Return to The Electoral Commission Homepage

Hustings intro Welsh

Mae'r daflen ffeithiau hon ar gyfer unrhyw un sy'n trefnu hustyngau.

Hustyngau

Cyfarfod yw hustyngau lle mae ymgeiswyr etholiadol neu bleidiau yn cynnal dadl ar bolisïau ac yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa. Mae hustyngau yn rhoi cyfle i bleidleiswyr glywed barn ymgeiswyr neu bleidiau.

Pan gaiff pob ymgeisydd neu blaid sy'n sefyll eu gwahodd, nid yw hustyngau yn rhoi budd i unrhyw ymgeisydd na phlaid benodol oherwydd caiff pob un y cyfle i siarad ac i wynebu cwestiynau.

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio pryd mae gwariant ar hustyngau angen cael eu rheoleiddio a phryd nad ydynt angen cael eu rheoleiddio.

Nid yw rhai hystyngau yn cael eu ysytried fel bod yn ceisio hyrwyddo unrhyw bleidiau neu ymgeiswyr dros eraill. Rydym yn eu galw'n 'hustyngau annetholus'. Ni chaiff gwariant ar hustyngau annetholus ei reoleiddio ac nid oes angen i neb roi gwybod amdano.

Mae’r canllawiau hefyd yn esbonio sefyllfaoedd lle mae hustyngau'n rhoi budd i'r ymgeiswyr neu'r pleidiau sy'n bresennol. Galwn y rhain yn ‘hustyngau detholus’. Yn yr achos hwn gall fod angen i’r trefnydd hustyngau neu’r ymgyrchydd neu barti roi cyfrif am y gwariant yn eu ffurflenni gwariant.

Cewch hefyd ddewis a yw eich hustyngau yn ddetholus neu'n annetholus.

Log newidiadau

Dyddiad y diweddariadDisgrifiad o'r newid
Tachwedd 2023Rydym wedi diweddaru Elusennau sy'n rhedeg hystyngau i adlewyrchu newid Deddf Etholiadau 2022

Hustyngau annetholus

Hustyngau annetholus yw hustyngau na ellir eu gweld yn rhesymol fel y'u bwriedir i ddylanwadu pleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu gategorïau o ymgeiswyr.

Yn ein barn ni, bydd eich hustyngau yn annetholus os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi gwahodd pob ymgeisydd neu blaid y gwyddoch sy'n sefyll yn yr etholaeth, rhanbarth neu ardal etholiadol arall, neu
  • mae gennych resymau diduedd dros beidio â gwahodd rhai ymgeiswyr neu bleidiau

Gall resymau diduedd ddeillio o'r ystyriaethau canlynol:

  • adnoddau a phethau ymarferol eraill sy'n cyfyngu ar nifer y rhai y gellir eu gwahodd, er enghraifft amser neu le
  • pryderon ynghylch diogelwch
  • amlygrwydd lleol rhai pleidiau neu ymgeiswyr dros eraill
  • nifer y cynrychiolwyr etholedig ar lefel leol neu genedlaethol
  • canlyniadau etholiad diweddar yn yr ardal 
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024

Hustyngau annetholus: Argymhellion arfer da

Os penderfynwch beidio â gwahodd pob ymgeisydd am resymau diduedd, mae rhai argymhellion arfer da y dylech eu dilyn er mwyn sicrhau nad yw eich hustyngau yn hyrwyddo ymgeiswyr na phleidiau penodol yn fwy nag eraill:

  • Hysbysu'r gynulleidfa yn y cyfarfod am unrhyw ymgeiswyr neu bleidiau sy'n sefyll na chawsant eu gwahodd
  • Bod yn barod i egluro eich rhesymau diduedd i ymgeiswyr neu bleidiau nad ydych wedi'u gwahodd
  • Gwneud yn siŵr bod ymgeiswyr neu bleidiau a wahoddwch yn cynrychioli amrywiaeth rhesymol o safbwyntiau, o rannau gwahanol o'r sbectrwm gwleidyddol
  • Rhoi cyfle teg i bob ymgeisydd neu gynrychiolydd plaid a fydd yn bresennol ateb cwestiynau a, lle y bo'n briodol, roi cyfle rhesymol iddynt ymateb i bwyntiau a wnaed yn eu herbyn gan ymgeiswyr neu gynrychiolwyr pleidiau eraill
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024

Hustyngau detholus

Hustyngau detholus yw hustyngau y gellir eu gweld yn rhesymol fel y'u bwriedir i ddylanwadu pleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu gategorïau o ymgeiswyr - er enghraifft, os ydych yn gwahodd rhai ymgeiswyr neu bleidiau i'ch hustyngau ac nid oes gennych resymau diduedd dros beidio â gwahodd y lleill.

Gallai gwariant ar hustyngau detholus, mewn rhai amgylchiadau, gael ei reoleiddio a gall gyfrif tuag at eich terfyn gwariant, neu drothwy cofrestru yn y cyfnod cyn etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024

Rhoi cyfrif am y gwariant

Os ydych yn cynnal hustyngau annetholus, ni chaiff eich gwariant ei reoleiddio.

Fel arfer mae gwariant ar hustyngau yn isel ac mae'n anhebygol y bydd gwariant ar hysting detholus yn unig yn golygu eich bod am gyrraedd eich terfyn gwario neu gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol.

Os ydych yn cynnal hustyngau detholus, dylech gadw cofnod o’r hyn rydych yn ei wario ynghyd ag unrhyw wariant arall ar ymgyrchu rheoledig, a byddwch yn ymwybodol o'r trothwyon cofrestru a'r terfynau gwariant.

Mae cyfyngiadau gwariant ym mhob etholiad. Yn ystod y cyfnod rheoledig cyn rhai etholiadau mawr, bydd yn ofynnol i ymgyrchwyr gofrestru os ydyn nhw'n gwario dros swm penodol.

Os ydych yn gwario llawer o arian ar drefnu hustyngau detholus, neu os ydych yn gwneud unrhyw weithgarwch ymgyrchu arall yn ystod cyfnod a reoleiddir, yna efallai bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r trothwyon cofrestru a therfynnau gwariant.

Mae rhagor a fanyloin ar gael ar ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr neu ein canllawiau ar gyfer pleidiau.

Gwariant ymgeisydd neu barti

Mewn rhai achosion bydd rhaid i'r ymgeisydd neu'r blaid roi cyfrif am y gwariant a wneid ar hustyngau dethol. Gall hyn fod yn wir am hustyngau mewn unrhyw etholiad.

  • Os yw ymgeisydd neu blaid yn talu ffi i fynychu'r hustyngau (p'un a yw'n ddetholus neu'n annetholus), bydd hyn yn cyfrif fel gwariant etholiad a rhaid ei adrodd yn y ffurflen berthnasol.
  • Mewn rhai hustyngau, bydd costau cynnal y digwyddiad yn cyfrif fel gwariant etholiad ar gyfer yr ymgeiswyr neu'r pleidiau dan sylw. Bydd hyn yn wir os yw'r hustyngau yn cael eu rhedeg er budd yr ymgeiswyr neu'r pleidiau hynny.

Os ydych chi'n credu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â ni cyn i chi ddal yr hustyngau. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024

Diogelwch a hygyrchedd

Nid ydym yn rheoleiddio'r modd y caiff hustyngau eu cynnal na'u rheoli.

Ond os ydych yn trefnu hustyngau, rydym yn argymell eich bod yn ystyried beth fyddwch yn ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch y cynrychiolwyr a fydd yn bresennol yn eich digwyddiad, ac er mwyn rheoli’r digwyddiad yn effeithiol.

Mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr fynediad i wybodaeth i’w galluogi i wneud penderfyniad gwybodus pan fyddant yn bwrw eu pleidlais. Dylech feddwl felly sut y byddwch yn gwneud eich digwyddiad yn hygyrch.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024

Elusennau sy'n rhedeg hustyngau

Os ydych chi'n elusen sy'n rhedeg hustyngau, rydym yn argymell eich bod chi'n darllen y canllawiau gan y rheolydd elusennol perthnasol:

Rhan o'r DURheoleiddiwr
Cymru a LloegrComisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
Yr AlbanOSCR
Gogledd IwerddonComisiwn Elusennau Gogledd Iwerddo

Rhaid i elusennau beidio â chefnogi na gwrthwynebu unrhyw blaid wleidyddol nac ymgeisydd penodol. Un ffordd o sicrhau nad yw elusen yn gwneud hyn yw cynnal hystingau ddi-ddethol sy'n cynnwys ymgeiswyr o sbectrwm gwleidyddol mor eang â phosib.

Mewn rhai amgylchiadau, mae cyfraith elusennol yn caniatáu i elusennau beidio â gwahodd ymgeisydd neu blaid ar sail eu barn neu eu polisïau.

Er enghraifft, dywed Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr y gallai hyn fod yn berthnasol i:

“cynrychiolydd o blaid wleidyddol sy’n dadlau dros bolisïau sy’n groes i amcanion yr elusen, neu byddai ei bresenoldeb neu farn yn debygol o dramgwyddo cefnogwyr yr elusen.”

Er eu bod yn glir y:

“byddai’n rhaid i elusen gael rhesymau cryf iawn dros benderfynu peidio â gwahodd plaid wleidyddol brif ffrwd.” (Elusennau, Etholiadau a Refferenda)

Gellir ei gyfiawnhau i elusen gynnal hystingau o'r math hwn.

Serch hyn, yn ein barn ni, os penderfynwch beidio â gwahodd plaid neu ymgeisydd ar sail eu barn neu eu polisïau, nid yw hyn yn rheswm diduedd, yr ydym wedi ei ddiffinio yn ein canllawiau Byddai'r hustyngau felly yn ddetholus.

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae cyfreithiau ar wariant, rhoddion ac adrodd sy'n gymwys yn dibynnu ar faint rydych yn ei wario ar etholiad cyffredinol Senedd y DU, gan ddechrau gyda gwario dros £700.

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn ac yn dilyn hynny byddant yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau. Dim ond mathau penodol o endidau sy’n cael cyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024