Arsylwi mewn etholiadau a refferenda

What electoral observers do

Un o'n rolau yw i awdurdodi pobl a sefydliadau i arsylwi etholiadau a refferenda perthnasol y DU.

Mae angen i chi wneud cais i fod yn arsyllwr etholiadol achrededig os ydych am arsylwi'r canlynol:

  • rhoi neu dderbyn papurau pleidleisio post
  • cynnal y bleidlais
  • cyfri'r pleidleisiau

Gallwch wneud cais fel arsyllwr unigol neu fel sefydliad.

Mae angen i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn i fod yn arsyllwr etholiadol.

Sylwer - er mwyn cael eich achredu fel Arsyllwr Etholiadol cyn etholiadau 4 Gorffennaf, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch cais erbyn dydd Iau 13 Mehefin. Er y byddwn yn parhau i brosesu pob cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, ni allwn warantu y byddant yn cael eu prosesu mewn pryd i chi allu arsylwi ar 4 Gorffennaf.