Rhaid i elusennau beidio â chefnogi na gwrthwynebu unrhyw blaid wleidyddol nac ymgeisydd penodol. Un ffordd o sicrhau nad yw elusen yn gwneud hyn yw cynnal hystingau ddi-ddethol sy'n cynnwys ymgeiswyr o sbectrwm gwleidyddol mor eang â phosib.
Mewn rhai amgylchiadau, mae cyfraith elusennol yn caniatáu i elusennau beidio â gwahodd ymgeisydd neu blaid ar sail eu barn neu eu polisïau.
Er enghraifft, dywed Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr y gallai hyn fod yn berthnasol i:
“cynrychiolydd o blaid wleidyddol sy’n dadlau dros bolisïau sy’n groes i amcanion yr elusen, neu byddai ei bresenoldeb neu farn yn debygol o dramgwyddo cefnogwyr yr elusen.”
Er eu bod yn glir y:
“byddai’n rhaid i elusen gael rhesymau cryf iawn dros benderfynu peidio â gwahodd plaid wleidyddol brif ffrwd.” (Elusennau, Etholiadau a Refferenda)
Gellir ei gyfiawnhau i elusen gynnal hystingau o'r math hwn.
Serch hyn, yn ein barn ni, os penderfynwch beidio â gwahodd plaid neu ymgeisydd ar sail eu barn neu eu polisïau, nid yw hyn yn rheswm diduedd, yr ydym wedi ei ddiffinio yn ein canllawiau Byddai'r hustyngau felly yn ddetholus.
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae cyfreithiau ar wariant, rhoddion ac adrodd sy'n gymwys yn dibynnu ar faint rydych yn ei wario ar etholiad cyffredinol Senedd y DU, gan ddechrau gyda gwario dros £700.
Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn ac yn dilyn hynny byddant yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau. Dim ond mathau penodol o endidau sy’n cael cyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn.