Hustyngau annetholus yw hustyngau na ellir eu gweld yn rhesymol fel y'u bwriedir i ddylanwadu pleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu gategorïau o ymgeiswyr.
Yn ein barn ni, bydd eich hustyngau yn annetholus os yw'r canlynol yn berthnasol:
rydych wedi gwahodd pob ymgeisydd neu blaid y gwyddoch sy'n sefyll yn yr etholaeth, rhanbarth neu ardal etholiadol arall, neu
mae gennych resymau diduedd dros beidio â gwahodd rhai ymgeiswyr neu bleidiau
Gall resymau diduedd ddeillio o'r ystyriaethau canlynol:
adnoddau a phethau ymarferol eraill sy'n cyfyngu ar nifer y rhai y gellir eu gwahodd, er enghraifft amser neu le
pryderon ynghylch diogelwch
amlygrwydd lleol rhai pleidiau neu ymgeiswyr dros eraill
nifer y cynrychiolwyr etholedig ar lefel leol neu genedlaethol