Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Ynglŷn â'r canllawiau hyn

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae cyfreithiau ar wariant, rhoddion ac adrodd sy'n gymwys yn dibynnu ar faint rydych yn ei wario ar etholiad cyffredinol Senedd y DU, gan ddechrau gyda gwario dros £700. Mae'r gyfraith yn nodi faint y gall unigolion a sefydliadau penodol ei wario, a'r gofynion cofrestru ac adrodd a fydd yn gymwys.

Rydym yn galw unigolion a sefydliadau sy’n ystyried ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad ond nad ydynt yn sefyll fel plaid wleidyddol neu ymgeisydd yn ‘ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau’. Mae pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn hanfodol i ddemocratiaeth iach, ac rydym yn annog cyfranogiad gweithredol gan ymgyrchwyr.

Mae cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ddewis dilys i ymgyrchwyr ei wneud. Fodd bynnag, lle ceir gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir, mae cyfreithiau y mae’n rhaid eu dilyn i sicrhau bod hyn yn dryloyw. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu manylion at ddeunydd etholiad i ddangos pwy sy’n gyfrifol am ei gyhoeddi (a elwir yn ‘argraffnodau’) a chydymffurfio â chyfyngiadau ar wariant a gofynion adrodd.

Mae'r canllaw hwn yn rhoi manylion am y cyfreithiau hyn a sut y byddant yn berthnasol i chi os ydych yn gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Cefndir

Cefndir 

Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddyletswydd newydd ar y Comisiwn Etholiadol i lunio Cod Ymarfer ar y cyfreithiau sy'n ymwneud â gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae'r Cod yn wahanol i'r mathau eraill o ganllawiau rydym yn eu paratoi am ei fod wedi cael ei gymeradwyo gan Senedd y DU. Mae'r Cod yn gymwys i etholiadau i Senedd y DU a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Bydd yn rhaid i'r Comisiwn roi sylw i'r Cod wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 6 o PPERA. Mae'r rhan hon yn nodi'r cyfreithiau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau PPERA. Mae'n amddiffyniad statudol i ymgyrchydd nad yw'n blaid ddangos ei fod wedi cydymffurfio â'r Cod wrth benderfynu a oedd ei weithgarwch ymgyrchu yn weithgarwch a reoleiddir.

Mae'r canllawiau anstatudol hyn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn ategu'r Cod â gwybodaeth ychwanegol, cyngor ac enghreifftiau i'ch helpu i ddeall y cyfreithiau. Rydym hefyd wedi darparu astudiaethau achos o ymgyrchoedd go iawn i'ch arwain wrth bennu pa derfynau neu ofynion adrodd sy'n gymwys i'ch gweithgareddau ymgyrchu.

Pan fydd dyfyniadau o'r Cod, byddant yn ymddangos mewn blychau testun coch.

Caiff y termau allweddol eu hesbonio drwy'r ddogfen a'u rhoi fel rhestr yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd y canllawiau.
 

Who is this guidance for?

I bwy mae'r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer unigolion a sefydliadau sy'n ystyried ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr.

Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn 

Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.

Rydym yn defnyddio ‘chi’ pan fyddwn yn cyfeirio at yr unigolyn neu'r sefydliad sy'n gwario, neu sy'n bwriadu gwario, arian ar ymgyrchu cyn etholiad.

 

Diweddariadau i'n canllawiau

Dyddiad y diweddariadDisgrifiad o'r newid
Mai 2024

Diweddariadau i enghreifftiau o ymgyrchu ar y cyd

Ebrill 2024

Diweddariadau i ddarparu eglurder ynghylch pryd y mae angen i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gyflwyno adroddiadau ar roddion cyn y bleidlais

Rhagfyr 2023

Diweddariadau i adlewyrchu'r terfynau gwariant newydd