Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 383
Ym Mwletin yr wythnos hon...
- Adroddiad ar etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ac etholiadau mis Mai 2024
- Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2025
- Llythyrau ail-ymgeisio am bleidlais bost
Adroddiad ar etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ac etholiadau mis Mai 2024
Heddiw (dydd Mercher 13 Tachwedd), cyhoeddwyd ein hadroddiad ar etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ac etholiadau mis Mai 2024 yng Nghymru a Lloegr. Mae'r adroddiad yn edrych ar sut y cafodd yr etholiadau eu cynnal, beth oedd barn pleidleiswyr ac ymgyrchwyr ar gymryd rhan, a pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
Ar y cyfan, canfuom fod etholiadau misoedd Mai a Gorffennaf 2024 wedi cael eu rhedeg yn dda, ac mae pleidleiswyr yn parhau i fod â lefelau uchel o hyder a boddhad yn yr arolygon barn. Cyflawnodd gweinyddwyr etholiadol o dan amgylchiadau heriol ond roedd tystiolaeth o haenau newydd o risg a chymhlethdod yn ychwanegu at broses sydd eisoes dan bwysau. Mae gallu a gwydnwch cyflenwyr mewn rhai rhannau o’r DU yn parhau i fod yn bryder allweddol i weinyddwyr, yn ogystal â sicrhau systemau digidol cydgysylltiedig cwbl weithredol.
- Ni weithiodd yr opsiynau pleidleisio ar gyfer etholwyr tramor yn ddigon da gydag ychydig dros hanner (52%) o bleidleiswyr tramor cofrestredig a ddewisodd bleidleisio drwy'r post yn dychwelyd eu papur pleidleisio yn llwyddiannus mewn pryd i gael eu cyfrif yn yr etholiad cyffredinol.
- Er bod gweinyddwyr yn darparu cymorth i bleidleiswyr anabl - roedd bron pob gorsaf bleidleisio yn darparu'r rhan fwyaf o eitemau hygyrchedd fel y nodir yn y canllawiau - roedd llawer o bobl yn dal heb fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt mewn gorsafoedd pleidleisio.
- Ni weithiodd systemau pleidleisio drwy’r post yn ddigon da i rai pleidleiswyr eleni, a oedd yn golygu na chawsant eu pleidleisiau post mewn pryd er mwyn eu dychwelyd cyn y diwrnod pleidleisio. Roedd y rhesymau am hyn yn cynnwys diffyg dealltwriaeth o’r amser sydd ei angen i brosesu a dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy’r post ac argaeledd pleidleisio drwy ddirprwy, cynnydd mewn ceisiadau pleidlais absennol yn agos at y dyddiad cau, a’r ffaith bod yr etholiad yn cyd-daro â chyfnod gwyliau’r haf yn rhai rhannau o'r DU.
- Gwelodd yr etholiad cyffredinol y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr yn sefyll ac roedd pleidleiswyr yn gallu clywed ystod eang o safbwyntiau. Fodd bynnag, profodd llawer lefelau annerbyniol o aflonyddu a bygythiadau, yn enwedig menywod ac ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr i’n harolwg ymgeiswyr eu bod wedi osgoi rhyw fath o ymgyrchu oherwydd ofn camdriniaeth.
Ein hargymhellion
Rydym wedi nodi nifer o welliannau sylweddol i gefnogi cyfranogiad ac ymddiriedaeth mewn etholiadau yn y dyfodol ac wedi gwneud cyfres o argymhellion, gan gynnwys i lywodraethau'r DU. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gwella ymwybyddiaeth o’r cymorth hygyrchedd sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys drwy ddarparu gwybodaeth gliriach ar-lein ac all-lein.
- Diwygio prosesau pleidleisio absennol (gan gynnwys pleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy) i wella’r gwasanaeth i bleidleiswyr a chryfhau gwydnwch ar gyfer etholiadau yn y dyfodol. Mae meysydd allweddol ar gyfer diwygio posibl yn cynnwys:
- Gwella'r wybodaeth a roddir i bleidleiswyr cyn ac ar ôl iddynt wneud cais i bleidleisio drwy'r post
- Ystyried a yw'r dyddiad cau presennol ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost yn caniatáu digon o amser i brosesu a chyhoeddi pleidleisiau post
- Rheolau mwy hyblyg ar gyfer ailddosbarthu pleidleisiau post i bleidleiswyr nad ydynt wedi derbyn eu rhai hwy
- Nodi ffyrdd i bleidleiswyr tramor allu pleidleisio'n ddiogel ac mewn pryd. Mae meysydd allweddol ar gyfer gwelliant posibl yn cynnwys edrych ar y dyddiadau cau presennol ar gyfer ceisiadau ac archwilio dulliau amgen o gyflwyno papurau pleidleisio i bleidleiswyr.
- Mynd i'r afael â cham-drin a brawychu ymgeiswyr ac ymgyrchwyr. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ar draws y gymuned etholiadol ehangach i ddeall beth sy’n ysgogi camdriniaeth a bygythiadau, ac i ddatblygu ymatebion effeithiol ar y cyd i fynd i’r afael â’r problemau hyn.
- Adolygu a ddylid cryfhau'r broses enwebu ymgeiswyr er mwyn ei gwneud yn anoddach i ymgeiswyr gamarwain pleidleiswyr ynghylch eu gwir hunaniaeth.
- Mynd i’r afael â’r heriau i wydnwch y system etholiadol, gan gynnwys cyllid. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad strategol o gofrestru etholiadol yn ddiweddar, a dylai hwn ystyried a yw’r cyllid i gynnal etholiadau cyffredinol yn parhau i fod yn briodol ac yn ddigonol i gyflawni mewn ffordd sy’n bodloni disgwyliadau pleidleiswyr. Er y gall fforymau fel BCEC/ y Bwrdd Rheoli Etholiadol sicrhau bod mesurau lliniaru ac wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith, mae perygl y bydd methiant y gadwyn gyflenwi yn amharu ar y system gyfan.
- Gwella systemau digidol i gefnogi gweinyddwyr etholiadol yn well. Dylai Llywodraethau’r DU a Chymru weithio gyda’r gymuned etholiadol i barhau i wella’r systemau digidol y mae’n eu darparu a sicrhau ei bod yn rheoli’r broses o roi newidiadau i systemau digidol ar waith yn ofalus.
Gyda’r etholiad cyffredinol trefnedig nesaf bum mlynedd i ffwrdd, mae cyfle i wneud diwygiadau pwysig i sicrhau bod y system yn barod ac yn wydn. Rydym yn barod i weithio gyda llywodraeth y DU a’r gymuned etholiadol ehangach i sicrhau bod y system yn y sefyllfa orau i gefnogi’r rhai sy’n cynnal etholiadau. Rydym wedi ymrwymo i bwysigrwydd rhoi newidiadau ar waith mewn digon o amser i'r gymuned etholiadol baratoi cyn etholiadau yn y dyfodol.
Gallwch ddarllen ein canfyddiadau a'n hargymhellion yn llawn yn ein hadroddiad (Cymraeg a Saesneg).
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2025
Bob blwyddyn, rydym yn gofyn i ysgolion a grwpiau ieuenctid ymuno â ni i ddathlu democratiaeth drwy gyflwyno sesiynau addysg ddemocrataidd i'w myfyrwyr a'u pobl ifanc.
Bydd Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 10 Mawrth a dydd Sul 16 Mawrth 2025.
Ein nod yw helpu pobl ifanc i feithrin y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i fwrw eu pleidlais ac i ddarganfod ffyrdd eraill o gymryd rhan mewn democratiaeth. Mae Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn cynnig cyfle penodol i athrawon ac addysgwyr ddechrau'r sgwrs gyda'u pobl ifanc.
Cofrestrwch nawr i gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2025 er mwyn cael adnoddau am ddim i'ch helpu i gymryd rhan yn ystod yr wythnos honno.
Mae ein hadnoddau addysg drwy gydol y flwyddyn hefyd ar gael i'ch helpu i gymryd rhan yn yr wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys:
- cyfres o chwe chynllun gwers, wedi'u teilwra at y cwricwlwm
- adnoddau ar ffurf prosiect ar sut i gynnal refferendwm neu ymgyrch i gofrestru pleidleiswyr yn yr ysgol
- gweithgareddau byr i grwpiau ieuenctid neu i'w cynnal yn ystod amser dosbarth neu amser cofrestru
- gwybodaeth sy'n addas i bobl ifanc gan gynnwys cwisiau a fideos wedi'u hanimeiddio
- canllawiau ar sut i gynnwys addysg ddemocrataidd fel rhan o'r cwricwlwm i Gymru
Ceir rhagor o wybodaeth am Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yma.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am yr wythnos, anfonwch e-bost i [email protected]
Llythyrau ail-ymgeisio am bleidlais bost
Ym Mwletin 382 darparwyd dolenni i lythyrau ailymgeisio am bleidlais bost i'ch cefnogi gyda'r gofyniad i ysgrifennu at etholwyr domestig sydd â threfniant pleidleisio drwy'r post ar waith sydd i fod i ddod i ben ar 31 Ionawr bob blwyddyn.
Er y gallwch anfon eich llythyrau ailymgeisio am bleidlais bost at unrhyw etholwyr yr effeithir arnynt nawr, ni ddylech ganslo unrhyw bleidleisiau post o ganlyniad i fethiant i wneud cais tan ar ôl y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2026.
Fel y manylir yn ein canllawiau ar y broses ailymgeisio, mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ysgrifennu at yr holl etholwyr y mae eu pleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i fod i ddod i ben erbyn 31 Ionawr 2026 yn eu gwahodd i ailymgeisio.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y broses ar gyfer hysbysu pleidleiswyr post am y gofyniad i ailymgeisio ac yn ein canllawiau ar gynnwys yr hysbysiad ailymgeisio pleidlais bost, y dylid ei ddarllen ochr yn ochr â'r templed llythyr ailymgeisio.
Ar gyfer etholwyr sydd â threfniant pleidleisio drwy’r post parhaol ar gyfer etholiadau’r Senedd a/neu etholiadau llywodraeth leol, mae’r trefniadau presennol yn parhau yn eu lle. Pan fydd llofnod pleidleiswyr post ar gofnod dynodyddion personol yn fwy na phum mlwydd oed, mae’n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu hysbysu bod angen llofnod newydd er mwyn i’w trefniant/trefniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholiadau hyn barhau. Yn yr achos hwn, dylid canslo pleidleisiau absennol os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos i anfon yr hysbysiad gwreiddiol.
Gallwch ddod o hyd i'n canllawiau ar adnewyddu pleidleisiau post yma.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am y broses, neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â’ch tîm comisiwn lleol a fydd yn hapus i helpu.