Cod Ymarfer

Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer arsyllwyr etholiadol yn cynnwys gwybodaeth ynghylch:

  • dod yn Arsyllwr Etholiadol
  • y safonau y disgwylir gan arsyllwyr
  • hwyluso arsyllwyr etholiadol

Os fyddwch yn dod yn arsyllwr etholiadol, bydd angen i chi fodloni'r safonau yn y cod. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • parchu cyfreithiau'r Deyrnas Unedig ac awdurdod cyrff etholiadol
  • bod yn wleidyddol amhleidiol drwy'r amser
  • cynnal gofynion cyfrinachedd
  • peidio â rhwystro'r broses etholiadol
  • darparu ID addas (eich bathodyn arsyllwr achrededig)
  • ymddwyn mewn modd addas