Os penderfynwch beidio â gwahodd pob ymgeisydd am resymau diduedd, mae rhai argymhellion arfer da y dylech eu dilyn er mwyn sicrhau nad yw eich hustyngau yn hyrwyddo ymgeiswyr na phleidiau penodol yn fwy nag eraill:
Hysbysu'r gynulleidfa yn y cyfarfod am unrhyw ymgeiswyr neu bleidiau sy'n sefyll na chawsant eu gwahodd
Bod yn barod i egluro eich rhesymau diduedd i ymgeiswyr neu bleidiau nad ydych wedi'u gwahodd
Gwneud yn siŵr bod ymgeiswyr neu bleidiau a wahoddwch yn cynrychioli amrywiaeth rhesymol o safbwyntiau, o rannau gwahanol o'r sbectrwm gwleidyddol
Rhoi cyfle teg i bob ymgeisydd neu gynrychiolydd plaid a fydd yn bresennol ateb cwestiynau a, lle y bo'n briodol, roi cyfle rhesymol iddynt ymateb i bwyntiau a wnaed yn eu herbyn gan ymgeiswyr neu gynrychiolwyr pleidiau eraill