Mae'r daflen ffeithiau hon ar gyfer unrhyw un sy'n trefnu hustyngau.
Hustyngau
Cyfarfod yw hustyngau lle mae ymgeiswyr etholiadol neu bleidiau yn cynnal dadl ar bolisïau ac yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa. Mae hustyngau yn rhoi cyfle i bleidleiswyr glywed barn ymgeiswyr neu bleidiau.
Pan gaiff pob ymgeisydd neu blaid sy'n sefyll eu gwahodd, nid yw hustyngau yn rhoi budd i unrhyw ymgeisydd na phlaid benodol oherwydd caiff pob un y cyfle i siarad ac i wynebu cwestiynau.
Mae'r canllawiau hyn yn esbonio pryd mae gwariant ar hustyngau angen cael eu rheoleiddio a phryd nad ydynt angen cael eu rheoleiddio.
Nid yw rhai hystyngau yn cael eu ysytried fel bod yn ceisio hyrwyddo unrhyw bleidiau neu ymgeiswyr dros eraill. Rydym yn eu galw'n 'hustyngau annetholus'. Ni chaiff gwariant ar hustyngau annetholus ei reoleiddio ac nid oes angen i neb roi gwybod amdano.
Mae’r canllawiau hefyd yn esbonio sefyllfaoedd lle mae hustyngau'n rhoi budd i'r ymgeiswyr neu'r pleidiau sy'n bresennol. Galwn y rhain yn ‘hustyngau detholus’. Yn yr achos hwn gall fod angen i’r trefnydd hustyngau neu’r ymgyrchydd neu barti roi cyfrif am y gwariant yn eu ffurflenni gwariant.
Cewch hefyd ddewis a yw eich hustyngau yn ddetholus neu'n annetholus.