnw’n fyw, yn farw neu’n berson dychmygol).
Mae’r dyletswyddau eraill y gall yr asiantiaid pleidleisio eu gwneud yn cynnwys:
- gwirio bod y blwch pleidleisio yn wag am 7am
- bod yn bresennol pan mae’r Swyddog Llywyddu’n marcio papur pleidleisio ar ran pleidleisiwr
- bod yn bresennol ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio i arsylwi’r blwch pleidleisio a phecynnau eraill yn cael eu selio
- ychwanegu eu sêl eu hunain i’r blwch pleidleisio neu unrhyw becyn yn ychwanegol i’r sêl swyddogol ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.
Beth sy’n digwydd mewn gorsaf bleidleisio?
- gofyn i bleidleiswyr am eu henw a’u cyfeiriad, a gwneud yn siŵr eu bod yn gymwys i bleidleisio
- rhoi llinell syth drwy gofnod y pleidleisiwr ar y gofrestr etholwyr
- ysgrifennu rhif yr etholwr ar restr wrth ymyl rhif(au) y papur(au) pleidleisio sydd i’w rhoi
- sicrhau bod y papur(au) pleidleisio’n cynnwys y marc swyddogol (e.e. cod bar neu ddyfrnod)
- plygu’r papur(au) pleidleisio ac yna’u rhoi heb eu plygu i’r pleidleisiwr fel y gall weld yr holl opsiynau ar y papur(au) pleidleisio
- marcio’r papur(au) pleidleisio yn breifat yn y bwth pleidleisio
- plygu’r papur(au) pleidleisio a dangos rhif(au) y papur pleidleisio a’r marc adnabod unigryw ar gefn y papur(au) pleidleisio i’r Swyddog Llywyddu
- rhoi’r papur(au) pleidleisio yn y blwch/blychau pleidleisio a gadael yr orsaf bleidleisio
Gellir defnyddio un blwch pleidleisio ar gyfer yr holl etholiadau neu gellir defnyddio un blwch ar gyfer pob etholiad gwahanol.
Dogfen Etholwr Dienw
Bydd angen i etholwyr dienw sy’n dymuno pleidleisio yn bersonol ddangos Dogfen Etholwr Dienw. Yr unig ffordd o wneud cais am ddogfen Etholwr Dienw yw drwy ysgrifennu i ofyn am un gan ddefnyddio ffurflen gais bapur. Gall eich Swyddog Canlyniadau lleol roi’r ffurflen hon i’r etholwr ar gais. Gall y ffurflen gais yna gael ei dychwelyd gan yr etholwr i’r Swyddog Canlyniadau drwy’r post, danfon â llaw neu drwy e-bostio copi wedi’i sganio.
Pa gymorth sydd ar gael i bleidleiswyr anabl?
Drwy ein gwaith gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau rydym wedi nodi ystod o gyfarpar a all helpu i chwalu’r rhwystrau hysbys a ddaw i ran pobl anabl. Dylid darparu o leiaf y cyfarpar canlynol ym mhob gorsaf bleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl:
mae hyn yn rhoi lle gorffwys i bleidleiswyr nad ydynt yn gallu sefyll am gyfnodau hir a sedd i bleidleiswyr a fyddai’n hoffi cael eiliad i feddwl cyn mynd i’r bwth pleidleisio
gall y rhain fod o gymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i bleidleisio’n annibynnol drwy chwyddo maint testun ar ddogfen
mae dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy o gymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i farcio eu pleidlais ar y papur pleidleisio yn y lle cywir, cyn belled â’i fod wedi’i osod ar y papur pleidleisio'n gywir. Mae’n ffaith eu bod yn gymorth i lenwi’r papur pleidleisio pan fo pleidleiswyr ag amhariad ar eu golwg yn gwybod ym mhle ar y papur pleidleisio y mae enw’r ymgeisydd y maent yn dymuno pleidleisio drosto. Nid ydynt yn caniatáu i bleidleiswyr dall bleidleisio'n annibynnol oni bai bod ganddynt wybodaeth hygyrch hefyd am drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio
yn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn yn gallu cyrchu arwyneb ysgrifennu is i sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol mewn bwth hygyrch
bathodynnau i adnabodd staff yr orsaf bleidleisio – mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr i adnabod yn haws pwy sy'n aelod staff yn yr orsaf bleidleisio ac felly gellir gofyn iddynt am gymorth.
gall y rhain helpu pleidleiswyr ag amhariad ar eu medrusrwydd i ddal a defnyddio pensil yn haws ar eu pen eu hunain
mae’r rhain yn helpu pleidleiswyr sy’n defnyddio cadair olwyn neu sy’n cael trafferth defnyddio grisiau i fynd i mewn i orsaf bleidleisio
dyma ffyrdd i bleidleiswyr roi gwybod i staff yr orsaf bleidleisio eu bod angen cymorth i agor y drws i allu dod i mewn i’r orsaf bleidleisio. Nid oes angen gosod y rhain yn barhaol mewn adeilad a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio ond gellir eu gosod dros dro ar fwrdd neu gadair lefel hygyrch wrth ymyl unrhyw ddrysau sydd rhaid eu cadw ar gau
mae gan rai lleoliadau gorsafoedd pleidleisio oleuadau da ond efallai y bydd angen goleuadau ychwanegol ar eraill wrth y ddesg; i sicrhau y gall pleidleiswyr weld wynebau staff yn glir, ac yn y bythau pleidleisio; i gynorthwyo pleidleiswyr ag amhariad ar eu golwg i allu darllen a llenwi’r papur pleidleisio
mae hyn yn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl barcio mor agos â phosibl at yr orsaf bleidleisio
er gwybodaeth yn unig
Gall pleidleiswyr sydd wedi colli eu golwg ddefnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu gario cyfarpar cynorthwyol maint poced, megis dyfais chwyddo fideo i’w helpu i ddarllen dogfennau. Gellir defnyddio’r rhain ar y cyd â’r templed. Efallai bod y Swyddog Canlyniadau hefyd wedi darparu chwyddwydrau i gynorthwyo pleidleisio heb gymorth.
Os nad yw pleidleisiwr yn gallu marcio papur pleidleisio ei hun oherwydd anabledd, gall y Swyddog Llywyddu neu gydymaith ei farcio drosto. Mae’n rhaid i’r pleidleisiwr ddweud wrth staff yr orsaf bleidleisio mai dyma’r ffordd y mae eisiau pleidleisio a’r rheswm pam.
Os yw cydymaith yn marcio’r papur pleidleisio i bleidleisiwr, bydd gofyn iddo lenwi ffurflen. Ni all cydymaith gynorthwyo mwy na dau etholwr i bleidleisio mewn etholiad.
Gall etholwyr gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau i egluro unrhyw anghenion penodol o ran mynediad sydd ganddynt. O ganlyniad, efallai bydd cyfarpar ychwanegol mewn gorsafoedd pleidleisio penodol pan mae’r Swyddog Canlyniadau wedi neilltuo cyfarpar penodol i fodloni’r anghenion mynediad hynny.
Pwy yw Rhifwyr?
Mae rhifwyr yn sefyll y tu allan i orsafoedd pleidleisio ac maent yn cofnodi rhifau etholwyr y bobl sydd wedi pleidleisio. Gallant yna nodi cefnogwyr tebygol nad ydynt wedi pleidleisio hyd yn hyn a’u hannog i bleidleisio cyn i’r gorsafoedd pleidleisio gau.
Nid oes gan rifwyr unrhyw statws cyfreithiol, a gall pleidleiswyr wrthod rhoi gwybodaeth iddynt.
Beth sy’n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau?
Mae’r gorsafoedd pleidleisio’n cau am 10pm. Bydd unrhyw bleidleiswyr sy’n sefyll mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm yn cael pleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael eu papur(au) pleidleisio.
Ar ôl i bob pleidleisiwr sydd wedi cael papur(au) pleidleisio fwrw ei bleidlais, mae’n rhaid i’r Swyddog Llywyddu selio’r blwch pleidleisio. Gall ymgeiswyr, asiantiaid ac asiantiaid pleidleisio ychwanegu eu sêl eu hun os ydynt yn dymuno.
Mae’n rhaid i’r Swyddog Llywyddu yna lenwi sawl ffurflen swyddogol:
- y cyfrif papur pleidleisio (sy’n nodi faint o bapurau pleidleisio a roddwyd)
- y rhestr o bleidleiswyr anabl a gafodd gymorth gan gymdeithion
- y rhestr bleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- y datganiad o nifer y pleidleiswyr y marciwyd eu pleidleisiau gan y Swyddog Llywyddu
- y rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd
- y Rhestr Gwrthod Papur Pleidleisio (BPRL).
Dyletswydd i gynnal cyfrinachedd yn yr orsaf bleidleisio
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n mynd i orsaf bleidleisio gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Yn benodol, ni ddylid datgelu’r wybodaeth ganlynol:
- enw neu rif etholiadol y sawl sydd wedi pleidleisio neu heb bleidleisio
- rhif neu unrhyw farc adnabod unigryw arall ar bapur pleidleisio
Ni ddylai unrhyw un sy’n mynd i orsaf bleidleisio geisio gweld sut y mae pleidleisiwr wedi pleidleisio neu bwy y mae ar fin pleidleisio drosto. Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o’r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapurau pleidleisio. Os yw’r asiant pleidleisio’n gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio, mae’n rhaid iddo adael copi a farciwyd o’r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio i sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd.
Gall unrhyw unigolyn y’u cafwyd yn euog o dorri’r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy ddigyfyngiad, neu gallant gael eu carcharu am hyd at chwe mis.
Arsylwi’r broses dilysu a chyfrif
Mae gennych hawl i fynd i’r broses dilysu a chyfrif. Caniateir i chi arsylwi’r broses yn unig. Ni chaniateir i chi fynd i’r ardal dan gyfyngiad lle mae staff yn cyfri’r pleidleisiau. Mae gan Swyddogion Canlyniadau’r hawl i gyfyngu nifer yr arsylwyr a all fod yn bresennol ar un tro yn ystod y broses dilysu a chyfrif.
Mae’r Swyddog Canlyniadau’n gyfrifol am ddilysu a chyfri’r pleidleisiau a fwriwyd yn ei ardal. Maent gyfrifol am ddatgan y canlyniadau.
Gall y Swyddog Canlyniadau ddweud wrthych pryd a ble y cynhelir y sesiynau cyfrif.
Pwy all fod yn bresennol yn y cyfrif?
Mae gan y bobl ganlynol hawl yn ôl y gyfraith i fod yn bresennol yn y broses dilysu a chyfrif:
- Swyddog Canlyniadau a’u staff
- ymgeiswyr ac un gwestai
- asiantiaid etholiad (neu is-asiant ar eu rhan)
- asiantiaid cyfrif
- Cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol
- arsylwyr sydd wedi’u hachredu gan y Comisiwn Etholiadol
- unrhyw berson arall a ganiateir gan y Swyddog Canlyniadau
Gall y Swyddog Canlyniadau ganiatáu cynrychiolwyr y cyfryngau i fod yn bresennol yn y broses dilysu a chyfrif.
Ni ddylent ymyrryd â’r broses na pheryglu cyfrinachedd y bleidlais.
Beth yw gwaith asiantiaid cyfrif?
Mae gan asiantiaid cyfrif nifer o rolau pwysig i'w chwarae yn y cyfrif:
- maent yn arsylwi’r broses gyfrif ac yn gwneud yn siŵr ei bod yn gywir
- gallant dynnu sylw staff y cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
- os ydynt yn anghytuno â phenderfyniad y Swyddog Canlyniadau i wrthod papur pleidleisio, gallant ofyn i’r Swyddog Canlyniadau nodi “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” ar y papur pleidleisio
- os caiff cyfrif ei wahardd dros dro am unrhyw reswm, gall asiantiaid cyfrif ychwanegu eu seliau pan fo hyn yn digwydd. Mae'r broses hon yn sicrhau hygrededd y bleidlais yn ystod unrhyw doriad yn y gweithrediadau.
Beth yw dilysu?
Ar ôl i orsafoedd pleidleisio gau am 10pm, caiff y blychau pleidleisio eu danfon i’r lleoliad cyfrif. Bydd papurau pleidleisio drwy’r post a gafwyd ac a agorwyd ynghynt hefyd yn cael eu cludo i’r lleoliad mewn blychau pleidleisio wedi selio.
Mae’n rhaid i’r holl bapurau pleidleisio yna gael eu dilysu. Gellir cynnal y broses hon yn syth ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio, neu’r diwrnod canlynol cyn y cyfrif. Mae gan y dilysu dau brif ddiben:
- sicrhau bod papurau pleidleisio post a ddychwelwyd wedi cyrraedd y cyfrif
- darparu’r ffigwr a ddylai gyfateb i ganlyniad y cyfrif
Bydd nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch yn cael eu cyfrif a’i gymharu â’r rhif ar y cyfrif papur pleidleisio. Os yw nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch yn cyfateb i’r cyfrif papur pleidleisio, mae dilysu’r blwch hwnnw wedi ei gwblhau. Os nad yw’r rhifau’n cyfateb, caiff y papurau pleidleisio eu hail-gyfrif a chaiff y dogfennau eu gwirio eto. Bydd y broses hon yn parhau tan fod y Swyddog Canlyniadau yn fodlon â nifer y papurau pleidleisio sydd i’w cynnwys yn y cyfrif.
Sut y caiff y pleidleisiau eu cyfrif?
Ar ôl i’r cam dilysu gael ei gwblhau, mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau gymysgu papurau pleidleisio post a rhai’r orsaf bleidleisio cyn trefnu a chyfrif y pleidleisiau. Cynhelir y cyfrif y diwrnod ar ôl y bleidlais. Dylid cadw’r papurau pleidleisio tuag at i fyny drwy’r amser a sicrhau bod unrhyw ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr sy’n bresennol yn gallu eu gweld drwy’r amser. Dylid rhoi unrhyw bapurau pleidleisio amheus o’r neilltu ar gyfer dyfarnu.
Bydd staff yn cyfrif nifer y pleidleisiau a fwriwyd i bob plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol ym mhob etholiad.
Rhoddir chwe sedd i bob etholaeth eu llenwi. Dyrannir seddi’n seiliedig ar nifer y pleidleisiau y caiff pob plaid neu ymgeisydd annibynnol, a chan ddefnyddio fformiwla fathemategol o’r enw d’Hondt, bydd y Swyddog Canlyniadau’n datgan pwy sydd wedi cael eu hethol ar ôl i’r broses gyfrif ddod i ben.
Beth yw papurau pleidleisio amheus?
Papur pleidleisio amheus yw papur pleidleisio nas cwblheir yn unol â’r cyfarwyddiadau. Yn ystod y cyfrif, caiff y papurau pleidleisio hyn eu rhoi i un ochr. Bydd y Swyddog Canlyniadau’n dyfarnu’r papurau pleidleisio hyn yn rheolaidd drwy gydol y cyfrif i bennu a yw bwriad y pleidleisiwr i’w weld yn amlwg ar y papur pleidleisio.
Cyhoeddir bod dyfarnu papurau pleidleisio amheus ar fin digwydd. Bydd y Swyddog Canlyniadau’n penderfynu a yw pob papur pleidleisio amheus yn ddilys yng nghwmni ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr. Gallwch fynd i’r broses ddyfarnu, ond ni chaiff ei gohirio os nad ydych chi’n bresennol.
Bydd y Swyddog Canlyniadau’n rhoi gwybod i’r rhai sy’n bresennol a yw pob papur pleidleisio amheus yn ddilys a’r rheswm dros ei benderfyniad. Mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau’n derfynol a chaiff ei herio gan ddeiseb etholiadol yn unig.
Mae’n rhaid i unrhyw bapurau pleidleisio amheus a ddatganwyd fel rhai dilys gael eu cyfrif a’u cynnwys yng nghyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol priodol.
Ni chaiff papur pleidleisio ei gyfrif os:
- nad yw wedi ei farcio
- nad yw'n cynnwys y marc swyddogol
- yw’n cynnwys mwy nag un bleidlais
- yw’n cynnwys unrhyw farc neu ysgrifen sy'n gallu datgelu pwy yw'r pleidleisiwr
- nad yw’n dangos yn amlwg beth yw bwriad y pleidleisiwr
Mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau nodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio a wrthodwyd ac mae’n rhaid iddo lunio datganiad sy’n dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd am y rhesymau hyn.
Beth sy’n digwydd os yw ymgeiswyr yn cael yr un faint o bleidleisiau?
Os oes gan ddau neu ragor o ymgeiswyr yr un faint o bleidleisiau, mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau benderfynu rhyngddynt drwy ddewis ar hap. Mae’r dull i wneud hynny yn ôl disgresiwn y Swyddog Canlyniadau.
Dyletswydd i gynnal cyfrinachedd
Mae gan unrhyw un sy’n mynd i’r broses gyfrif ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y cyfrif. Yn benodol, ni ddylai unrhyw un sy’n bresennol:
- gweld neu geisio gweld y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio
- rhannu unrhyw wybodaeth a gafwyd yn y cyfrif o ran y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol y bwriwyd unrhyw bleidlais iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
Cyflwyno adborth
Rydym yn croesawu adborth gan eich arsylwyr etholiadol a gallwch ei gyflwyno’n defnyddio ein ffurflen adborth.
Os hoffech gyflwyno adborth ynghylch yr etholiadau hyn, y dyddiad cau ar gyfer ystyried adborth yw dydd Gwener 5 Mehefin 2026.
Gellir rhannu adborth â Swyddogion Canlyniadau perthnasol i helpu i wella prosesau cynnal etholiadau a’r cynllun arsylwi.
Os hoffech anfon adborth mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost at [email protected].