Rhoi cyfrif am y gwariant

Os ydych yn cynnal hustyngau annetholus, ni chaiff eich gwariant ei reoleiddio.

Fel arfer mae gwariant ar hustyngau yn isel ac mae'n anhebygol y bydd gwariant ar hysting detholus yn unig yn golygu eich bod am gyrraedd eich terfyn gwario neu gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol.

Os ydych yn cynnal hustyngau detholus, dylech gadw cofnod o’r hyn rydych yn ei wario ynghyd ag unrhyw wariant arall ar ymgyrchu rheoledig, a byddwch yn ymwybodol o'r trothwyon cofrestru a'r terfynau gwariant.

Mae cyfyngiadau gwariant ym mhob etholiad. Yn ystod y cyfnod rheoledig cyn rhai etholiadau mawr, bydd yn ofynnol i ymgyrchwyr gofrestru os ydyn nhw'n gwario dros swm penodol.

Os ydych yn gwario llawer o arian ar drefnu hustyngau detholus, neu os ydych yn gwneud unrhyw weithgarwch ymgyrchu arall yn ystod cyfnod a reoleiddir, yna efallai bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r trothwyon cofrestru a therfynnau gwariant.

Mae rhagor a fanyloin ar gael ar ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr neu ein canllawiau ar gyfer pleidiau.

Gwariant ymgeisydd neu barti

Mewn rhai achosion bydd rhaid i'r ymgeisydd neu'r blaid roi cyfrif am y gwariant a wneid ar hustyngau dethol. Gall hyn fod yn wir am hustyngau mewn unrhyw etholiad.

  • Os yw ymgeisydd neu blaid yn talu ffi i fynychu'r hustyngau (p'un a yw'n ddetholus neu'n annetholus), bydd hyn yn cyfrif fel gwariant etholiad a rhaid ei adrodd yn y ffurflen berthnasol.
  • Mewn rhai hustyngau, bydd costau cynnal y digwyddiad yn cyfrif fel gwariant etholiad ar gyfer yr ymgeiswyr neu'r pleidiau dan sylw. Bydd hyn yn wir os yw'r hustyngau yn cael eu rhedeg er budd yr ymgeiswyr neu'r pleidiau hynny.

Os ydych chi'n credu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â ni cyn i chi ddal yr hustyngau. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024